Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Dydd Gwener, 16eg Tachwedd, 2018 10.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. George (Cyngor Sir Powys).

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith nad oedd y Cynghorydd Eryl Morgan yn aelod o'r Panel mwyach ac awgrymodd y dylid anfon llythyr ato yn ddiolch iddo am ei gyfraniad i'r Panel yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLanfon llythyr at y Cynghorydd Eryl Morgan yn diolch iddo am ei gyfraniad i'r Panel yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1 Cofnod 5.1 – Eitem Agenda, Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Gyswllt Ysgolion Cymru Gyfan SchoolBeat. Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu'r rhaglen am 12 mis arall, o fis Ebrill 2019 hyd at fis Mawrth 2020. Cyhoeddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y bydd yr amser hwn yn cael ei ddefnyddio i baratoi, ar y cyd â lluoedd eraill, adroddiadau a thystiolaeth ynghylch manteision y rhaglen ledled Cymru.

 

4.2. Cofnod 5.2 - Eitem Agenda, Cwestiwn gan y Cynghorydd M. James

 

Yn dilyn gwahoddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i aelodau'r Panel fynychu cyfarfodydd Fforymau a Phartneriaid Troseddau Gwledig y Prif Gwnstabl, gofynnwyd am wybodaeth bellach yngl?n â dyddiadau'r cyfarfodydd. Cyhoeddodd y Comisiynydd y bydd gwahoddiadau gyda dyddiadau penodol yn cael eu dosbarthu. Eglurodd hefyd fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar ddwy lefel ar hyn o bryd: cyfarfodydd ar lefel strategol dan gadeiryddiaeth y Prif Gwnstabl, a chyfarfodydd Tîm Troseddu Gwledig ar sail sirol sy'n gyfarfodydd amlasiantaethol.

 

Codwyd cwestiwn dilynol ynghylch cynrychiolaeth Heddlu Dyfed-Powys yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, sy'n cynrychioli pen-blwydd cyntaf lansiad y Strategaeth Troseddau Gwledig. Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y bydd y Tîm Troseddau Gwledig yn bresennol yn y ffair a'u bod yn cynnig rhannu manylion ynghylch digwyddiadau penodol gydag Aelodau'r Panel.

 

4.3 Cofnod 7 – Eitem Agenda, Penderfyniadau'r Comisiynydd

 

Gofynnwyd am gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y dyddiad penodol ar gyfer agoriad Canolfan Tîm Plismona Bro Caerfyrddin a chysondeb oriau agor y Tîm Plismona Bro ar draws y llu. Atebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, hyd y gwyddai, fod canolfan Caerfyrddin ar agor ac yn weithredol. Dywedodd hefyd fod oriau agor canolfannau Timau Plismona Bro yn ogystal â gorsafoedd heddlu mwy o faint yn cael eu hadolygu fel rhan o waith ehangach yn ymwneud â'r galw, dan arweiniad y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Evans. Nid oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gallu rhoi dyddiad penodol ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn.

 

4.4. Cofnod 8 – Eitem Agenda, Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu

 

Gofynnwyd am ddiweddariad yngl?n ag a fyddai modd rhannu canlyniadau arolwg staff diweddar â'r Panel. Ymatebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy ddweud y bydd canlyniadau arolwg y llynedd yn cael eu hanfon at aelodau'r Panel ac y bydd canlyniadau'r arolwg diweddaraf yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael. Nododd fod yr arolwg diweddaraf yn seiliedig ar sampl ychydig yn fwy ac felly mae'n darparu canlyniadau mwy dibynadwy. Nododd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd fod arolwg staff y llynedd yn dangos cynnydd yng nghymhelliant y staff, sy'n mynd yn groes i'r duedd genedlaethol o leihad yng nghymhelliant yr heddlu.

 

Mewn perthynas â mesur galwadau 101 ar gyfartaledd, nodwyd bod aelodau'r cyhoedd wedi adrodd bod yna oedi wrth geisio mynd drwodd. Ymatebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy ddweud mai tua 70 eiliad yw hyd galwadau'r llu ar gyfartaledd, ond ei fod yn ymwybodol bod hyn yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN A.T. O SIR GAERFYRDDIN

Roeddwn i'n synnu gweld nad yw'r panel yn cynrychioli'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu.  Dim ond un fenyw h?n â chroen gwyn sydd ar y panel ac mae'r gweddill yn ddynion h?n â chroen gwyn. A ellid rhoi system ar waith er mwyn sicrhau bod aelodau'r panel yn adlewyrchiad gwell o'n cymdeithas? Dylai'r system hon sicrhau bod menywod ifancach ar y panel, yn enwedig mamau sydd â chyfrifoldebau o ran gofal plant, aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gr?p Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, aelod o'r panel sy'n anabl ac aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Pam y penderfynwyd y dylai'r panel gynnwys cynghorwyr sir, oherwydd mae'r rhain yn bennaf yn ddynion h?n, strêt â chroen gwyn sydd wedi ymddeol. Mae gennym gymdeithas batriarchaidd iawn o hyd lle mae hiliaeth a rhywiaeth strwythurol a sefydliadol yn bodoli ac nid yw'r panel hwn yn gwneud dim i geisio mynd i'r afael â hyn. Gan fod mwyafrif aelodau'r panel yn cynrychioli yn bennaf un gr?p o'n cymdeithas amrywiol, golygir eu bod yn debygol o ddangos tueddiadau yn yr isymwybodol yn erbyn grwpiau penodol a gall hyn gyfrannu at wneud penderfyniadau gwael a gwahaniaethu yn erbyn y grwpiau hynny o bobl.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Roeddwn i'n synnu gweld nad yw'r panel yn cynrychioli'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu. Dim ond un fenyw h?n â chroen gwyn sydd ar y panel ac mae'r gweddill yn ddynion h?n â chroen gwyn. A ellid rhoi system ar waith er mwyn sicrhau bod aelodau'r panel yn adlewyrchiad gwell o'n cymdeithas? Dylai'r system hon sicrhau bod menywod ifancach ar y panel, yn enwedig mamau sydd â chyfrifoldebau o ran gofal plant, aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gr?p Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, aelod o'r panel sy'n anabl ac aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Pam y penderfynwyd y dylai'r panel gynnwys cynghorwyr sir, oherwydd mae'r rhain yn bennaf yn ddynion h?n, strêt â chroen gwyn sydd wedi ymddeol. Mae gennym gymdeithas batriarchaidd iawn o hyd lle mae hiliaeth a rhywiaeth strwythurol a sefydliadol yn bodoli ac nid yw'r panel hwn yn gwneud dim i geisio mynd i'r afael â hyn. Gan fod mwyafrif aelodau'r panel yn cynrychioli yn bennaf un gr?p o'n cymdeithas amrywiol, golygir eu bod yn debygol o ddangos tueddiadau yn yr isymwybodol yn erbyn grwpiau penodol a gall hyn gyfrannu at wneud penderfyniadau gwael a gwahaniaethu yn erbyn y grwpiau hynny o bobl.”

 

Ymateb gan y Cadeirydd

“Caiff cyfansoddiad Paneli Heddlu a Throseddu ei bennu gan Atodlen 6 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Mewn perthynas â Phaneli Cymru, mae'r atodlen yn nodi mai'r Ysgrifennydd Gwladol fydd yn rhagnodi nifer y cynghorwyr o bob awdurdod lleol perthnasol sy'n aelodau o Banel. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gytuno ar nifer yr aelodau cyfetholedig y gall y panel ei benodi.

