Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Gwener, 27ain Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 2244088

Nodyn: Datganiad Cyfrifon / Statement of Accounts 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Davies.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Yr Aelod

Eitem Agenda

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd K. V. Broom

5 - Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed (yn cynnwys 5.1 - 5.4)

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Mrs Karen Jones

5 - Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed (yn cynnwys 5.1 - 5.4)

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

M. MacDonald

5 - Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed (yn cynnwys 5.1 - 5.4)

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd P. T. Warlow

5 - Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed (yn cynnwys 5.1 - 5.4)

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D. E. Williams

5 - Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed (yn cynnwys 5.1 - 5.4)

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd J. Williams

5 - Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed (yn cynnwys 5.1 - 5.4)

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

DATGANIAD CYFRIFON 2022/23 CYNGOR SIR GAERFYRDDIN:

Dogfennau ychwanegol:

3.1

DATGANIAD CYFRIFON CYNGOR SIR GAERFYRDDIN 2022/23 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon 2022/23 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i baratoi yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018). Dywedwyd, yn sgil cyflwyno'r safon archwilio ddiwygiedig (ISA 315 (UK) ac oedi o ran cwblhau rhai cyfrifon 2021/22, y dyddiad cau statudol ar gyfer cyfrifon 2022/23 wedi'u harchwilio wedi'i ymestyn i 30 Tachwedd 2023.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r pwyntiau amlwg yn y Datganiad Cyfrifon a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, ac a oedd yn cynnwys y diwygiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru fel rhan o'i archwiliad. 

 

Mewn perthynas â Chronfa'r Cyngor, cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i gronfa wrth gefn y Gronfa Gyffredinol na balans y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod archwilio wedi nodi gwariant cyfalaf o £1.058m a dalwyd ym mis Ebrill 2023 oedd yn ymwneud â 2022/23 ac felly roedd angen addasu'r gwariant cyfalaf a gostyngiad cysylltiedig yng Nghronfeydd wrth Gefn Neilltuedig y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 a fyddai'n cyd-fynd â'r Datganiad Cyfrifon i ddangos cydymffurfiaeth yr Awdurdod â fframwaith CIPFA a SOLACE a'i saith egwyddor graidd o lywodraethu da.  Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod mân addasiad wedi'i wneud ers dosbarthu dogfennau'r cyfarfod, i'r ffigurau sy'n ymwneud â nifer yr achosion o dorri rheolau data personol a digwyddiadau seiberddiogelwch a nodir yn adran 3.3.7.4 o'r ddogfen.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o adrodd, er gwaethaf cefndir yr hinsawdd macro-economaidd bresennol, fod statws ariannol cyffredinol yr Awdurdod wedi cael ei gynnal ar lefel ddarbodus.  I grynhoi, diolchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'i dîm am eu gwaith rhagorol i baratoi'r Datganiad Cyfrifon.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Cyfeiriwyd at y gyllideb refeniw yn manylu ar y gwariant adrannol yn ystod y cyfnod adrodd.  Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a adroddwyd ar gyfer gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant ac ysgolion, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i fod yn wyliadwrus o'r rhesymau sylfaenol dros y gorwariant, a chroesawodd y camau a eglurwyd oedd yn cael eu cymryd gan yr Awdurdod yn hyn o beth.

 

Tynnwyd sylw at y Cyfrif Refeniw Tai lle codwyd pryderon mewn perthynas â'r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent tenantiaid, gyda pherfformiad yr Awdurdod y tu hwnt i ymyl yr hyn a ystyriwyd yn lefel arfer dda. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol at effaith pandemig y coronafeirws ar lefel ôl-ddyledion tenantiaid presennol a rhoddodd grynodeb o reolaeth a pherfformiad ôl-ddyledion rhent yr Awdurdod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd wedi gwella ers 2021 ac a oedd yn ffafriol o gymharu ag Awdurdodau eraill.

