Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd A.W. Jones yn Gadeirydd y cyfarfod.
|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S. Matthews a'r Cynghorydd M. Gravell - yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â chofnod 6.4 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2016 derbyniodd y Pwyllgor adroddiad monitro'r cynllun gweithredu ynghylch gweithredu argymhellion yr Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ynghylch Polisi a Phrotocolau Gorfodi Rheolau Cynllunio i'w ystyried. Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y Pwyllgor mai diben yr adroddiad oedd darparu diweddariad ynghylch y camau gweithredu a gytunwyd fel rhan o'r Cynllun Gweithredu a'r argymhellion a oedd yn codi o'i gyfarfod ym mis Medi 2015.
Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch argymhelliad a gyflwynwyd ar 14 Medi 2015 ar gyfer datblygu protocol gyda Heddlu Dyfed-Powys o ran rhannu gwybodaeth ac ystyried y posibilrwydd o ganiatáu mynediad i gronfa ddata ddiogel yr Heddlu. Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wybod i'r Pwyllgor fod Gr?p Amlddisgyblaeth Corfforaethol bellach wedi cael ei sefydlu a fyddai'n ceisio symud y mater hwn yn ei flaen fel rhan o'i gynllun gwaith. Yn ogystal, hysbyswyd aelodau bod swyddogion wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod Tîm Cydymffurfio o ran Gwybodaeth Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys a fyddai'n cael ei dderbyn a'i drefnu.
Ar ben hynny, yn unol â chofnod 6.3 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2016 darparodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol ddiweddariad ar lafar ynghylch argymhelliad 21 i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Nododd y Cyfreithiwr Cynorthwyol ei bod wedi rhoi gwybod i swyddfa weinyddol y llys ynadon lleol y byddai'r Awdurdod yn fodlon darparu hyfforddiant i ynadon lleol ynghylch gorfodaeth o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Fodd bynnag, eglurodd yr Uwch-glerc na fyddai mewn sefyllfa i gytuno ond gofynnodd am gopi o'r pecyn hyfforddiant arfaethedig er mwyn cyflwyno hyn gerbron Pwyllgor Ardal Llys yr Ynadon i'w ystyried.
Esboniodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol wrth y Pwyllgor y byddai angen drafftio deunydd hyfforddiant newydd a fyddai'n costio i'r Awdurdod, heb unrhyw sicrwydd y byddai'r Llys Ynadon yn derbyn yr hyfforddiant. Dywedodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol y dylai Aelodau a'r Adran Gynllunio ystyried y mater hwn ymhellach.
Codwyd y materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad.
Mewn ymateb i'r cwestiwn ynghylch argymhelliad 8, rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wybod i'r Aelodau ei fod yn rhagweld y byddai'r cyhoeddiad newydd o ran canllaw iaith syml ynghylch protocol gorfodi ar gyfer aelodau etholedig a'r canllaw cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â'r flwyddyn Rheoli Perfformiad nesaf.
Yn dilyn ymholiad mewn perthynas â chynnydd argymhellion 6 a 7, nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y rhain wedi cael eu cwblhau ac y byddai'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn.
Cyfeiriwyd at argymhelliad 12. Gofynnwyd a oedd unrhyw reswm dros y penderfyniad i beidio â mynd ymlaen â'r opsiwn o ddyblu ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio ôl-weithredol? Nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu y codir costau ychwanegol ar yr adran wrth brosesu ceisiadau cynllunio ôl-weithredol ac nid oedd yn derbyn unrhyw iawndal ar gyfer hynny. Roedd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cynnwys darpariaeth i'r Awdurdodau Cynllunio Lleol godi tâl am fathau penodol o waith, fodd bynnag, er mwyn adennill y ffioedd hyn, roedd angen tystiolaeth weinyddol ynghylch pob achos ar Lywodraeth Cymru. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 24AIN MAWRTH, 2016 PDF 164 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016 gan eu bod yn gywir.
|