Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Gwener, 20fed Ionawr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i’r Pwyllgor o’r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i’w gynnal ar 30ain Ionawr, 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

6.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a’r Lefelau Rhenti Tai ar gyfer 2017/18, a oedd yn cael eu cyflwyno fel rhan o broses ymgynghoriad y gyllideb. Roedd yn tynnu ynghyd y cynigion diweddaraf a oedd wedi’u cynnwys yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2017/18, sydd i gael eu cyflwyno i’r Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor am benderfyniad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu’r cynigion diweddaraf yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif arf cynllunio ariannol er mwyn gwireddu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy. Mae hefyd yn ymgorffori Ymrwymiad Tai Fforddiadwy’r Awdurdod a’r gofynion benthyca o £79m sy’n codi o benderfyniad y Cyngor, ar y 1af Ebrill 2015, i ddod allan o’r cynllun Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

  • Cyfeiriwyd at Bolisi Rhenti Tai Cymdeithasol y Cyngor a pha un a oedd ffactorau fel maint eiddo, ei safon, ei leoliad a phrisiau tai yn effeithio ar lefelau rhenti. Yn y cyswllt hwnnw, tynnwyd sylw’r Pwyllgor at bwynt 4 yn yr adroddiad, sy’n manylu ar nifer y cartrefi y byddai’r cynnydd arfaethedig mewn rhenti yn effeithio arnynt. O’r rheini roedd 36% yn cael Budd-dal Tai llawn, roedd 28% yn cael Budd-dal Tai rhannol ac nid oedd 36% yn cael unrhyw fudd-dal. Gofynnwyd am eglurhad felly yngl?n â’r effaith y gallai’r cynnydd ei chael ar ardaloedd unigol yn y sir.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y codiadau rhent arfaethedig yn unol â’r canllawiau a osodwyd ym Mholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a gychwynnodd yn 2015/16 ac a oedd yn benodedig am bum mlynedd. Dywedodd fod y tabl ar dudalen 16 yr adroddiad yn dadansoddi nifer y tai cyngor ar gyfartaledd y byddai’r cynnydd arfaethedig yn effeithio arnynt, ac roedd y tabl ar dudalen 17 yn manylu ar y rhenti targed unigol i wahanol fathau o dai. Cadarnhaodd y gellid darparu’r effaith ar ardaloedd unigol yn uniongyrchol i aelodau’r Pwyllgor.

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 16 o’r adroddiad a chynigion y llywodraeth yngl?n â thalu Budd-daliadau Tai yn y dyfodol. Golygai’r cynigion y byddai tenantiaid sy’n byw ar eu pen eu hunain, sy’n hawlio budd-dal ac sydd o dan 35, yn symud, o’r 1af Ebrill 2019, i’r Gyfradd Lwfans Tai Leol i lety a rennir, ac ni fyddai’r rhan fwyaf o denantiaid o dan 21, sy’n cael credyd cynhwysol, yn gymwys i gael costau tai i dalu’u rhent o fis Rhagfyr 2017. Mynegwyd pryder yngl?n â’r effaith bosibl y gallai’r newidiadau hyn ei chael, yn arbennig ar rai dan 21, a hynny’n arwain at ragor o ddigartrefedd. Mynegwyd barn y dylid hysbysu’r Bwrdd Gweithredol am yr effaith bosibl honno, ac y dylid lobïo Llywodraeth Cymru i ganfod ffordd o liniaru effaith y mesur.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Is-adran Tai, ynghyd â’i Phartneriaid Tai Cymdeithasol, yn ymwybodol o effaith bosibl y ddeddfwriaeth a’u bod yn ystyried pa fesurau y gellid eu cyflwyno i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) "DARPARU'R PETHAU PWYSIG" CYNLLUN BUSNES 2017-20 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Busnes 2017-20 Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy i’r Pwyllgor i’w ystyried, i dri diben. Yn gyntaf, roedd yn egluro ac yn manylu ar ddarpariaeth y Cynllun dros y tair blynedd nesaf a beth yr oedd yn ei olygu i denantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau’r proffil ariannol, wedi’i seilio ar y rhagdybiaethau presennol er gwireddu’r Safon Tai a Mwy dros gyfnod y cynllun. Yn drydydd, roedd yn llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2017/18, yn cyfateb i £6.1m.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol am yr adroddiad:

  • Cyfeiriwyd at un o egwyddorion allweddol y Cynllun, sef cefnogi’r ffordd y byddwn yn mynd ati i reoli cartrefi, tir a llecynnau garejis yn y dyfodol. Mynegwyd barn y dylid ymestyn yr egwyddor i ymgorffori ymddygiad anghymdeithasol a gerddi o ystyried eu potensial i gael effaith niweidiol ar fwynderau trigolion eraill.

 

Atgoffodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y Pwyllgor fod gan y Cyngor bolisi’n barod ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy’n digwydd yn gyffredinol mewn rhyw fannau lleol yn hytrach na’i fod yn broblem ar draws y sir. Roedd y polisi hwnnw’n cynnwys nifer o fesurau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan roi sylw i ddigwyddiadau unigol a digwyddiadau ehangach e.e. cysylltu â’r Heddlu ac Aelodau lleol i lunio cynllun gweithredu a allai gynnwys Polisi Gosodiadau Lleol.