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth gamarweiniol ddiweddar a ddyfynnir yn y wasg a'r cyfryngau mewn perthynas â sefyllfa gyllidebol yr Awdurdod. Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.1

3.2

ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL - CYNGOR SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Araiannol. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o gyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2022/23. 

 

Yr Archwilydd Cyffredinol oedd yn gyfrifol am ddarparu sylwadau ynghylch a oedd y datganiadau ariannol yn olwg gywir a theg ar sefyllfa Cyngor Sir Caerfyrddin ar 31 Mawrth 2023.  

 

Tynnodd Mr D Owen, Cynrychiolydd Archwilio Cymru, sylw'r Pwyllgor at baragraff 7 o'r adroddiad gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith archwilio rhagorol a oedd wedi ei gwblhau ers dosbarthu'r ddogfen.

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ar ôl i'r Llythyr Sylwadau ddod i law.  Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Gofynnwyd am ragor o fanylion mewn perthynas â'r camddatganiad wedi'i gywiro ynghylch ailbrisio asedau a nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Ariannol yn briodol fod cyfran sylweddol o'r camddatganiad yn ymwneud â'r rhaglen tai cymdeithasol lle nad oedd ailbrisio wedi'i wneud yn dilyn trosglwyddo asedau o 'yn cael eu hadeiladu' i 'yn cael eu defnyddio'n weithredol’. Esboniwyd bod lefel yr ailbrisio yn ymwneud â'r cynnydd sylweddol yng nghyfradd rhaglen dai'r Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a waethygwyd ymhellach gan bandemig y coronafeirws a chynnydd mewn costau adeiladu; At hynny, o fewn cyfrifon yr Awdurdod, roedd tai cymdeithasol yn cael eu prisio ar sail gostyngol i werth y farchnad.

 

Dangosodd yr Aelodau eu gwerthfawrogiad am yr holl staff sy'n ymwneud â llunio adroddiad cadarnhaol a chalonogol a oedd yn rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor mewn perthynas â sefyllfa ariannol yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Gyfrifon Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

3.3

LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I ARCHWILIO CYMRU CYNGOR SIR GAR pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru a oedd wedi'i baratoi gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â gofynion y Datganiad ar Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr).

 

Roedd angen cydnabyddiaeth ffurfiol y Pwyllgor o ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Archwilio Cymru hefyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gydnabod yn ffurfiol y Llythyr Sylwadau gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio at Archwilio Cymru.

3.4

YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SY'N GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ymatebion yr Awdurdod i Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu a effeithiodd ar yr archwiliad o'r datganiadau ariannol.   Roedd yr ystyriaethau hynny yn berthnasol i reolwyr y Cyngor a'r 'rheiny sy'n gyfrifol am lywodraethu', sef y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Archwilio Cymru  o'r Cyngor a'i brosesau busnes  er mwyn cynorthwyo Archwilio Cymru i roi barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2022/23.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Tynnwyd sylw at ymholiadau rheolwyr mewn perthynas â thwyll lle nodwyd y gallai'r Awdurdod, yn ei ymateb, gyfeirio at nifer y cwynion a oedd yn datgelu camarfer a drosglwyddwyd o'r blynyddoedd blaenorol. Cyfeiriwyd hefyd at yr hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Dwyll a Seiberdroseddu a ddarparwyd gan Heddlu Dyfed-Powys lle awgrymodd y Pwyllgor y dylid cynnwys presenoldeb y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac Aelodau'r Cyngor yn y digwyddiadau hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y nodir yn yr adroddiad, ac yn amodol ar y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn y cyfarfod.

4.

DATGANIAD ARIANNOL AWDURDOD HARBWR PORTH TYWYN 2022-23 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad sy'n ymwneud â datganiad cyfrifo 2023-23 Awdurdod yr Harbwr wedi'i archwilio wedi cael ei dynnu'n ôl gyda'r bwriad o gael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Yn hyn o beth, eglurwyd bod yr adroddiad yn ffeithiol gywir, ystyriwyd ei bod yn briodol cynnwys datganiadau ychwanegol ynghylch y gweithgareddau a'r risgiau ar ôl i'r Marine & Property Group Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mehefin 2023. 

