Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.
James, J. Prosser a G. Thomas.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
C.
Jones
|
4 – Cais Cynllunio W/38027 –
Newid defnydd yr ysgubor bresennol yn llety gwyliau, Parcnwc, Heol
yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA
|
Cyfaill
i un o'r ymgeiswyr.
|
D.
Phillips
|
5 - Cais cynllunio S/37933 - Estyniad
unllawr yng nghefn yr eiddo gyda balconi ar y llawr cyntaf, 105
Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF
|
Mae'n
adnabod yr ymgeisydd.
|
|
3. |
E/34791 - BYDD Y DATBLYGIAD TYRBINAU GWYNT ARFAETHEDIG YM MRYN BUGAIL YN CYNNWYS TYRBIN GWYNT SENGL, A FYDD YN GALLU CYNHYRCHU HYD AT 100KW GYDA'R TYRBIN YN MESUR 37 METR HYD AT UCHDER Y BOTH, GYDA DIAMEDR ROTOR O 24 METR, GAN GREU UCHDER LLAFN CYFFREDINOL O HYD AT 49 METR. BYDDAI'R TYRBIN GWYNT WEDI'I LEOLI MEWN CAE SYDD AR HYN O BRYD YN CAEL EI DEFNYDDIO AR GYFER PORI A GALL Y DEFNYDD HWN BARHAU GYDA'R TYRBIN GWYNT YN BRESENNOL AR DIR YM MRYN BUGAIL, CAERFYRDDIN, SA32 7JX. PDF 203 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y
Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod
3.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 18 Hydref 2018) a drefnwyd er
mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at
adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi
arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad
arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a
gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn
berthnasol wrth asesu'r cais.
Cafwyd
sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r
gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth
Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd bod y cais yn mynd yn groes
i sawl polisi cynllunio, bod nifer gormodol o dyrbinau gwynt yn y
cyffiniau, yr effaith niweidiol ar y dirwedd, yr effaith sylweddol
ar yr olygfa, bywyd gwyllt ac ecoleg a'r niwed o ran cysgodion
symudol ar yr hawl dramwy gyhoeddus.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd i'r materion a
godwyd.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio
E/34791 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn
adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio.
|
4. |
W/36131 - NEWID DEFNYDD RHANNOL ARFAETHEDIG I ARDAL FACH MEWN FFATRI/GWEITHDY FFRÂM BREN I'W DEFNYDDIO FEL GOFOD CAMPFA FFITRWYDD A CHWILBEDLO (I'W OSOD). NEWID DEFNYDD RHAN O'R CAE CYFAGOS I FOD YN FAES PARCIO PWRPASOL AR GYFER Y DEFNYDD CAMPFA A CHWILBEDLO ARFAETHEDIG YN Y GWEITHDY, BWLCH Y DOMEN ISAF, PANT Y BWLCH, CASTELLNEWYDD EMLYN, SA38 9JF. PDF 109 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y
Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod
5 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 18 Hydref 2018) a drefnwyd er
mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at
adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi
arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad
arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a
gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn
berthnasol wrth asesu'r cais.
Cafwyd
sylw oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r
gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth
Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd bod y cais yn mynd yn groes
i brif nodau Polisi TR2 y Cynllun Datblygu Lleol, bod y safle mewn
lleoliad anghynaliadwy, y bydd yn cynyddu llygredd s?n a golau ac y
bydd y maes parcio arfaethedig yn achosi d?r ffo arwyneb i'r tyddyn
cyfagos.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio
W/36131 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y
barnwyd ei fod yn defnyddio cyfleuster amaethyddol presennol a'i
fod yn unol â Pholisïau GP1, TR2 a TR3, yn amodol ar yr
amodau i'w drafftio gan y Pennaeth Cynllunio.
|
5. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:
S/36465
|
Y cynnig yw darparu 34 o dai fforddiadwy newydd ar y
tir agored presennol ger Ystad Dai Dylan. Ynghyd â gwaith lliniaru ecolegol
cysylltiedig i gynnwys nodwedd pwll gwlyptir newydd. Bydd 28 o dai dwy ystafell wely i bedwar o bobl a
6 o dai pedair ystafell wely i saith o bobl, tir ger Ystad Dai
Dylan, Llanelli, SA14 9AN
Cafwyd sylw yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld
â'r safle am resymau yn ymwneud â phriffyrdd ac edrych
dros eiddo. Gwrthodwyd y
cais. Parhaodd y sylw a oedd yn
gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, gan ailbwysleisio’r
pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth
Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-
- mae'r dyluniad yn gwahaniaethu yn erbyn yr
henoed a phobl fregus;
- mae'r tai hyn yn debyg i'r 450 o dai sydd
eisoes yn y ward;
- dim ond 4% o stoc tai'r Cyngor sy'n
fyngalos;
- mae 122 cais am fyngalos yn yr ardal o
hyd;
- achos difrifol o edrych dros
eiddo;
- mae dau dro dwbl a chyffordd-T yn agos at y
fynedfa;
- mae angen mwy o fyngalos er mwyn rhyddhau
tai 2 a 3 ystafell wely ar gyfer teuluoedd ifanc;
- gorlenwi na ellir ei gyfiawnhau;
- yn groes i bolisïau cynllunio gan
gynnwys H1.
Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol
(Cydgysylltu Cynllunio) a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r
materion a godwyd.
|
S/37971
|
Adnewyddu, addasu a newid defnydd y swyddfeydd
presennol i ddarparu wyth fflat breswyl i gynnwys cymysgedd o
fflatiau Cymdeithas Tai newydd, sef un ystafell wely, dwy ystafell
wely a stiwdio, WRW Construction Limited, 3-5 Heol Goring,
Llanelli, SA15 3HF
|
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
ymweld â'r safle:-
S/37933
|
Estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo gyda balconi ar
y llawr cyntaf, 105 Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF
[Noder: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach,
gadawodd y Cynghorydd D. Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor
ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Cafwyd sylw yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld
â'r safle ar y sail y bydd y cynnig yn edrych dros yr eiddo
cyfagos a niweidio preifatrwydd.
RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil
pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl ar breifatrwydd yr
eiddo cyfagos.
|
|
6. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
6.1 PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:
W/37655
|
Newid defnydd tir fferm yn ddwy lain i
deithwyr-sipsiwn (gydag ystafelloedd dydd), tir sydd i'r de o
Brynhowell, Llanddowror, SA33 4HN
|
W/37690
|
Gwella'r fynedfa bresennol i'r coetir i
ganiatáu i goed gael eu symud, y fynedfa i Goedwig Fasnachol
Allt Werncorgam, i'r gorllewin o Lanllwch, Caerfyrddin, SA31
3QY
Cafwyd sylw a oedd yn mynegi pryderon
ynghylch y cynllun rheoli traffig.
Ymatebodd yr ymgeisydd i'r materion a
godwyd.
Cafwyd sylw arall a oedd yn mynegi pryder
ynghylch pa mor serth oedd rhan o'r llwybr arfaethedig ac effaith
gronnol ceisiadau cynllunio ar draffig yn yr ardal.
|
W/37831
|
Gwydr o'r golwg ar ochrau'r tai yn lleiniau
4 a 5. Newid arddull dormer Llain 4 a
5, Cae Coch, tir ger Heol Cwm Mawr, Drefach,
Llanelli
|
W/38027
|
Newid defnydd yr ysgubor bresennol yn llety gwyliau,
Parcnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33
5HA
[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan
buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd C.
Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a
phenderfynu arno]
|
W/35898
|
Adeiladu
gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors, cae ger Hafod
Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27
Tachwedd, penderfynodd yr Aelodau wrthdroi argymhelliad y Swyddog i
wrthod caniatâd cynllunio a'i gymeradwyo ar gyfer y
datblygiad arfaethedig, gyda rhestr o amodau priodol i'w dychwelyd
i'r Pwyllgor i'w cadarnhau.
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr amodau yn yr adroddiad.
|
6.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
fod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais canlynol i ryddhau'r Cytundeb
Adran 106, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ar y sail
nad oes diben defnyddiol i'r adeilad bellach a'i bod yn rhesymol
rhyddhau'r cytundeb ar ôl 19 o flynyddoedd.
W/37164
|
Rhyddhau Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gais
cynllunio W/02153, lle y byddai defnydd preswyl y ffermdy presennol
yn dod i ben ac i'r t? gael ei ddefnyddio at ddibenion storio
amaethyddol yn lle hynny, Fferm Cystanog, Heol Capel Dewi,
Llangynnwr, Caerfyrddin, SA32 8AY
Roedd y Pwyllgor am gymeradwyo rhyddhau'r
Cytundeb Adran 106 yn amodol ar gyflwyno cais ffafriol i adfer yr
hen breswylfa ac yn amodol ar weithredu'n unol â chyfyngiad o
ran anghenion lleol a thai fforddiadwy.
|
6.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r amodau a
ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u manylwyd yn yr
adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol, y
rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio iddo, yn
groes i argymhelliad y swyddog ar 27 Tachwedd, 2018:-
W/35898
|
Adeiladu
gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors, cae ger Hafod
Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin
|
6.4 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio
ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio
ymweld â'r safle:-
W/37267
|
Adeiladu 2 breswylfa tair ystafell wely (1
fforddiadwy, 1 ar y farchnad agored), tir ger Llys Briallu, Sarnau,
Bancyfelin, SA33 5EA
RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle a'r
mynediad.
|
|
7. |
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15FED TACHWEDD 2018. PDF 164 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 yn
gywir.
|