 

O ran cynnal a chadw gerddi, dywedodd, er nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn broblem fawr, y gallai’r Pwyllgor newid y datganiad yn y polisi er mwyn ei gynnwys. Fodd bynnag, lle’r oedd materion yn codi, gellid delio â nhw fel arfer o dan y cytundeb tenantiaeth ond, lle’r oedd pobl yn gwrthod cynnal a chadw’u gerddi o hyd, gallai’r Cyngor wneud y gwaith yn niffyg hynny a chodi ar y tenant am y gwaith.

  • Mewn ymateb i gwestiwn am archwilio cartrefi fel rhan o Safon Tai Sir Gaerfyrddin, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai fod y gwasanaeth yn ymweld â mwyafrif y tai o leiaf unwaith y flwyddyn am nifer o resymau gwahanol e.e. ymweliadau atgyweirio â rhyw 7,000 o gartrefi ac ymweliadau gan swyddogion tai â thua 3,500 o gartrefi. Roedd gan yr Adran darged hefyd i gynnal arolwg blynyddol 20% i asesu cyflwr y stoc ac asesu i ba raddau y mae’n cydymffurfio â Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy.
  • Mewn ymateb i gwestiwn am gydweithio â Dinas a Sir Abertawe ar arbed ynni, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai fod y trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt o dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a oedd yn cynnwys prosiect i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi newydd. Roedd y Cyngor yn gweithio hefyd gyda Th? SOLCER ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phrifysgol Caerdydd ar ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi sy’n bodoli’n barod.
  • Mewn ymateb i gwestiwn am sefydlu cwmni tai lleol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai fod Achos Busnes wrthi’n cael ei gwblhau’n derfynol i’w gyflwyno drwy broses wleidyddol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Cynllun Busnes 2017-20 Safon Tai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

HARBWR PORTH TYWYN - GWAITH CYNNAL A CHADW YN Y DYFODOL pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar y 13eg Gorffennaf 2015, wedi cefnogi angen strategol i gynnal a chadw Harbwr Porth Tywyn ac wedi nodi swm tybiannol o £400k yn y Rhaglen Gyfalaf i wneud gwaith arno. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, gwnaed gwaith i ymchwilio i’r gwaith carthu a oedd yn ofynnol, ynghyd ag adolygiad o’r gofynion cynnal a chadw ar waliau rhestredig gradd II yr harbwr. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn rhoi crynodeb o’r materion, y risgiau a’r costau ynghyd â sawl opsiwn cynnal a chadw ar gyfer y dyfodol, yn amrywio o ‘wneud dim’ i restr gynaliadwy o gynnal a chadw wedi’i gynllunio a oedd yn rhoi lefel resymol o sicrwydd yngl?n â’r costau rheolaidd o safbwynt carthu ac atgyweirio wal yr harbwr. Fodd bynnag, nid oedd ‘gwneud dim’ yn opsiwn o ran waliau’r harbwr, oherwydd eu statws rhestredig.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at Brif Gynllun Adfywio Porth Tywyn a’r rhan annatod yr oedd yr Harbwr yn ei chwarae yn y cynigion hynny. Maent yn cynnwys Gorsaf Bad Achub newydd, datblygiad tai ar hyd cyrion yr harbwr (470 o gartrefi ynghyd ag elfen byw/gweithio), ysgol Gymraeg newydd 330 lle, ynghyd ag elfen fasnachol yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau manwerthu, gwesty a thafarn/t? bwyta. Er y byddai’r elfennau uchod yn tynnu ymwelwyr a thwristiaid i’r ardal yn y tymor byr, mynegwyd barn fod dyfodol tymor hir yr Harbwr yn ddibynnol ar iddo gael buddsoddiad priodol i gynnal ei hyfywdra i’r dyfodol a, thrwy hynny, ddenu buddsoddwyr pellach a fyddai’n chwarae rhan o bwys yn y gwaith o adfywio ardal yr Harbwr. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau argymhellion yr adroddiad.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am y potensial i’r carthu gael ei wneud drwy’r Dull Chwistrellu D?r y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden sylw’r Pwyllgor at gostau hynny fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, o’i gymharu â dulliau carthu traddodiadol. Dywedodd mai Chwistrellu D?r oedd yr opsiwn a gâi ei ffafrio yn amgylcheddol gan ei fod yn golygu chwistrellu d?r i’r silt i’w grogiannu ac y byddai wedyn yn cael ei gario ymaith ar y trai. Byddai carthu mecanyddol (torri a sugno), ar y llaw arall, yn golygu bod rhaid gwaredu’r silt i leoliad oddi ar y safle a chael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran carthu tywod yn fecanyddol o fynedfa’r harbwr, roedd gwaith ar y gweill i asesu’r potensial i dalu’r costau gwaredu yn rhannol drwy werth posibl gwerthu’r deunydd carthu.