5.

DATGANIAD CYFRIFON CRONFA BENSIWN DYFED:

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Roedd y Cynghorydd K.V. Broom, Mrs K. Jones, Mr M. MacDonald, y Cynghorydd P. T. Warlow, y Cynghorydd D. E. Williams a'r Cynghorydd J. Williams wedi datan buddiant yn eitemau 5.1 – 5.4 ar yr agenda yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod wrth i'r eitemau gael eu hystyried].

5.1

ADRODDIAD A CHYFRIFON BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN DYFED 2022-2023 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, cafodd Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2022-23 wedi'i archwilio, a oedd yn ymwneud â Chronfa Bensiwn Dyfed, eu rhoi gerbron y Pwyllgor i'w cymeradwyo. Roedd yr adroddiad blynyddol yn darparu gwybodaeth am sefyllfa ariannol, perfformiad a hyblygrwydd ariannol y Gronfa am y flwyddyn 2022-23. 

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fanylion am y mân ddiwygiadau a wnaed i'r cyfrifon a oedd yn cynnwys mewnosod Nodyn Digwyddiadau ar ôl y Fantolen nad oedd yn cael unrhyw effaith gyffredinol ar y datganiadau sylfaenol, a nodyn datgelu ar symud buddsoddiadau rhwng Lefel 3 a 2 o fewn nodyn 13.5 a 13.6 o'r datganiad cyfrifon.  Cadarnhawyd bod yr holl newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru wedi cael eu hadlewyrchu yn y Datganiad Cyfrifon.

 

Cyfeiriwyd at y prisiad actiwaraidd teirblwydd ar 31 Mawrth 2022 lle dywedwyd bod lefel ariannu'r Gronfa wedi cynyddu o 105% i 113% dros y tair blynedd ers 31 Mawrth 2019.

 

Nodwyd bod Asedau Net y Gronfa wedi gostwng £100m o 2021-22 i 2022-23 sydd, yn bennaf, oherwydd y gostyngiad yng ngwerth marchnadol yr asedau buddsoddi.  Eglurwyd nad oedd y rhain yn golledion heb eu gwireddu gan nad oedd y Gronfa wedi gwaredu'r buddsoddiadau hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau a'i dîm ar ran y Pwyllgor am eu gwaith rhagorol i gydlynu Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon y Gronfa.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am sefyllfa'r Awdurdod o ran ateb McCloud/Sargeant. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fanylion am yr effaith weinyddol o ran cysoni a dilysu data sydd eu hangen i sicrhau hawl i fudd-daliadau cywir ar gyfer achosion niweidiol ar unwaith a chadarnhaodd fod gwaith yn cael ei wneud gan gyflenwr y feddalwedd i adlewyrchu'r newidiadau sy'n ofynnol i'r system bensiynau. Adroddwyd bod y cynnydd mewn costau ymylol i rwymedigaethau'r Gronfa yn y dyfodol eisoes wedi'i ymgorffori yn rhagdybiaethau'r Actiwari felly nid oedd unrhyw effaith ariannol ychwanegol ar sefyllfa'r Gronfa.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y Datganiad Cydymffurfiaeth Llywodraethu, sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y Pwyllgor fod statws diffyg cydymffurfio yr Awdurdod i'w briodoli i'r strwythurau llywodraethu gwahanol ledled y DU nad ystyriwyd eu bod yn destun pryder i'r Awdurdod gan fod strwythur presennol y Pwyllgor Pensiwn yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2022-23.

5.2

ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL Y CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad Archwilio Cymru ar yr archwiliad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried.  Roedd yr adroddiad yn ystyried a oedd y datganiad ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31 Mawrth 2023 a'r incwm a'r gwariant yn ystod y flwyddyn honno.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, tynnodd Mr J Blewitt, Cynrychiolydd Archwilio Cymru, sylw'r Pwyllgor at baragraff 7 o'r adroddiad gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith archwilio rhagorol a oedd wedi ei gwblhau ers dosbarthu'r ddogfen.