 

Yn achos Panel Dyfed-Powys, penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai'r 4 Cyngor yn ardal y llu yn gallu penodi 3 chynghorydd fel aelodau o'r panel. Yn ogystal, byddai'r panel yn gallu penodi 2 aelod cyfetholedig.

 

Yn dilyn etholiadau'r awdurdodau lleol yn 2017, ysgrifennodd Swyddog Arweiniol y Panel at Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd y 4 Cyngor i'w hatgoffa nhw ynghylch y gofyniad statudol i adlewyrchu cydbwysedd daearyddol a gwleidyddol eu hawdurdodau perthnasol gan fynegi gobaith y byddai unrhyw enwebiadau hefyd yn adlewyrchu cydbwysedd rhyw, oedran a hil eu cymunedau.

 

Er y cydnabyddir nad yw aelodaeth gyfredol y panel yn adlewyrchiad cywir o gydbwysedd oedran, rhyw a hil cymdeithas yn ardal y llu, mae hyn yn bennaf oherwydd y cydbwysedd o ran aelodaeth y 4 Cyngor. Nid oes gan y panel ei hun ddim p?er i newid hyn.

 

Dim ond mewn perthynas â'r aelodau cyfetholedig y mae gan y panel unrhyw fewnbwn o ran pwy sy'n cael ei benodi. Yn ystod yr ymarfer recriwtio cyhoeddus diwethaf ar gyfer aelodau cyfetholedig yn 2016, derbyniwyd wyth cais ac o'r rheiny, roedd 2 o'r ceisiadau hynny gan fenywod. Cafodd un o'r menywod hynny ei phenodi.

 

O dan yr amgylchiadau, rwy'n cynnig felly bod y camau canlynol yn cael eu cymryd;

 

1.                  Yn dilyn etholiadau nesaf yr awdurdodau lleol, bod Swyddog Arweiniol y Panel yn ysgrifennu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

TroseddauIeuenctid

 

Nododd y Gweinidog Cyfiawnder mewn adroddiad diweddar fod nifer y bobl ifanc sy'n eu cael yn euog o droseddau yn ardal Ceredigion wedi lleihau'n sylweddol dros y 12 mlynedd diwethaf.  Mewn gwirionedd, mae'r nifer 75% yn is.  Mae'r ffigurau ar gyfer 2017 yn dangos bod 37 o bobl wedi troseddu am y tro cyntaf.

 

Aoes gan y Comisiynydd ddata cyffelyb ar gyfer gweddill ardal y llu?

 

Mae'rComisiynydd yn gwario swm sylweddol o arian ar gynlluniau i gefnogi ein Hieuenctid ac atal troseddu.  Os yw data'n dangos lleihad tebyg yng ngweddill ardal y llu ac o gofio'r pwysau enfawr ar gyllidebau, a fydd y Comisiynydd yn lleihau'r adnoddau a ddyrannwyd i'r maes gwaith hwn?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Troseddau Ieuenctid

 

“Nododd y Gweinidog Cyfiawnder mewn adroddiad diweddar fod nifer y bobl ifanc sy'n eu cael yn euog o droseddau yn ardal Ceredigion wedi lleihau'n sylweddol dros y 12 mlynedd diwethaf.  Mewn gwirionedd, mae'r nifer 75% yn is. Mae'r ffigurau ar gyfer 2017 yn dangos bod 37 o bobl wedi troseddu am y tro cyntaf.

 

A oes gan y Comisiynydd ddata cyffelyb ar gyfer gweddill ardal y llu?

 

Mae'r Comisiynydd yn gwario swm sylweddol o arian ar gynlluniau i gefnogi ein Hieuenctid ac atal troseddu. Os yw'r data'n dangos lleihad tebyg yng ngweddill ardal y llu ac o gofio'r pwysau enfawr ar gyllidebau, a fydd y Comisiynydd yn lleihau'r adnoddau a ddyrennir i'r maes gwaith hwn?”

 

Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod yr adroddiad yn adlewyrchu tuedd hirdymor o ostyngiad mewn troseddau ieuenctid ar draws holl siroedd Dyfed-Powys. Priodolodd y gostyngiad i waith llwyddiannus sefydliadau ieuenctid a rhaglenni megis SchoolBeat. Mae'r rhaglenni hyn yn ymdrin â throseddau llai difrifol yng nghyd-destun yr ysgol i atal pobl ifanc rhag dioddef stigma trwy fynd drwy'r broses cyfiawnder ffurfiol. Awgrymodd y Comisiynydd y gallai'r gostyngiad o 85% mewn troseddwyr tro cyntaf dros y 10 mlynedd diwethaf, a nodwyd gan Ystadegau Cyfiawnder Ieuenctid y  Weinyddiaeth Cyfiawnder 2016/17, gael ei briodoli i raddau helaeth i lwyddiant rhaglenni o'r fath. Tynnodd sylw hefyd ar y ffaith fod cyfanswm y cyllid ar gyfer y rhaglenni hyn, yn Nyfed-Powys, yn dod i 10% (£180,000) o gyllid ei Swyddfa a dim ond 0.1% o gyllid ehangach Heddlu Dyfed-Powys a'r Comisiynydd. Daeth i'r casgliad na ddylid lleihau'r cyllid ac yn hytrach gwnaeth ymrwymiad parhaus i ariannu'r rhaglenni yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Codwyd cwestiwn yngl?n â sut yr oedd effeithiolrwydd y gwariant yn cael ei fesur ym maes atal. Atebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy ddweud fod ymchwil gan Dr Gareth Norris o Brifysgol Aberystwyth yn mesur gostyngiad ystadegol sylweddol mewn troseddau ieuenctid. Cyhoeddodd y bydd y canfyddiadau meintiol hyn yn cael eu cyplysu â data ansoddol er mwyn ategu llwyddiant y rhaglenni.

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018

 

Er y derbynnir ei bod yn amhosibl rhagweld yn fanwl gywir y gofynion a allai fod ar y llu yn y dyfodol, yn enwedig yn sgil digwyddiadau a thrychinebau unigryw, gellid dadlau nad oedd rhywfaint o'r rhagolygon cyllidebu ar gyfer 2017-2018 mor gadarn ag y gallent fod.  Pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd i sicrhau y bydd rhagolygon o'r fath mor gadarn ag y bo'n rhesymol yn y dyfodol?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DATGANIAD CYFRIFON ar gyfer 2017-2018

 

“Er y derbynnir ei bod yn amhosibl rhagweld yn fanwl gywir y gofynion a allai fod ar y llu yn y dyfodol, yn enwedig yn sgil digwyddiadau a thrychinebau unigryw, gellid dadlau nad oedd rhywfaint o'r rhagolygon cyllidebu ar gyfer 2017-2018 mor gadarn ag y gallent fod. Pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd i sicrhau y bydd rhagolygon o'r fath mor gadarn ag y bo'n rhesymol yn y dyfodol?”

