Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 17eg Hydref, 2017 9.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - THE BLACK MOUNTAIN INN, 126 HEOL Y MYNYDD, BRYNAMAN UCHAF, RHYDAMAN SA18 1AN pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Is-bwyllgor bod yr ymgeiswyr wedi gofyn am ohirio ystyried eu cais tan ddyddiad diweddarach.

 

PENDERFYNWYD cytuno â'r dymuniad i ohirio ystyried y cais.

 

3.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU, LLANARTHNE,SIR GAERFYRDDIN, SA32 8HG pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 9.35 a.m. ac ailymgynnull am 11.15 a.m. ar y safle yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, gan fynd heibio nifer o eiddo gwrthwynebwyr ar y ffordd, er mwyn gweld yr eiddo a chael cyfle i archwilio'r cyfleusterau mewnol ac allanol. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.30 p.m. i ystyried y cais.

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.

Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor bod cais wedi dod i law gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol.

 

           Dramâu, ffilmiau, digwyddiadau chwaraeon dan do, bocsio a reslo,

           perfformio dawns, ac unrhyw beth tebyg, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 08:00 a 23:00.

         

           Cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth a recordiwyd a chyflenwi alcohol o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 08:00 ac 01:00.

 

           Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 ac 01:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

Atodiad A – copi o'r cais

Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E – sylwadau gan bobl eraill.

 

 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau yn yr oriau y gwnaed cais amdanynt ac amodau ychwanegol a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol a chynllun yn nodi lleoliadau eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo yn y cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwyddedu Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwyddedu Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwyddedu Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan rai o'r bobl eraill a oedd yn mynegi pryderon ac/neu'n gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.

Wedyn bu i'r ymgeiswyr ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.

 

Yna bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.