Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 7fed Medi, 2015 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 23AIN GORFFENNAF, 2015. pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 23ain Gorffennaf 2015, gan ei fod yn gywir.

 

 

3.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIADAU PENDERFYNIAD Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR 29AIN MEHEFIN, 2015 A'R 23AIN GORFFENNAF, 2015. pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion penderfyniadau Cyfarfodydd ar y Cyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau a gynhaliwyd ar 29ain Mehefin a 23ain Gorffennaf 2015 i nodi eu bod yn gywir.

 

4.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEMAU GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif. 4 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol. Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.    Felly, ar ôl cloriannu'r mater, barnwyd bod y budd i'r cyhoedd o gadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500.00 gan gyn-denantiaid. Yr oedd y Polisi Ôl-ddyledion Cyn-denantiaid yn nodi'n glir y meini prawf yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy wrth benderfynu a oedd yn annarbodus cymryd camau pellach er mwyn ceisio casglu dyled gan gyn-denant.

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr atodlen o achosion oedd wedi'u cyflwyno i'w dileu, ac roedd pob un ohonynt yn bodloni gofynion y polisi.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.