Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorydd P. Edwards wedi datgan buddiant yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle a'r mynediad iddo. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Yr oedd sylwadau wedi dod i law a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ail-bwysleisio’r gwrthwynebiadau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif bryderon oedd colli llecynnau glas, parcio/mynediad annigonol, s?n, llygredd golau, yr effaith ar fusnesau cyfagos ac ar draffig, yn enwedig o ystyried y cynnydd posibl mewn traffig pan fydd canolfan newydd S4C yn agor, yn ogystal â'r defnydd a wneir o hen Gartref Tawelan pan ddeuir i benderfyniad yn ei gylch.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd, y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd. PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio W/35730, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod pryderon ynghylch Polisïau GP1, GP4, SP14 ac RT8, a Nodyn Cyngor Technegol 20.
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
6.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
6.3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod pryderon ynghylch Polisïau GP3 ac SP16:-
|