 

Atebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod ei Brif Swyddog Ariannol yn gweithio gyda'r heddlu i adolygu'r holl feysydd rheolaeth ariannol. Adroddodd fod y Prif Gwnstabl wedi sefydlu Gr?p Aur Cyllid gyda'r holl uwch reolwyr er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyson o faterion ariannol ar draws yr holl feysydd busnes. Adroddodd hefyd am y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu manwl, sy'n pennu'r adolygiad o gyflogau swyddogion yr heddlu, lefelau staffio, trefniadau goramser, caffael a chynhyrchu incwm. Nododd y Comisiynydd ei fod yn derbyn adroddiadau ariannol gan y Prif Gwnstabl yn fisol a bod y Prif Swyddog Cyllid yn cwrdd ddwywaith yr wythnos â'r Cyfarwyddwr Cyllid. Pwysleisiodd fod y Prif Gwnstabl wedi cryfhau ei dîm Cyllid i wella'r cymorth rheolaeth ariannol ac wedi newid dulliau adrodd er mwyn gallu adrodd ar y gyllideb mewn modd mwy cadarn ac amserol. Yn ogystal, mae archwiliad rheolaeth ariannol wedi'i gynnwys yn y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2018/19. Nododd y Comisiynydd hefyd y bydd digwyddiadau mawr a chritigol yn parhau i fod yn anodd eu rhagweld ac efallai y bydd angen neilltuo cronfa gyffredinol wrth gefn i sicrhau sefydlogrwydd ariannol. Yn ogystal, bydd aelodau o'r tîm Cyllid Corfforaethol yn cynghori pob Gr?p Aur Gweithredol ynghylch goblygiadau ariannol digwyddiadau mawr.

 

Croesawodd y Panel ymateb y Comisiynydd fel un calonogol, yn enwedig y mentrau gyda golwg ar gaffael, cyllid allanol a sefydlu cronfa wrth gefn ar gyfer digwyddiadau critigol.

6.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018

 

Ymddengys fod cymhariaeth o'r asedau a'r rhwymedigaethau a ddangosir yn y datganiad cyfrifon ar gyfer 16/17 a 17/18 yn dangos gwanhad sylweddol o ran iechyd ariannol cyffredinol y gyllideb.  A yw hyn yn rhan o duedd hirach ac os felly, pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd i'w wrthdroi?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DATGANIAD CYFRIFON ar gyfer 2017-2018

 

“Ymddengys fod cymhariaeth o'r asedau a'r rhwymedigaethau a ddangosir yn y datganiad cyfrifon ar gyfer 16/17 a 17/18 yn dangos gwanhad sylweddol o ran iechyd ariannol cyffredinol y gyllideb. A yw hyn yn rhan o duedd hirach ac os felly, pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd i'w wrthdroi?”

 

Atebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod y mater hwn yn bodoli'n bennaf oherwydd gostyngiadau cyllido oddi wrth y Trysorlys yn Llundain. Pwysleisiodd bod y fantolen yn rhoi cipolwg yn unig o'r sefyllfa ariannol, a reolir ar hyn o bryd gan rwymedigaethau hirdymor, yn enwedig pensiynau. Eglurodd y Comisiynydd fod cwymp o £130 miliwn wedi bod mewn rhwymedigaethau pensiwn yn ystod y flwyddyn gyfredol oherwydd newidiadau yn y tybiaethau ariannol a demograffig, a bod y gostyngiad mewn asedau hirdymor o £86.2 i £84.5 miliwn i raddau helaeth oherwydd iddynt gael eu hailddosbarthu fel asedau cyfredol (£1.9 miliwn). Tynnodd y Comisiynydd sylw at y ffaith y bydd holl gostau pensiwn yr heddlu presennol a rhai'r dyfodol (ond nid staff) yn cael eu talu gan y Llywodraeth. Nododd hefyd fod y gostyngiad cyfan mewn cronfeydd wrth gefn o £27.2 i £20.5 miliwn wedi'i achosi gan fuddsoddiadau mewn gweithgareddau a seilwaith yn ogystal â phwysau refeniw megis setliad cyflog yr heddlu y llynedd. Mynegodd y Comisiynydd bryder bod y duedd gyson o leihau cronfeydd wrth gefn ar draws yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael ei sbarduno gan bolisïau'r DU. Cyhoeddodd y bydd lefel orau bosibl y cronfeydd wrth gefn ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei nodi, gan roi ystyriaeth ofalus iddi. Dywedodd hefyd y bydd y defnydd o bron pob cronfa gyfalaf wrth gefn yn y cynllun ariannol tymor canolig yn mynd tuag at ddatblygiadau seilwaith hanfodol, gan felly gynyddu'r asedau lle bo'n briodol. Tynnodd y Comisiynydd sylw Aelodau'r Panel at seminar ar ddiwedd y mis a fydd yn gyfle i drafod y materion hyn yn fanylach.

 

Cytunai'r Panel fod gwerthu asedau a defnyddio cronfeydd wrth gefn yn anghynaliadwy, ond roedd yn cydnabod fod cynlluniau ariannol y Comisiynydd yn ddoeth o ystyried yr amgylchiadau.

6.4

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018

 

Ar dudalen 69 y datganiad cyfrifon, o dan y pennawd 'incwm segmentol' nodwyd ffigwr o £1,067,000 gan y 'Gyfarwyddiaeth Adnoddau'.  A allai'r Comisiynydd esbonio â beth a wnelo hyn?  A yw'r Comisiynydd yn fodlon y gwneir pob ymdrech i fanteisio i'r eithaf ar ffrydiau incwm sydd ar gael er mwyn lleihau pwysau cyllidebol a'r baich ar drethdalwyr lleol.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DATGANIAD CYFRIFON ar gyfer 2017-2018

 

“Ar dudalen 69 y datganiad cyfrifon, o dan y pennawd 'incwm segmentol' nodwyd ffigwr o £1,067,000 gan y 'Gyfarwyddiaeth Adnoddau'. A allai'r Comisiynydd esbonio â beth a wnelo hyn? A yw'r Comisiynydd yn fodlon y gwneir pob ymdrech i fanteisio i'r eithaf ar ffrydiau incwm sydd ar gael er mwyn lleihau pwysau cyllidebol a'r baich ar drethdalwyr lleol?”

 

Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod yr eitem 'incwm segmentol' yn cynnwys ystod o adrannau o fewn portffolio'r Cyfarwyddwr Adnoddau ac yn adlewyrchu'r gofyniad adrodd newydd i gysoni'r adroddiadau segmentol. Mae'r eitem yn cynnwys ffigurau megis y cynllun adfer cerbydau (£96,000), incwm rhannu safle (£313,000), rhentu adeiladau a thir (£365,000), incwm trwyddedu drylliau tanio (£278,000), a ffioedd cyrsiau a chynadleddau (£15,000).

 

Dywedodd y Comisiynydd fod Heddlu Dyfed-Powys wrthi'n archwilio ffrydiau incwm ond y gellid gwneud mwy yn y meysydd a nodwyd. Adroddodd am archwilio cyfleoedd i greu incwm pellach trwy ddarparu cyrsiau hyfforddi i luoedd eraill ac asiantaethau partner. Tynnodd sylw at y ffaith y bydd is-gr?p Aur Cyllid y Prif Gwnstabl hefyd yn adolygu cyfleoedd i greu incwm, gan gynnwys datblygu ystadau, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth a threfniant codi tâl am wasanaethau heddlu arbenigol. Yn ogystal, rhoddodd bwyslais ar lobïo trafodaethau cenedlaethol i adolygu'r cynllun adfer cerbydau a thrwyddedu drylliau tanio a gweithio ar gyfleoedd cyllid grant. Yng nghyswllt yr olaf, adroddodd am lwyddiannau diweddar gyda golwg ar grant Bwrdd Diwygio a Thrawsnewid yr Heddlu ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (£6.7 miliwn ar draws Cymru) a grant Strategaeth Trais Difrifol y Swyddfa Gartref (£1 miliwn ar gyfer Cymru, sy'n cyfateb i oddeutu £200,000 ar gyfer Dyfed-Powys).

