Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.M. Charles, S.L. Davies a H.B. Shepardson ac wrth y Cynghorydd M. Gravell (Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden). |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 74 KB Cofnodion: Rhoddwyd y rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 17 Chwefror, 2017. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2016 (CYNLLUNIO) PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chofnod 7 ei gyfarfod ar 3 Tachwedd, 2016, cafodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016. Nodwyd bod llunio Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn un o ofynion y Fframwaith Perfformiad Cynllunio a bod yn rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol presennol, sef yr ail i'w lunio gan Sir Gaerfyrddin, wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad gofynnol sef 31 Hydref 2016.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer datblygiadau tai newydd ledled y sir, a cheisiwyd eglurhad ynghylch sut y gellid defnyddio Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) roedd y Cyngor wedi ei mabwysiadu, ynghyd â llunio achos busnes, i gyllido darparu seilwaith priodol e.e. ysgolion, ffyrdd, a meddygfeydd i gefnogi'r datblygiadau hynny.
Atgoffwyd y Pwyllgor fod ymgynghori wedi digwydd, wrth lunio'r Cynllun Datblygu Lleol, ag amrywiaeth eang o gyrff cyhoeddus a phreifat ynghylch cynigion y Cynllun. Roedd yr ymgyngoriadau hynny wedi bod yn rhai dwy ffordd ac wedi cael eu defnyddio i ganfod cynigion datblygu y cyrff hynny yn y dyfodol a sut y byddent yn clymu i mewn i'r cynllun ac i asesu unrhyw oblygiadau posibl o ran seilwaith. O ran cyllido prosiectau seilwaith mawrion, drwy fabwysiadu CIL o bosibl, cadarnhawyd er bod y Cyngor yn dal i gasglu gwybodaeth i'r diben hwnnw, pe câi ei mabwysiadu, byddai angen i'r Cyngor fod yn fwy penodol ynghylch y math o seilwaith oedd ei angen yn y sir. Byddai angen seilio hynny ar dystiolaeth a chynnwys costau posibl, ac roedd trafodaethau â chyrff allanol ac adrannau mewnol y Cyngor yn hollbwysig i'r broses honno.
· Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth gynllunio yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer codi rhyw 280 o dai yn Ward yr Hendy, a'r anawsterau presennol a gaed yn y Ward honno o ganlyniad. Roedd yr anawsterau'n cynnwys bod y feddygfa leol yn llawn a bod problemau cydnabyddedig o ran priffyrdd yn y pentref ac ar ffordd ymuno/ymadael yr M4. Gofynnwyd a ellid lliniaru effaith datblygiadau mawr ar gymunedau, fel yr Hendy, drwy gymeradwyo/gweithredu datblygiadau cynllunio fesul cam dros gyfnod o flynyddoedd.
Dywedodd y Rheolwr Blaengynllunio er bod y Cyngor wedi cynnwys Polisi Fesul Cyfnod yn y Fersiwn Drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol, nad oedd yr Arolygydd Cynllunio, wrth ei archwilio, wedi derbyn y polisi a'i fod wedi gorchymyn i'r polisi gael ei dynnu allan oherwydd bernid bod ganddo'r potensial i leihau datblygu. Fodd bynnag, wrth baratoi a llunio'r ail Gynllun Datblygu Lleol, gellid cyfeirio at y sefyllfa yn yr Hendy fel enghraifft i gefnogi Polisi Fesul Cyfnod. · Cyfeiriwyd ymhellach at y 280 o dai oedd wedi eu dyrannu ar gyfer yr Hendy, a'r 700 a mwy o dai oedd wedi eu dyrannu ar gyfer cymuned gyfagos Pontarddulais yn Ninas a Sir Abertawe. Mynegwyd safbwynt y dylid cynnal mwy o drafodaethau trawsffiniol ynghylch ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2015/16 - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN PDF 292 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chofnod 8 ei gyfarfod ar 3 Tachwedd, 2016, cafodd y Pwyllgor, i'w ystyried ymhellach, Adroddiad Monitro Blynyddol 2015/16 am Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y dyraniad yn y Cynllun Datblygu Lleol, sef darparu 15,197 o unedau tai, a mynegwyd safbwynt bod angen ymchwilio i ffyrdd gwahanol o ddarparu'r tai hynny yn hytrach na pharhau i adeiladu tai newydd ar dir, a oedd yn adnodd yr oedd pen draw iddo.
Dywedodd y Rheolwr Blaengynllunio nad tai newydd yn unig fyddai'r 15,197 o unedau a bod sawl dull arall y gellid eu defnyddio e.e. addasu eiddo preswyl mawr yn unedau llai, addasu adeiladau diwydiannol/swyddfeydd neu ailddechrau defnyddio eiddo preswyl gwag, sef arfer yr oedd Is-adran Dai y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn ynddo. · Gan ymateb i gwestiwn ynghylch amrywiadau ar draws y sir o ran lefel y ddarpariaeth tai fforddiadwy mewn datblygiadau tai, dywedodd y Rheolwr Blaengynllunio fod y lefel yn dibynnu ar broffidioldeb datblygiad unigol. Cadarnhaodd y dylai lefel y ddarpariaeth adlewyrchu prisiau'r farchnad a bod angen ei hadolygu'n barhaus.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |