Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Cundy, T. Devichand, J.K. Howell a H.B Shepardson. |
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|||||
DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. |
|||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 76 KB Cofnodion: Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 30 Mawrth, 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||
ADDRODIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2016/17 ar gyfer y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2016. Nododd y rhagwelid gorwariant o £122k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £9.297m yn y gyllideb gyfalaf a gorwariant o £392k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant rhagamcanol o £56k mewn perthynas â chyfleuster Un Sir Gâr yn Llanelli, a hynny oherwydd bod yr incwm yn llai na'r disgwyl, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod swyddogion yn ystyried ffyrdd o gynyddu'r ffrwd incwm. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y sefyllfa bresennol o ran cynllun maes parcio Talacharn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod oedi oherwydd bod angen cynnal rhagor o brofion halogi pridd. Cadarnhawyd y byddai'r cynllun yn cael ei roi ar waith, ar hyn o bryd, yn unol â'r gyllideb ac y byddai cronfa wrth gefn y cynllun yn talu am unrhyw gostau ychwanegol. · Cyfeiriwyd at yr ymarfer ymgynghori ynghylch y gyllideb refeniw a gynhaliwyd yn ddiweddar a'r effaith bosibl ar ddarparu gwasanaethau yng nghyfleusterau hamdden y Cyngor. Gofynnwyd am eglurhad hefyd ynghylch a oedd y tanwariant cyfalaf presennol i'w briodoli i ddiffyg buddsoddiad yn y gwasanaethau hynny i ddenu defnyddwyr gwasanaeth ychwanegol.
Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y tanwariant presennol o £2,316m o ran y rhaglen cyfalaf hamdden i'w briodoli i lithriant, a bod rhai cynlluniau heb ddechrau eto, a dywedodd y byddai unrhyw ddyraniad nas gwariwyd yn cael ei gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf. Mewn perthynas â'r gorwariant refeniw, roedd hynny i'w briodoli'n rhannol i ostyngiad yn yr incwm ym mhrif ganolfannau hamdden yr Awdurdod yng Nghaerfyrddin a Llanelli tra oedd gwaith cyfalaf yn cael ei wneud i wella'r cyfleusterau hynny. Mewn perthynas â chyfleusterau hamdden llai yr Awdurdod, y gobaith oedd y gallai Canolfan Hamdden Sanclêr aros ar agor, gan fuddsoddi mewn cyfleusterau eraill wrth i gyllid ddod ar gael.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2016/17 yn cael ei dderbyn. |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 - Chwarter 3 am y cyfnod 1 Ebrill 2016 tan 31 Rhagfyr 2016.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Cam Gweithredu 12153 a'r cyfeiriad at anawsterau recriwtio staff addas, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod swyddog wedi'i benodi'n ddiweddar a bod y broblem bellach wedi cael ei datrys. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Cam Gweithredu 12173, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol pan fyddai’r Cyngor yn rhoi grantiau i sefydliadau allanol y byddai angen i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod Polisi Iaith Gymraeg ar waith cyn derbyn unrhyw grant, a hynny fel rhan o bolisi i hyrwyddo defnydd y Gymraeg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||
MESURAU PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU TAI PDF 176 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cofnod 7 o'i gyfarfod ar 20 Gorffennaf 2016 cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Fframwaith Perfformiad y Gwasanaethau Tai oedd yn rhoi enghreifftiau o wybodaeth perfformiad a sut roedd hynny'n cefnogi cyfeiriad strategol a phrif amcanion y Cyngor. Nodwyd er bod yr adroddiad yn rhoi dwy enghraifft o fesur perfformiad mewn perthynas ag Astudiaeth Effaith ar Iechyd (Atodiad 1) a Chyngor/Dewisiadau Tai (Atodiad 2), fod Is-adran y Gwasanaethau Tai yn casglu dros 150 darn o ddata yn rheolaidd a oedd yn cynnwys:-
- Adroddiadau ystadegol a dangosyddion perfformiad cenedlaethol i Lywodraeth Cymru; - Prif amcanion perfformiad sy'n cefnogi'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol; - Dangosyddion Perfformiad sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Gwella a'r Strategaeth Integredig; - Data at ddibenion craffu gwleidyddol; - Data i reoli'r busnes; - Data i asesu cydymffurfiaeth gyfreithiol e.e. Digartrefedd a Safonau Tai.
Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, wrth gyfeirio at yr enghreifftiau a nodwyd yn atodiadau'r adroddiad, y gellid darparu data perfformiad mwy manwl ynghylch unrhyw faes penodol o weithgarwch yr Is-adran, petai'r Pwyllgor yn dymuno hynny.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Mewn ymateb i ddatganiad y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd uchod, mynegwyd barn y dylid cyflwyno data perfformiad mwy manwl i'r Pwyllgor ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, darparu cyngor cywir ac amserol ynghylch tai, a digartrefedd. · Mewn ymateb i gais am eglurhad ynghylch y data a ddarparwyd yn Atodiad 2, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'n edrych ar hwn a rhoi manylion i'r Aelodau ynghylch y cwymp a gofnodwyd o ran bodlonrwydd cwsmeriaid yn ystod y cyfnod Ionawr - Mawrth 2016. · Cyfeiriodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd at effaith eang y gwelliannau a wnaed i stoc tai'r Cyngor. Roedd y rheiny'n cynnwys gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan denantiaid am wasanaethau, rhoi sylw i dlodi tanwydd a gallu tenantiaid i dalu biliau cyfleustodau rheolaidd megis trydan, d?r a nwy a hefyd astudiaethau a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe mewn perthynas â gwerth y gwelliannau i'r Gwasanaeth Iechyd o ran llai o alw dros y cyfnod 2009-2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU PDF 45 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd ynghylch peidio â chyflwyno adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno. |
|||||
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'i gyfarfodydd blaenorol:
Trafodwyd y mater canlynol wrth ystyried yr adroddiad:- · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y Gr?p Gorchwyl a Gorffen arfaethedig mewn perthynas ag adeiladau gwag mawr sy'n anharddu canol trefi, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y mater yn cael sylw gan Dasglu Rhydaman i ddechrau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||
LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 20FED IONAWR 2017 PDF 248 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 20 Ionawr 2017 gan eu bod yn gywir. |