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon a fyddai'n cael ei chyhoeddi ar ôl i'r Llythyr Sylwadau ddod i law.  Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2022-23.

5.3

LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I ARCHWILIO CYMRU CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru a oedd wedi'i baratoi gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â gofynion y Datganiad ar Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr).

 

Roedd angen cydnabyddiaeth ffurfiol y Pwyllgor o ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Archwilio Cymru hefyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gydnabod.

5.4

YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SYDD YN GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ymatebion yr Awdurdod i Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu a effeithiodd ar yr archwiliad o ddatganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn.   Roedd yr ystyriaethau hynny yn berthnasol i reolwyr Cronfa Bensiwn Dyfed a'r 'rheiny sy'n gyfrifol am lywodraethu', sef y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Archwilio Cymru o Gronfa Bensiwn Dyfed a'i phrosesau busnes i'w gynorthwyo i roi barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2022-23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed gan reolwyr a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

6.

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2023/24 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2023/24.  Adolygodd y Pwyllgor y cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r rhaglen archwilio a oedd yn dangos cyfradd gwblhau o 39% hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad o Gynllun Archwilio Mewnol 2023/24.

7.

COFRESTR RISG CORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu. Rhoddodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol grynodeb o'r 8 risg a oedd wedi'u dileu a'r 2 risg a oedd wedi'u hychwanegu at y gofrestr; ychwanegodd fod gwaith yn cael ei wneud i wella hyn ymhellach.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

Croesawodd yr Aelodau y gwelliannau a wnaed i symleiddio prosesau a oedd yn darparu cofrestr risg glir, â ffocws gwell ac addysgiadol i'w hadolygu gan y Pwyllgor.

 

Gwnaed ymholiad ynghylch y sgôr risg sy'n gymwys ar gyfer safleoedd y mae'r Awdurdod yn gyfrifol amdanynt ar gyfer adeiladau rhestredig neu henebion cofrestredig. Eglurwyd bod y wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i chynnwys yn y gofrestr risg adrannol ac y byddai'n cael ei rhannu â'r Pwyllgor drwy e-bost.

  

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

dderbyn Cofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin 2023/24.

 

7.2

Caiff gwybodaeth ei rhannu â'r Pwyllgor sy'n ymwneud â'r sgôr risg sy'n berthnasol ar gyfer safleoedd y mae'r Awdurdod yn gyfrifol amdanynt ar gyfer adeiladau rhestredig neu henebion hynafol.

 

8.

COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO:- pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.1

COFNODIION Y PANEL GRANTIAU 28 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth ystyried amseroldeb cofnodion y Panel Grantiau, cydnabuwyd bod y cofnodion wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor at ddibenion gwybodaeth ar ôl i'r Panel gymeradwyo; felly, roedd yr aelodau yn fodlon parhau fel hyn.

 

Cyfeiriwyd at gofnod 3.0 lle cadarnhaodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod yr archwiliad o ffurflenni Budd-dal Tai ar gyfer 2021/22 wedi'i gwblhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023.

8.2

COFNODION Y GRWP LLYWIO RHEOLI RISG pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch y lefel uchel o ymddiheuriadau a gyflwynwyd ar gyfer y cyfarfod, cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau cynrychiolaeth adrannol ym mhob cyfarfod a drefnwyd i aelodau'r Gr?p Llywio Rheoli Risg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 10 Awst 2023.

9.

LOG GWEITHREDU'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd yn manylu ar y camau i'w monitro/rhoi ar waith yn dilyn cyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR 29 MEDI 2023 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Medi 2023 yn gywir yn amodol ar ddiwygiadau gramadegol i gofnod 7, Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2022/2023 Cyngor Sir Caerfyrddin a chofnod 8, Rheolau Gweithdrefn Contract Diwygiedig.