6.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018

 

“O ystyried agwedd y Llywodraeth bresennol at ariannu'r gwasanaeth heddlu yn genedlaethol, a fu unrhyw awgrym fod grant atodol y Swyddfa Gartref ar gyfer pensiynau o dan fygythiad?  O ystyried y potensial i rwymedigaethau pensiynau roi baich sylweddol ar y gyllideb, a ystyrir materion o'r fath wrth ganiatáu ymddeol yn gynnar?  Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau y mae'r materion hyn yn eu hachosi?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DATGANIAD CYFRIFON ar gyfer 2017-2018

 

“O ystyried agwedd y Llywodraeth bresennol at ariannu'r gwasanaeth heddlu yn genedlaethol, a fu unrhyw awgrym fod grant atodol y Swyddfa Gartref ar gyfer pensiynau o dan fygythiad?  O ystyried y potensial i rwymedigaethau pensiynau roi baich sylweddol ar y gyllideb, a ystyrir materion o'r fath wrth ganiatáu ymddeol yn gynnar? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau y mae'r materion hyn yn eu hachosi?”

 

Atebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy ddweud nad yw'r Swyddfa Gartref wedi rhoi unrhyw arwyddion o'r fath. Nododd, fodd bynnag, fod y Cyfarwyddiadau drafft a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi ar 6 Medi yn cynnwys cynnydd sylweddol (22.1% i 31.8%) yng nghyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer Cynlluniau Pensiwn y Gwasanaethau Cyhoeddus. Er y bydd y Swyddfa Gartref yn talu rhan o'r treuliau, byddai Heddlu Dyfed-Powys yn wynebu costau ychwanegol o £1.6 miliwn yng nghyllideb 2019/20 a £2.5 pellach yn 2020/21. Byddai hyn yn arwain at gynnydd mawr yng ngwariant staff Heddlu Dyfed-Powys, sydd eisoes yn cynnwys 80-85% o wariant y gyllideb refeniw. Adroddodd y Comisiynydd y gallai hyn arwain at golli 38 o swyddogion yr heddlu yn 2019/20 a 97 erbyn 2020/21 neu godiadau praesept cyfatebol o 3.2% ac 8.2% yn y drefn honno. Cynigiodd y Comisiynydd fod nodyn briffio ar y pwnc yn cael ei anfon at y Panel. Rhoddodd sicrwydd fod gwasanaethau a chymdeithasau heddlu ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, yn manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at y mater a lobïo arno. 

 

Eglurodd y Comisiynydd ymhellach nad oes yna raglenni cyfredol ar gyfer ymddeoliad cynnar gwirfoddol neu ddileu swyddi, ond fod y cynllun ariannol canol tymor ar gyfer 2018/19 yn cynnwys darpariaethau o'r math hwn. Penderfynwyd cynnwys sgiliau a chymwyseddau fel meini prawf asesu i sicrhau cymysgedd sgiliau effeithiol yn y Llu. Mae adolygiad o sefyllfa ariannol y Llu yn awgrymu y bydd 17 o swyddi swyddogion yr heddlu cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymddeol yn gynnar. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn taliad terfynu cyflogaeth ond ni fyddant yn cael mynediad cynharach i'w pensiwn. Nododd y Comisiynydd fod y cynllun wedi'i ddatblygu gyda chyngor gan Heddlu Gwent, sydd eisoes wedi sefydlu cynllun tebyg. Pwysleisiodd hefyd, er mai cyfrifoldeb y Prif Gwnstabl yw darparu adnoddau yn y pen draw, eu bod yn cynnal deialog agos ynghylch y mater.

 

Croesawodd y Panel y ffaith fod gweithdrefnau cadarn ar gyfer ymddeol yn gynnar yn cael eu sefydlu.

6.6

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018

 

Ar dudalen 81 o'r datganiad cyfrifon yn y golofn 'cyfanswm yr asedau dros ben' nodir £1,437,000 ar gyferasedau a ailddosberthir’.  A fyddai'r Comisiynydd gystal â chadarnhau beth y mae hyn yn ei olygu a pha asedau y mae'n cyfeirio atynt.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DATGANIAD CYFRIFON ar gyfer 2017-2018

 

“Ar dudalen 81 o'r datganiad cyfrifon yn y golofn 'cyfanswm yr asedau dros ben' nodir £1,497,000 ar gyfer ‘asedau a ailddosberthir’. A fyddai'r Comisiynydd gystal â chadarnhau beth y mae hyn yn ei olygu a pha asedau y mae'n cyfeirio atynt?”

 

Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu mai adeiladau yw'r eitemau a ddosberthir fel asedau dros ben, yn bennaf hen orsafoedd heddlu. Eglurodd ymhellach fod yr asedau hyn yn cynnwys:

 

·         gwerth £462,000 o addasiadau i eiddo, peiriannau a chyfarpar sy'n ymwneud ag ailddosbarthu hen adeilad y Gwasanaeth Prawf fel y ganolfan weithredol ar gyfer Caerfyrddin;

·         gwerth £975,000 o ailddosbarthu asedau sy'n debygol o gael eu gwerthu o fewn y flwyddyn fel 'asedau a ddelir i'w gwerthu’.

 

Adroddodd y Comisiynydd fod yr adeiladau sydd i'w gwerthu wedi dod yn faich ariannol yng ngoleuni newidiadau i blismona gweithredol ac y gallai ddarparu rhestr o'r eiddo hynny i'r Panel. Yn ogystal, nododd y Comisiynydd mai ei Swyddfa ef sydd bellach yn gyfrifol am ystâd y Llu.

6.7

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

“Beth yw eich dealltwriaeth o annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl a sut y mae hyn yn effeithio, yn ymarferol, ar sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Beth yw eich dealltwriaeth o annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl a sut y mae hyn yn effeithio, yn ymarferol, ar sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif?”

 

Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif trwy ofyn iddo ddangos y cynnydd a wnaed tuag at y blaenoriaethau a bennir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ac ystyried argymhellion a wneir gan y Comisiynydd. Nododd hefyd fod yna gryn dipyn o gydweithio ynghylch materion sefydliadol megis cyllid ac ystadau. Eglurodd na all gyfarwyddo unrhyw rai o aelodau staff y Prif Gwnstabl na gorchymyn y Prif Gwnstabl i gymryd unrhyw gamau gweithredol penodol. Gofynnodd y Panel a fyddai'r Comisiynydd yn cyfathrebu'n glir â'r cyhoedd y rolau y mae ef, y Prif Gwnstabl a'r Panel yn eu chwarae yn y broses ehangach. Adroddodd y Comisiynydd ei fod eisoes yn ymgymryd â mesurau i'r perwyl hwnnw, ond cytunai fod angen eglurhad pellach ar y cyhoedd.

