Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD AM Y FLWYDDYN DDINESIG 2019/20 Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd F. Akhtar yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.
|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr C.A. Davies, W.R.A. Davies a H.I.
Jones.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion:
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
ADEILADU MWY O DAI CYNGOR - EIN HUCHELGAIS A'N CYNLLUN GWEITHREDU PDF 743 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys cynllun trawsnewidiol 'Adeiladu mwy o Dai Cyngor - Ein Huchelgais a'n Cynllun Gweithredu' a oedd â'r nod o ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ac argymhellion arfaethedig mewn perthynas â'r canlynol:
· ble a phryd y byddai'r tai'n cael eu hadeiladu; · yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu fyddai'n cael eu defnyddio; · sut y byddai blaenoriaethau adfywio ehangach ledled y sir yn cael eu cefnogi; · sut y byddid yn manteisio ar gyfleoedd newydd wrth iddynt godi.
Byddai'r cynllun gweithredu yn arwain at y cynnydd mwyaf yn nifer y tai Cyngor yn y sir ers y 1970au ac yn dychwelyd y stoc dai i'r lefelau a welwyd ddiwethaf yn y 1990au.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod darparu mwy o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r Cyngor sy'n rhan o weledigaeth pum mlynedd i gynyddu'r cyflenwed o dai fforddiadwy. Yn 2016, dechreuodd y Cyngor ar ei rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol 10 mlynedd i ddarparu dros 1000 o dai fforddiadwy ychwanegol ledled y Sir. Mae'r Cyngor bellach yn ei bedwaredd blwyddyn o ddarparu'r tai fforddiadwy, ac roedd y tair blynedd gyntaf yn llwyddiannus iawn gan fod bron 700 o dai wedi'u hadeiladu ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 1000 o dai fforddiadwy.
Nododd yr Aelodau fod rhaglen ddatblygu'r Cyngor wedi'i llunio gan ddefnyddio strwythur camau darparu a oedd yn dangos pryd y byddai'r tai'n cael eu hadeiladu. Roedd hyn yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys yr amserlenni tebygol o ran cyflawni'r rhaglen, sy'n cynnwys tri cham blaenoriaeth, a ddisgrifiwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· O ran maint y tai newydd, dywedwyd bod y tai Cyngor yn y gorffennol yn gadarn, wedi'u hadeiladu'n dda â gardd o faint da. O gymharu â hynny, mynegwyd pryder y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu'n rhy agos at ei gilydd â gerddi llai o faint. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'r tai newydd yn cael eu dylunio'n benodol i gynnwys digon o le ar gyfer cartref gydol oes. Yn ogystal, er mwyn diogelu'r tai at y dyfodol, byddent yn cydymffurfio â'r safonau o ran lle a fyddai felly'n sicrhau eu bod yn addas at y diben.
· Dywedwyd y byddai'n fuddiol i'r aelodau gael dadansoddiad o'r meysydd datblygu mewn perthynas â'r amrywiaeth fesul ward. Cytunodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n anfon neges e-bost at yr holl aelodau i gynnwys manylion ynghylch y gweithgarwch o ran tai fforddiadwy fesul ward.
· Mynegwyd pryderon ynghylch nifer y ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno'n gyson er mwyn cadw'r caniatâd i adeiladu ar y tir heb fod unrhyw waith yn mynd yn ei flaen. Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod y pryderon, gan ddweud bod trafodaethau ar waith o ran y posibilrwydd o gyfyngu ar nifer y ceisiadau ar gyfer un safle. Cynigiodd y Pennaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 PDF 437 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o berfformiad 2018/19 a chynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant. Canolbwyntiodd yr aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen gan fod y rheiny'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Cymunedau:
· Rhagarweiniad · AMCAN LLESIANT 2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw · AMCAN LLESIANT 5. Trechu Tlodi · AMCAN LLESIANT 6. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir · AMCAN LLESIANT 7. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael · AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra) · AMCAN LLESIANT 14. Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru · Atodiadau
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at dudalen grynhoi'r Mesurau Llwyddiant Allweddol. Dywedwyd bod defnyddio gwepluniau'n amhriodol i nodi llwyddiant rhai o'r mesurau. Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth a dywedodd y byddai'n chwilio am symbol mwy priodol i ddangos y llwyddiant drwy'r ddogfen.
· Yn dilyn nifer o sylwadau ynghylch y targedau, roedd yr Aelodau o'r farn bod angen i'r targedau fod yn fwy realistig neu'n dryloyw pe byddai tuedd yn cael ei nodi mewn perthynas â diffyg gwelliant bob blwyddyn. Roedd y Pennaeth Hamdden yn cydnabod bod rhai o'r targedau'n uchelgeisiol a bod cynnydd rhai o'r mesurau heb ddatblygu llawer ac efallai y bydd yn cymryd amser ychwanegol i gyflawni gwelliannau.
· O ran y graff yn Amcan Llesiant 9, a ddangosai 'canran y bobl sy'n teimlo bod ganddynt ymdeimlad o gymuned'. Mynegwyd canmoliaeth gan mai Sir Gaerfyrddin yw'r 4ydd uchaf o flwyddyn i flwyddyn o ran y % newid, ar ôl lleihau o 73% yn 2014/15 i 47.4%. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y llwyddiant oherwydd bod y Tasglu Gwledig yn monitro cymunedau gwledig, a oedd yn gweithio ar ffyrdd i wella cynhwysiant cymdeithasol drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio.
Dywedwyd y byddai'r argymhellion o'r adolygiad Gorchwyl a Gorffen ynghylch Unigrwydd yn cyfrannu at Amcan Llesiant 9. Yn ogystal, dywedodd aelod fod grant o'r gronfa effeithlonrwydd o hyd at £5k ar gael. Fodd bynnag, gan fod y grant hwn yn boblogaidd, cynghorir bod cais yn cael ei gyflwyno'n gyflym. Roedd y Pennaeth Hamdden yn cytuno ac yn cydnabod mor bwysig oedd i Gynghorwyr a Swyddogion fanteisio ar unrhyw gynlluniau sydd ar gael iddynt.
· Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r Caffi a'r Maes Carafanau ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y ddigwyddiadau uchel eu proffil niferus wedi bod o fudd i'r ardal ac y byddai'r Caffi'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn a gynigir yn y parc. Roedd rhai problemau cychwynnol o ran y system rhwystr newydd yn y maes parcio ac yn y cyfamser, er mwyn cynorthwyo ag unrhyw faterion a sicrhau bod ceir yn gallu dod i mewn a gadael yn hwylus, roedd staff yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 95 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad craffu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 225 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 3 Hydref 2019.
|
|
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED MAI, 2019 PDF 340 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 gan eu bod yn gywir.
|