·        Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at sylwadau cynharach am fudd economaidd cyfleusterau Marina/Harbwr fel Porth Tywyn i’r economi leol. Er bod data ar gael ar hyn, dywedodd nad oedd y manteision economaidd posibl a allai ddod i Borth Tywyn yn sgil yr Harbwr wedi cael eu hymgorffori yn yr adroddiad, nad oedd ond yn ymdrin â’r gofynion cynnal a chadw i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i’r Bwrdd Gweithredol y dylid cadarnhau’r adroddiad ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2014-17 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Asesiad Blynyddol 2015/16 Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn rhoi Dyletswydd Statudol ar bob Awdurdod Llyfrgelloedd Cyhoeddus i ‘ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd cynhwysfawr ac effeithlon’ a dyletswydd ar Weinidogion Cymru ‘i oruchwylio a hyrwyddo gwelliant’ yng ngwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Yn unol â’r gofyniad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’i hasesiad o Ddatganiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin am 2015/16 ac roedd Sir Gaerfyrddin yn cyflawni 17 o’r 18 hawl graidd, gydag un hawl yn cael ei chyflawni’n rhannol. Roedd honno’n ymwneud ag Arweinyddiaeth a Datblygu a chyhoeddi Blaenraglen Waith. Cafodd y Pwyllgor drosolwg PowerPoint o raglen ddrafft 2017/2022, sydd i fod i gael ei chwblhau yn ystod mis Mawrth 2017.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor hefyd fod Llyfrgell Llanelli wedi cael ei nodi’n ddiweddar mewn erthygl gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth fel y 3edd uchaf o blith holl lyfrgelloedd Cymru, Lloegr a’r Alban o ran nifer y llyfrau a’r benthyciadau eraill a ddarparwyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gyda chyfanswm o 555,712 o fenthyciadau.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad a’r cyflwyniad Power point:-

 

·        Cyfeiriwyd at rôl gwirfoddolwyr yn y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a rhoddwyd sicrwydd i’r pwyllgor fod y gwasanaeth yn croesawu gwirfoddolwyr, lle’r oedd hynny’n ymarferol, ym mhob un o’i lyfrgelloedd a’i fod yn darparu hyfforddiant priodol. Roedd y gwasanaeth hefyd yn ystyried dichonoldeb achredu’r hyfforddiant hwnnw mewn rhai meysydd gwaith.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am ostyngiad 40% yn y benthyciadau clyweled ac electronig, hysbyswyd y Pwyllgor fod hyn i’w briodol i newid yn y ffordd roedd y cyhoedd yn cyrchu at y gwasanaethau hynny gan eu bod yn lawrlwytho cerddoriaeth a ffilmiau ac yn eu ffrydio’n fyw yn uniongyrchol i’w dyfeisiau electronig personol.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am y potensial i’r awdurdod gydleoli ei lyfrgelloedd mewn canolfannau ac adeiladau cyhoeddus eraill, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgell eu bod yn ymchwilio’n ddyfal i gyfleoedd cydleoli oherwydd y manteision yr oedd hynny’n eu darparu i gynyddu mynediad at wasanaethau a lleihau costau. Ymysg yr enghreifftiau o gydleoli roedd y cyfleuster llyfrgell newydd a fyddai’n agor yn fuan yn y swyddfeydd dinesig yn Llandeilo, Y Gât yn Sanclêr a’r cyfleusterau yn Ysgol Y Bedol.

·        Cyfeiriwyd at y cerbydau llyfrgell deithiol newydd a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth yn fuan, a chadarnhawyd y byddent yn disodli cerbydau, nid yn ychwanegol at y fflyd bresennol. Cafodd y cerbydau newydd eu dylunio i ddarparu gwasanaethau electronig a gosodwyd llwybryddion deuol ynddynt ar gyfer EE a Vodaphone i sicrhau’r cyrhaeddiad electronig ehangaf posibl a lleihau’r mannau di-dderbyniad cyn belled ag sy’n bosibl drwy allu cysylltu â’r gorau a gynigir gan y darparwyr gwasanaeth hynny mewn unrhyw ardal neilltuol.

 

Yn deillio o’r uchod, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgell y gellid trefnu i’r Pwyllgor weld un o’r cerbydau llyfrgell deithiol newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Asesu Blynyddol 2015/16 ar Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin a chadarnhau Blaenraglen Waith Ddrafft 2017/2022.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr eglurhad a ddarparwyd am beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r adroddiad ar beidio â chyflwyno.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 5ED RHAGFYR 2016 pdf eicon PDF 265 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar y 5ed Rhagfyr, 2016 i gael eu llofnodi fel rhai cywir.

12.

DERBYN A LLOFNODI COFNODION AR Y CYD Y PWYLLGORAU CRAFFU CYMUNEDAU A PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD AR Y 5ED RHAGFYR 2016 pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion y cyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar y 5ed Rhagfyr, 2016 i gael eu llofnodi fel rhai cywir.