6.8

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

“Esboniwch yn benodol sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol, Gwrthderfysgaeth, Gweithrediadau Arbennig a Gweithgareddau Cudd-wylio.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Esboniwch yn benodol sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol, Gwrthderfysgaeth, Gweithrediadau Arbennig a Gweithgareddau Cudd-wylio”

 

Adroddodd y Comisiynydd fod y Swyddfa Gartref yn ddiweddar wedi lansio Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, sy'n ffurfio'r sail ar gyfer dal y Prif Gwnstabl i gyfrif ar y materion hyn. Nododd ei fod yn ddiweddar wedi adolygu Strategaeth Reoli'r Llu ar gyfer Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, yn arbennig ynghylch cyffuriau Dosbarth A. Cyhoeddodd, mewn ymateb i bryderon cymunedol ar draws ardal Dyfed-Powys, y bydd adroddiad 'Deep Dive' sydd ar y gweill yn craffu'n fanwl ar y mater yn ymwneud â chyffuriau Dosbarth A. Pwysleisiodd y Comisiynydd ei fod ef a'r Prif Gwnstabl yn ymwneud â mentrau ar y cyd ar droseddau difrifol a chyfundrefnol gyda heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, megis Gr?p Plismona Cymru gyfan, yr Uned Drylliau Tanio ar y Cyd a chyfarfodydd y Bwrdd Plismona bob pythefnos. Gyda golwg ar gudd-wylio, esboniodd y Comisiynydd fod ei arolygiaeth ar y Prif Gwnstabl yn dibynnu ar arolygiadau blynyddol yr Awdurdod Cudd-wylio o'r Llu. Nododd fod yr adroddiad arolygu diweddaraf o fis Ebrill 2018 yn pwysleisio cydymffurfiad uchel y Llu a dim ond mân argymhellion a wnaed ganddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Panel, eglurodd y Comisiynydd nad oes gan ei Swyddfa gyfrifoldeb ffurfiol am recriwtio Dirprwy Brif Gwnstabl a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol. Adroddodd ei fod wedi gwrthod cynnig y Prif Gwnstabl i fod yn rhan o'r broses. Fodd bynnag, roedd Pennaeth Staff y Comisiynydd yn rhan o broses recriwtio'r Dirprwy Brif Gwnstabl.

 

Soniodd un o'r aelodau mewn termau cadarnhaol am gyflwyniad Heddlu Dyfed-Powys ar linellau sirol, a rhoddodd anogaeth i'r Panel dderbyn y deunyddiau er gwybodaeth. Pwysleisiodd y Comisiynydd fod llinellau sirol yn fater allweddol a chynigiodd fod y deunyddiau yn cael eu darparu i'r Panel.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gwytnwch system TG yr heddlu, dywedodd y Comisiynydd fod pwysigrwydd y mater yn cael ei adlewyrchu yn y treuliau TG sylweddol. Nododd ei fod hefyd ei fod yn aelod o'r Bwrdd Plismona Digidol Cenedlaethol a Bwrdd TGCh yr Heddlu, sy'n gweithio ar y cyd ar draws Cymru a Lloegr.

 

Yngl?n â'r peryglon o adael Ewrop heb gytundeb, adroddodd y Comisiynydd ei fod yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif 'i fod yn barod.’ Dywedodd fod y Llu yn gwneud gwaith paratoi ar y cyd ag asiantaethau partner megis fforymau gwytnwch lleol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y bydd y Llu yn cael mynediad at aelod o'r tîm Brexit Cymru Gyfan.

6.9

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

Esboniwch y strwythurau llywodraethu rydych wedi'u rhoi ar waith a sut rydych yn sicrhau eu bod nhw wedi'u halinio'n strategol â'r prif risgiau y mae'r llu'n eu hwynebu.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Esboniwch y strwythurau llywodraethu rydych wedi'u rhoi ar waith a sut rydych yn sicrhau eu bod nhw wedi'u halinio'n strategol â'r prif risgiau y mae'r llu'n eu hwynebu”

 

Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod strwythur llywodraethu'r Llu wedi'i symleiddio'n sylweddol ym mis Medi 2017. Cyhoeddodd fod y strwythur ar hyn o bryd yn cael ei adolygu o safbwynt y themâu canolog sef risgiau a chyllid. Cynigiodd y Comisiynydd ei fod yn cylchredeg cynllun o strwythur 2017 i'r Panel.

6.10

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

Sut rydych yn monitro cryfder y cysylltiad rhwng eich Cynllun Heddlu a Throseddu a'r hyn y mae swyddogion gweithredol yn ei wneud o ddydd i ddydd?  Sut rydych yn sicrhau bod swyddogion gweithredol yn ymwybodol o'ch blaenoriaethau?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Sut rydych yn monitro cryfder y cysylltiad rhwng eich Cynllun Heddlu a Throseddu a'r hyn y mae swyddogion gweithredol yn ei wneud o ddydd i ddydd? Sut rydych yn sicrhau bod swyddogion gweithredol yn ymwybodol o'ch blaenoriaethau?”

 

Ymatebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod y Cynllun Heddlu a Throseddu yn cael ei ategu gan gynllun cyflawni sy'n nodi amcanion allweddol i'w cyflawni mewn perthynas â phedair blaenoriaeth allweddol y Cynllun. Pwysleisiodd fod y blaenoriaethau yn cael eu hatgyfnerthu ar sawl achlysur gan gynnwys Sioeau Teithiol y Prif Swyddog, cyfarfodydd perfformiad is-adrannol ac ymgysylltu anffurfiol â staff.

6.11

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

Sut rydych yn derbyn gwybodaeth gan y llu ynghylch ei berfformiad?  A roddir y wybodaeth ichi gan y Prif Gwnstabl a'i swyddogion neu a oes gennych chi a'ch swyddogion fynediad uniongyrchol i ddata rheoli'r llu? Os rhoddir y wybodaeth ichi gan y Prif Gwnstabl a'i swyddogion, sut rydych yn sicrhau bod y wybodaeth sy'n dod i law gan y llu yn gywir?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Sut rydych yn derbyn gwybodaeth gan y llu ynghylch ei berfformiad? A roddir y wybodaeth ichi gan y Prif Gwnstabl a'i swyddogion neu a oes gennych chi a'ch swyddogion fynediad uniongyrchol i ddata rheoli'r llu? Os rhoddir y wybodaeth ichi gan y Prif Gwnstabl a'i swyddogion, sut rydych yn sicrhau bod y wybodaeth sy'n dod i law gan y llu yn gywir?”

 

Eglurodd y Comisiynydd ei fod yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar berfformiad ar ffurf adroddiadau'r Llu a chyfarfodydd gyda'r Prif Gwnstabl a'r staff. Dywedodd fod ei Swyddfa yn gallu casglu gwybodaeth benodol ar berfformiad yn uniongyrchol trwy systemau'r Heddlu ac adroddiadau arolygu Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi. Nododd y Comisiynydd hefyd fod ganddo wybodaeth arbenigol ynghylch bwletin ystadegol misol y Llu a'i fod yn cymharu'r data â ffynonellau allanol megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

6.12

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

Rhowch enghreifftiau o adegau pan rydych, trwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl Dyfed-Powys. A oes unrhyw adegau pan rydych yn teimlo nad yw eich gweithredoedd wedi sicrhau'r nodau a ddymunwyd ac os felly, beth rydych wedi'i wneud i fynd i'r afael â hyn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rhowch enghreifftiau o adegau pan rydych, trwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl Dyfed-Powys. A oes unrhyw adegau pan rydych yn teimlo nad yw eich gweithredoedd wedi sicrhau'r nodau a ddymunwyd ac os felly, beth rydych wedi'i wneud i fynd i'r afael â hyn?”

