Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 17eg Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr C. Downward.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 13EG O IONAWR 2017 pdf eicon PDF 169 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2017, gan eu bod yn gywir.

 

4.

LLYFR ACHOSION Y CÔD YMDDYGIAD pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, er gwybodaeth, adroddiad ynghylch Coflyfr Côd Ymddygiad yr Ombwdsmon, Rhifyn 11, a oedd yn cynnwys crynodebau o ymchwiliadau ynghylch y côd a oedd wedi dod i ben.  Nododd y Pwyllgor ddau achos penodol yn ymwneud ag aelodau o Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Tywyn.

 

Gofynnodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol a oedd aelodau'r Pwyllgor yn dymuno parhau i dderbyn ac ystyried Coflyfr y Côd Ymddygiad bob chwarter.  Cytunodd y Pwyllgor fod y wybodaeth yn y Coflyfrau yn fuddiol ac y byddai Coflyfrau yn y dyfodol yn cael eu croesawu gan y Pwyllgor.

 

Yn dilyn cwestiwn ynghylch ymddiswyddo yn ystod y cyfnod ymchwilio i g?yn, dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith na fyddai ymddiswyddiad mewn amgylchiadau arferol yn atal proses gwynion.

 

Mewn perthynas ag achos ynghylch Cyngor Sir Fynwy, cafwyd trafodaeth ynghylch argraff y cyhoedd o gydraddoldeb a pharch.  Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith mai un o ofynion y Côd Ymddygiad oedd bod angen trin pobl â pharch a dylid gwneud hyn bob amser.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

 

5.

HYFFORDDIANT AR Y CÔD YMDDYGIAD I GYNGHORWYR SIR pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar yr Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Sir a oedd yn cynnwys cyflwyniad hyfforddiant a phecyn briffio ynghylch moeseg a safonau ar gyfer hwyluswyr.

 

Nododd y Pwyllgor fod trefniadau wedi cael eu gwneud i gynnal sesiwn hyfforddiant ar gyfer y Cynghorwyr etholedig newydd ynghylch Côd Ymddygiad yr Aelodau yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 ac y byddai'r sesiwn hwn yn cael ei gynnal ar 15 Mai 2017.  Hefyd, dywedwyd bod sesiwn ymsefydlu ar wahân ar gyfer unrhyw aelodau newydd o'r Pwyllgor Safonau yn cael ei gynnal ar 9 Mehefin 2017.  Estynnwyd gwahoddiad i aelodau cyfetholedig y Pwyllgor fod yn bresennol yn y ddau sesiwn.

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol mai'r bwriad oedd defnyddio deunyddiau hyfforddiant a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth ddarparu hyfforddiant, fel y gwnaed yn ystod y blynyddoedd blaenorol.  Ychwanegodd er nad oedd sesiynau hyfforddiant pwrpasol ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y Pwyllgor Safonau, y byddai'n fodlon darparu hyfforddiant penodol petai'r Pwyllgor yn barnu bod hynny'n angenrheidiol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod angen newid dyddiad sesiwn hyfforddiant y Pwyllgor Safonau i 5 Mehefin 2017 a gofynnodd fod y dyddiad newydd yn cael ei nodi.

 

Ar sail sesiynau hyfforddiant blaenorol, awgrymwyd y byddai'n fuddiol defnyddio meicroffon i sicrhau bod modd i bawb sy'n bresennol glywed y siaradwr. Cytunodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol ac fe'i nodwyd yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

6.

HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, ers nifer o flynyddoedd, wedi bod yn trefnu sesiynau hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned. Yn unol â'r arfer hwnnw, bu'n ystyried y cyflwyniad arfaethedig ar gyfer sesiynau 2017, a oedd yn ymgorffori adborth o ddigwyddiadau 2016. 

 

Nododd y Pwyllgor fod y prif newidiadau yn cynnwys ailysgrifennu'r adran ynghylch buddiant personol ac er bod y cyfeiriad at ganllaw 'hwylus' wedi cael ei gadw, roedd y sleidiau a oedd yn egluro'r amrywiol resymau sy'n rhoi bod i fuddiant personol wedi cael eu hailosod er mwyn esbonio'n well i'r Cynghorwyr newydd beth yw eu rhwymedigaethau o dan y rhan hon o'r Côd. Hefyd, mae adran newydd wedi'i chynnwys sy'n egluro'r buddiannau personol hynny NAD ydynt yn rhagfarnol ac adrannau newydd eraill sy'n nodi lle y gellid cael cyngor ac yn pwysleisio rôl y Clerc.

 

Ar ôl trafodaeth ynghylch nifer y sesiynau hyfforddiant yn 2017 a'u lleoliadau, cynigiwyd cynnal dau sesiwn hyfforddiant yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin yn ystod mis Mehefin, ac na fyddai terfyn o ran nifer y bobl allai fynychu o bob awdurdod.  Cafodd hyn ei eilio a chytunwyd arno, gan y byddai'r fformat hwn yn gyfle i gynghorwyr tref a chymuned gwrdd â'i gilydd.

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n anfon dyddiadau'r sesiynau hyfforddiant ymlaen at y Pwyllgor yn y man.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1       cymeradwyo'r cyflwyniad ar gyfer Sesiynau Hyfforddiant 2017 ynghylch y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned.

 

6.2       y byddai dau sesiwn hyfforddiant yn cael eu cynnal yn Neuadd y Sir heb derfyn o ran nifer y bobl a allai fynychu o bob Awdurdod.

 

7.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y flaenraglen waith ddrafft am flwyddyn y cyngor 2017/18.  Datblygwyd y rhaglen ddrafft i ddosbarthu'r gwaith yn gyfartal drwy'r flwyddyn. 

 

Cynigiodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol fod Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd yn cael ei gyflwyno i'r cyngor llawn ym mis Ionawr 2018 yn lle ym mis Rhagfyr 2017.  Byddai hynny'n caniatáu i'r Adroddiad Blynyddol drafft gael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2017, ynghyd â'r Adroddiad Blynyddol ynghylch Cydymffurfio â'r Côd o ran Cynghorau Tref a Chymuned gan ganiatáu amser ychwanegol i gynnwys gwybodaeth angenrheidiol.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod eitem sefydlog ar agenda pob cyfarfod wedi'i chynnwys er mwyn i'r Pwyllgor ystyried unrhyw ddatblygiadau mewn cyfraith achosion neu ganllawiau ac ystyried Coflyfr Côd Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y byddai'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol hefyd yn cael ei ychwanegu at y flaenraglen waith.  Yn ogystal, dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Gynhadledd Safonau a gynhelir bob dwy flynedd yn digwydd yn ddiweddarach eleni ac nad oedd y lleoliad wedi'i gadarnhau eto.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod y Papur Gwyn: Diwygio Llywodraeth Leol a oedd yn destun ymgynghori ar hyn o bryd yn cynnwys nifer o newidiadau arfaethedig a fyddai'n effeithio ar y Pwyllgor Safonau.  Un o'r cynigion arfaethedig oedd y byddai Pwyllgorau Safonau'n clywed achosion o fethiant honedig gan aelodau i gyflawni dyletswyddau perfformiad penodedig, yn ogystal ag achosion o dorri Côd Ymddygiad yr Aelodau.

 

Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael gwybodaeth lawn, dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n darparu adroddiad ynghylch yr holl newidiadau ac adroddiad ynghylch Cydymffurfio â'r Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol fod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Safonau 2017/18 yn cael ei chymeradwyo.