 

Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod gweithgareddau craffu ei Swyddfa yn cynnwys cynlluniau gwirfoddolwyr, sy'n darparu adolygiadau annibynnol ar yr hyn a gyflawnir gan y Llu, panel sicrhau ansawdd, sy'n archwilio cyswllt yr heddlu â'r cyhoedd, a phrosiectau craffu 'deep dive'. Awgrymodd y canlynol fel enghreifftiau cadarnhaol nodedig:

 

·         Adolygiad mewnol o benderfyniadau y tu allan i'r llys ar gyfer troseddau rhywiol ieuenctid. Gwnaed hyn gan y Llu mewn ymateb i Banel Craffu'r Comisiynydd ar gyfer Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys, a arweiniodd at bump o argymhellion i wella'r modd y mae swyddogion yr heddlu yn ymdrin â'r achosion hyn;

·         Arweiniodd goruchwyliaeth effeithiol ar gontractau wedi'u comisiynu at drosglwyddo tîm cymorth dioddefwr oedd wedi'i allgontractio i dîm mewnol y Goleudy. Arbedodd hyn £20,000, gyda mwy o adnoddau ar gael i gynorthwyo'r dioddefwr a darparu'r gwasanaeth gyda mynediad llawn i adrannau eraill y Llu ac asiantaethau partner.

·         Yn dilyn y rêf dros W?l y Banc ym Mrechfa, cynhaliwyd cyfarfod cymunedol ynghyd â chyfarfod dilynol gyda'r Prif Gwnstabl a Chyfoeth Naturiol Cymru. Arweiniodd hyn at welliannau i'r cynllun gweithredu, gweithgareddau atal ac ymateb gweithredol.

·         Datblygu'r Strategaeth Troseddau Gwledig, a ddilynodd waith ymgysylltu'r Comisiynydd â'r diwydiant amaethyddol a chynrychiolwyr o'r NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru.

 

Cyfeiriodd y Comisiynydd at sefyllfa ariannol bresennol y Llu fel maes lle nad yw ei arolygiaeth wedi cyflawni'r amcanion a ddymunir.

6.13

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

Yn dilyn cael cyfle i fynychu ac i arsylwi cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu, rwy'n credu ei fod yn deg dweud fod lefel y presenoldeb y cyhoedd yn isel iawn (fel mewn cyfarfodydd o'r panel hwn). A fyddai'r Comisiynydd yn cytuno felly er mwyn sicrhau eu bod yn agored ac yn dryloyw, y byddai'n fwy priodol o lawer i gyfarfodydd o'r fath gael eu gwe-ddarlledu (ac felly'n hygyrch i'r mwyafrif helaeth o drigolion) hyd yn oed os yw hynny ar draul cyfyngu ar nifer y lleoliadau addas i'w cynnal?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn dilyn cael cyfle i fynychu ac i arsylwi cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu, rwy'n credu ei fod yn deg dweud fod lefel y presenoldeb y cyhoedd yn isel iawn (fel mewn cyfarfodydd o'r panel hwn). A fyddai'r Comisiynydd yn cytuno felly er mwyn sicrhau eu bod yn agored ac yn dryloyw, y byddai'n fwy priodol o lawer i gyfarfodydd o'r fath gael eu gwe-ddarlledu (ac felly'n hygyrch i'r mwyafrif helaeth o drigolion) hyd yn oed os yw hynny ar draul cyfyngu ar nifer y lleoliadau addas i'w cynnal?”

 

Adroddodd y Comisiynydd fod cyfarfodydd Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu yn cael eu darlledu dros y We yn ystod cyfnod y Comisiynydd blaenorol yn ei swydd ond mai niferoedd cyfyngedig oedd yn eu gwylio. Cyhoeddodd, fodd bynnag, y bydd y trefniant gwe-ddarlledu yn ailddechrau o fis Mai 2019 gan na fu ymdrechion i ymgysylltu â'r cyhoedd yn bersonol yn llwyddiannus iawn.

7.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD:

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN A.B.

“A yw’n bryd i’r dreth gyngor gael ei defnyddio’n llai ar gyfer ariannu’r heddlu, a’i defnyddio’n hytrach ar gyfer ariannu cwmnïau diogelwch i blismona ein cymunedau yn lle hynny, gan nad oes gennyf i na’m cymdogion unrhyw hyder o gwbl yn yr heddlu mwyach, ac erbyn hyn nid ydym yn ffwdanu rhoi gwybod iddynt am droseddau sy’n ymwneud â chyffuriau yn ein hardal?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A yw hi'n hen bryd i'n treth gyngor roi llai o gyllid i'r heddlu a thalu cwmnïau diogelwch preifat i blismona ein cymunedau yn lle hynny, gan nad oes gen i a'm cymdogion bellach unrhyw hyder yn yr heddlu o gwbl, ac nid ydym mwyach yn trafferthu riportio am droseddau cyffuriau yn ein hardal?”

 

Mynegodd y Comisiynydd ei anghytundeb sylfaenol â natur y cwestiwn. Tynnodd sylw at y ffaith fod Heddlu Dyfed-Powys yn sgorio'n uwch na heddluoedd eraill mewn arolwg diweddar ar ganfyddiad y cyhoedd o waith yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig o safbwynt hyder mewn plismona. Adroddodd y Comisiynydd am nifer o achosion lle cymerodd y Llu gamau rhagweithiol i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddau cyffuriau. Adroddodd fod yr ymdrechion hyn, rhwng 2016 a 2018, wedi arwain at 117 o euogfarnau (cyfanswm dedfrydau o 421.5 o flynyddoedd) ar gyfer unigolion oedd yn masnachu cyffuriau am werth o tua £3.6 miliwn petaent yn cael eu gwerthu ar y stryd. Roedd y Comisiynydd yn cydnabod efallai bod angen rhywfaint o waith targedu lleol ar raddfa lai yn ogystal, ac mae wedi codi'r mater gyda'r Prif Gwnstabl. Pwysleisiodd hefyd fod gwybodaeth leol, a ddarperir gan aelodau o'r cyhoedd a darpariaethau Teledu Cylch Cyfyng ychwanegol, yn hanfodol ar gyfer plismona cyffuriau.

 

Mewn ymateb i gais am ragor o wybodaeth ynghylch yr adroddiad 'Deep Dive' ar droseddau cyffuriau, dywedodd y Comisiynydd fod y gwaith yn mynd rhagddo a'i fod yn cael ei gydlynu gan ei Bennaeth Staff. Yn fethodolegol, bydd yr adroddiad 'Deep Dive' yn seiliedig ar grwpiau ffocws gydag aelodau o staff, a'i nod yw nodi strategaeth troseddau cyffuriau bresennol y Llu a'i heffeithiolrwydd. Cyhoeddodd y Comisiynydd y bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2019.

 

Gofynnodd y Panel sut y mae'r Comisiynydd yn mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â chyffuriau ym mhrif sgwâr Llanelli. Atebodd y Comisiynydd fod Teledu Cylch Cyfyng wedi'i roi ar waith a bod Tîm Canol y Dref wedi'i adfer. Nododd, tra dylid croesawu presenoldeb gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yn yr ardal, y gall lleoliad a rheolaeth y gwasanaeth fod yn destun trafodaeth.

7.2

CWESTIWN GAN E & C.

“Sut ydych chi yn eich rôl fel Comisiynydd yr Heddlu, yn monitro gwaith Heddlu Dyfed-Powys o ran gorfodi’r terfynau cyflymder sydd ar waith y tu allan i ysgolion, megis ein hysgol ni yma yn Nhalgarth?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Sut ydych chi, fel Comisiynydd yr Heddlu, yn monitro gwaith Heddlu Dyfed-Powys, o safbwynt gorfodi'r terfynau cyflymder sydd ar waith y tu allan i ysgolion, megis ein hysgol ni yn Nhalgarth?”

 

Cynigiodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod yn dod i'r ysgol gyda thîm Diogelwch Ffyrdd Powys i drafod y materion ymhellach. Adroddodd hefyd ei fod yn gweithio gyda'r Siartiant Ian Price, sy'n gyfrifol am y bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd sy'n ymgyrchu i gael terfynau cyflymder o 20 mya y tu allan i ysgolion ar lefel genedlaethol.

7.3

CWESTIWN GAN C.D.

“Pa fesurau sydd ar waith gennych, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys bolisi sy’n addas i’r diben er mwyn rhybuddio pobl ifanc ynghylch ffenomenon 'Perygl Dieithriaid?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Pa fesurau sydd gennych ar waith fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu er mwyn sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys bolisi 'addas i'r diben' er mwyn rhybuddio plant o dan oed am y ffenomen o 'berygl dieithriaid?”

 

Atebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod diogelwch personol yn bwnc allweddol yn Rhaglen Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, a ddarperir ar hyn o bryd gan 14 swyddog polisi cymunedol ysgolion yn ardal Dyfed-Powys. Pwysleisiodd, fodd bynnag, fod ffocws y rhaglen wedi newid o 'Berygl Dieithriaid' i rybuddio plant am berygl oedolion y maent yn eu hadnabod, a rhai nad ydynt yn eu hadnabod, yn eu gwahodd i fynd i rywle yn annisgwyl. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod plant yn ystadegol yn wynebu mwy o berygl gan unigolion y maent eisoes yn eu hadnabod, ac mae'n ceisio gwneud plant yn llai ofnus o'r byd.

7.4

CWESTIWN GAN C.D.

“Pa mor aml ydych chi, fel Comisiynydd Heddlu, yn cael diweddariad gan y Prif Gwnstabl ynghylch digwyddiadau o’r math hwn – a sut yr adroddir ynghylch effeithiolrwydd cyswllt a chyfathrebu ag awdurdodau addysg lleol, ysgolion a chymunedau lleol os bydd digwyddiadau’n codi?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Pa mor rheolaidd yr ydych chi fel Comisiynydd Heddlu yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Gwnstabl am ddigwyddiadau o'r math hwn - a pha mor effeithiol yw'r cyswllt a'r cyfathrebu ag AALlau, ysgolion a chymunedau lleol, pe bai achosion yn cael eu riportio?”

 

Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod Canolfan Gorchymyn a Rheoli'r Llu yn ymchwilio i ddigwyddiadau o'r math hwn ac nad yw ef na'r Prif Gwnstabl yn cael gwybod amdanynt yn rheolaidd. Awgrymodd y Panel y gallai plant mewn ysgolion bach gwledig fod mewn mwy o berygl oherwydd eu bod yn fwy parod i ymddiried. Ymatebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod yr ysgolion hyn yn cael yr un gwasanaeth gan swyddogion cymunedol yr ysgolion, sy'n darparu'r sgiliau personol i'r holl blant er mwyn adnabod peryglon ac ymateb iddynt. Yna gofynnwyd i'r Comisiynydd holi'r Prif Gwnstabl a fyddai modd i'r Swyddogion Cyswllt Ysgolion ddarparu rhaglenni ychwanegol yn ystod gwyliau'r ysgol. Cytunodd i anfon y neges, ond rhybuddiodd fod Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn tueddu i gael eu cyflogi mewn ardaloedd eraill yn ystod gwyliau'r haf gan mai dyma'r adegau prysuraf.

8.

BLAENORIAETH 3 Y PANEL - CRAFFU AR GYNLLUN YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i'w ystyried yn unol â darpariaethau Adrannau 12 a 28 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a nodai'r cynnydd oedd yn cael ei wneud wrth weithredu'r Cynllun Heddlu a Throseddu.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Gwnaed ymholiad am ragor o wybodaeth ynghylch cydymffurfiaeth statudol yr ystadau. Mae'r adroddiad cynnydd yn nodi oedi wrth brosesu cydymffurfiaeth oherwydd ad-drefnu staff, gan raddio'r eitem fel un 'nad yw'n cydymffurfio'. Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y rheswm am y radd yn ymwneud ag oedi wrth gael gwybodaeth gan gyflenwyr. Pwysleisiodd fod yr adroddiad yn rhagweld cynnydd cyflym yn y gyfradd gydymffurfio, gan gyrraedd cydymffurfiaeth lawn o fewn mis. Gofynnwyd ynghylch hyder y Comisiynydd yng nghadernid y rhagfynegiadau. Cyfaddefodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y rhagfynegiadau yn seiliedig ar wybodaeth ddiweddar iawn a'i fod yn dal i aros am waith craffu manwl gan ei dîm gweithredol. Ychwanegodd Pennaeth Staff y Comisiynydd fod gwybodaeth reoli yn rhoi lefel o sicrwydd ar gyfer y rhagolygon.

 

Gwnaed sylw ynghylch yr eitem 'nad yw'n cydymffurfio' a gyfeiriai at y gofrestr risgiau ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Awgrymwyd bod y radd yn adlewyrchu'r ffaith fod y Llu wedi methu â gweithredu dros 200 o argymhellion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi cyn penodi Prif Gwnstabl newydd, ac y dylai'r Cyd-bwyllgor Archwilio fod wedi mynd i'r afael â'r methiant hwn. Mewn ymateb, eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nad yw'r eitem dan sylw yn cyfeirio at gofrestr risg y Llu, ond at risgiau yn Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu megis diogelu data. Pwysleisiodd y Comisiynydd y byddai eitem cofrestr risg y Llu wedi cael ei graddio fel un sy'n cydymffurfio'n llawn.

 

Mewn perthynas â'r Strategaeth Ymgysylltu a'r Cynllun Gweithredu, mynegwyd pryderon fod presenoldeb y Comisiynydd mewn sioeau gwledig yn yr haf yn ymgysylltu ag un math yn unig o gymuned yn ardal Dyfed-Powys. Awgrymwyd bod y Comisiynydd yn amrywio ei ymrwymiadau cyhoeddus ac yn teilwra ei neges i wahanol gymunedau. Atebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod Tîm Ymgysylltu sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r mater wedi bod yn wynebu ad-drefnu a materion staffio. Pwysleisiodd hefyd ei fod yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau ymgysylltu mewn gwahanol rannau o ardal Dyfed-Powys a nododd fod cynnydd yn cael ei wneud tuag at gydymffurfiaeth uwch. 

 

Holodd y Panel sut fydd y Comisiynydd yn pwysoli'r nodau, a allai fod yn groes i'w gilydd, o sicrhau'r gwerth gorau am arian yn erbyn gwario mor lleol â phosibl, yn enwedig gyda golwg ar y swyddogaeth ystadau. Roedd y Comisiynydd yn cydnabod bod cost-effeithiolrwydd yn hanfodol ond dywedodd y dylid hyrwyddo cwmnïau lleol oni bai fod y cyfaddawd mewn cost-effeithlonrwydd yn rhy niweidiol. Cyhoeddodd hefyd y bydd prosiectau ystadau sylweddol, megis prosiect dalfa Sir Gaerfyrddin, yn darparu cyfleoedd gwaith lleol.

 

Gyda golwg ar y mater o gam-drin domestig, mynegwyd pryderon ynghylch a oes yna ddarpariaethau digonol ar gyfer cynnig gwasanaethau i bobl sydd heb fynediad i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cafodd y Panel adroddiad a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod rhwng 16 Awst a 12 Hydref 2018. Codwyd y materion canlynol:

 

Nodwyd bod y contract ar gyfer y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona wedi'i ddyfarnu i Brifysgol De Cymru. Gofynnodd y Panel p'un a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ymatebodd y Comisiynydd trwy ddweud fod y dyfarniad wedi'i roi o ganlyniad i broses dendro ranbarthol oedd yn gadarn ac yn gystadleuol.

 

Nododd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wall oedd yn ymwneud â Chytundeb Grant CWVYS. Eglurodd mai ei benderfyniad ym mis Medi oedd ymestyn y cytundeb gwreiddiol tan fis Mawrth 2019 ar werth o £13,750.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a chefnogi penderfyniad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

10.

BLAENORIAETH 2 Y PANEL - SUT Y MAE COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU YN DAL Y PRIF GWNSTABL I GYFRIF pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad ar ofynion Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a oedd yn gosod cyfrifoldeb statudol ar y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddal y Prif Gwnstabl i gyfrif. Roedd hyn yn cael ei wneud yng nghyfarfodydd Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu. Nododd y Panel fod dau gyfarfod diwethaf Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu wedi'u cynnal ar 6 Awst a 5 Tachwedd 2018 a bod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Awst, lle'r oedd y Cynghorydd Powell a'r Athro Roffe yn bresennol, wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

11.

BLAENORIAETH 3 Y PANEL - CRAFFU AR GYNLLUN YR HEDDLU A THROSEDDU - CAIS AM DYSTIOLAETH GAN GYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Panel am gael sicrwydd bod Cynllun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Chynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed-Powys yn gyson â'i gilydd a'u bod yn hyrwyddo cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad. Fel rhan o'r broses hon, gwahoddodd y Panel y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol, i ddod i'r cyfarfod er mwyn nodi barn y Cyngor ar y mater hwn. Rhoddodd Cefin Campbell dystiolaeth ar sawl cwestiwn a ofynnwyd gan y Panel:

 

1. P'un a yw'n credu bod angen adolygu'r Cynllun Heddlu a Throseddu o gwbl o ystyried natur newidiol y bygythiadau i'n cymunedau.

 

Adroddodd y Cynghorydd Campbell ei fod ar y cyfan yn fodlon bod y cynllun yn diwallu anghenion Sir Gaerfyrddin. Tynnodd sylw at y ffaith fod pedair prif flaenoriaeth y cynllun yn ymdrin â materion gweithredol mawr yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn yn yr ardal. Roedd yn croesawu ymrwymiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i adolygu'r cynllun yn flynyddol, gan nodi y byddai hyn yn galluogi ymatebion digonol i fygythiadau sy'n newid yn gyflym. Awgrymodd y Cynghorydd y dylid canolbwyntio ar addasu materion gweithredol, a'i bod yn debygol y gellid cadw'r nodau strategol cyffredinol. Rhoddodd y Cynghorydd hefyd wybod i Aelodau'r Panel fod materion gweithredol yn cael eu hadolygu gyda mewnbwn gan bartneriaid (gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) yn rheolaidd, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail yr angen cyfredol.

 

2. P'un a yw'n credu bod angen adolygu'r cynllun o gwbl er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well â'r cynllun llesiant ar gyfer Sir Gaerfyrddin er mwyn sicrhau bod anghenion trigolion Sir Gaerfyrddin yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl.

 

Dywedodd y Cynghorydd fod yna ddau bwynt cyfeirio perthnasol ar gyfer Sir Gaerfyrddin: Cynllun Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin a chynllun llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd ei bod yn gadarnhaol nad oedd yr un o'r tri ar ddeg o amcanion llesiant a nodwyd yng nghynllun y Cyngor yn gysylltiedig â throsedd neu anhrefn, sy'n adlewyrchu'r cyfraddau cymharol isel o droseddau a gofnodir yn ardal Dyfed-Powys. Enwodd ddau o'r pedwar amcan allweddol yng nghynllun y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sef Ymyrraeth Gynnar a Chysylltiadau Cryf, fel rhai sy'n ymwneud â throsedd ac anhrefn a thynnodd sylw at y ffaith fod y ddau amcan yn cael eu cydnabod yn y Cynllun Heddlu a Throseddu. Daeth y Cynghorydd i'r casgliad fod y Cynllun Heddlu a Throseddu yn cyd-fynd yn agos â'r cynlluniau llesiant.

 

Codwyd cwestiwn yngl?n ag a oedd y cynlluniau yn cyfeirio o gwbl at waith agos swyddogion yr heddlu â phobl â phroblemau iechyd meddwl. Tynnodd Cefin Campbell sylw at y ffaith fod nifer o'r amcanion cyffredinol yn y cynlluniau yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Ychwanegodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod gan yr Heddlu seilwaith ar waith i fynd i'r afael â'r amcanion llesiant hyn, er enghraifft y Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ar gyfer yr hon y derbyniodd arian gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

13.

CWYN YN ERBYN COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn (a) rhoi gwybodaeth bersonol sensitif am aelod o'r cyhoedd yn y parth cyhoeddus ac mae (b)Rhan 4 o Reoliadau Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Cwynion a Chamymddygiad) 2012 yn pennu na fydd y Panel yn cyhoeddi canlyniad unrhyw g?yn hyd nes bod y ddau barti wedi cael cyfle i roi sylwadau yn dilyn cyhoeddi'r canlyniad hwnnw.

 

Cafodd y Panel adroddiad ar g?yn a gofnodwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1   Nodi'r g?yn.

13.2   Nad yw'r Panel yn cymryd camau pellach mewn perthynas â'r g?yn gan mai'r Comisiynydd Gwybodaeth sydd âchyfrifoldeb rheoleiddiol dros ddeddfwriaeth diogelu data.

 

14    UNRHYW FATER ARALL

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod wedi ei gyfeirio ei hun at y Comisiynydd Gwybodaeth oherwydd i rywun dorri i mewn i'w gar yn Llundain. Rhoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu sicrwydd nad oedd unrhyw ddeunyddiau cyfrinachol wedi'u gadael yn y car.