Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd E.G. Thomas, a oedd yn cynrychioli'r Pwyllgor mewn cynhadledd, a Mrs G. Cornock Evans (Rhiant-lywodraethwr).
Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth drasig Bradley John ac estynnodd, ar ran y Pwyllgor, ei gydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Bradley ac â staff a disgyblion Ysgol Sant Ioan Llwyd. Diolchwyd hefyd i staff yr Adran Addysg am eu cymorth i bawb ar yr adeg anodd hon.
|
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 1 - 1AF EBRILL HYD 30AIN MEHEFIN 2O18. PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2018 (Chwarter 1), a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-23 i ddarparu'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin, 2018.
Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder o ran y 27 mesur a nodwyd yn yr adroddiad, gan nad yw 20 ohonynt ar waith neu nad yw data'n cael ei gasglu ar gyfer chwarter 1 na chwarter 2. O ran y 67 o gamau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r targed yn ôl yr adroddiad, nodwyd nad yw dyddiadau'r targed yn dechrau tan 2019/20. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y term 'yn unol â'r targed' yn un hanesyddol a'r hyn sy'n cael ei ddweud yw nad yw'r swyddogion yn rhagweld y bydd unrhyw heriau o ran cyrraedd y targedau mewn perthynas â pherfformiad yn Chwarter 1; · Mynegwyd pryder ynghylch fformat yr adroddiad oherwydd ceir thema 11 a 13 rhwng thema 1 a 2. Cytunodd y swyddogion i ystyried y fformat wrth lunio adroddiadau yn y dyfodol; · O ran y ganran o blant sydd wedi'u hailgofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, gofynnwyd i'r swyddogion sut y mae'r targed yn cael ei bennu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai targed cenedlaethol yw hwn ac fe'i defnyddir fel cymharydd rhwng Awdurdodau Cymru; · O ran yr ymgyrch i ddatblygu'r Gymraeg ym mhob un o'n gwasanaethau addysg, gofynnwyd i'r swyddogion am y sesiynau gweithdy ac a yw rhieni a phlant unigol yn cael eu targedu. Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant mai nod y gweithdai oedd rhannu'r weledigaeth yn ddarnau. Yn anffodus, ni ddaeth llawer o bobl a'r gobaith oedd cynnal y gweithdy eto yng nghyfarfod nesaf y Penaethiaid Cynradd ac Uwchradd. Ychwanegodd, o ran cynnwys rhieni, ei fod yn siarad â rhieni gyda'r Rheolwr Datblygu'r Gymraeg o'r Awdurdod. · Gofynnir i ysgolion annog rhieni i ddewis addysg ddwyieithog ar gyfer eu plant a gofynnwyd i'r swyddogion am yr hyn sy'n cael ei wneud o ran argyhoeddi'r rhieni hynny sydd wedi penderfynu yn erbyn addysg ddwyieithog. Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y ceir yr holl wybodaeth angenrheidiol ym mhrosbectws yr ysgol a'r llyfryn Gwybodaeth i Rieni sy'n cael ei anfon at rieni pob plentyn sydd ar fin dechrau'r ysgol; · Cyfeiriwyd at y pryderon blaenorol a godwyd gan y Pwyllgor ynghylch Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol a chwmnïau preifat sy'n gwneud elw o addysg a gofynnwyd i'r swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg wrth y Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol eraill hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd. Mae swyddogion yn aros am gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, ac ar ôl hyn bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'w gyflwyno i'r Pwyllgor; · Mewn perthynas â phrosiectau moderneiddio arfaethedig yn Ysgol Rhys Prichard, gofynnwyd i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar ddata ynghylch perfformiad Ysgolion Sir Gaerfyrddin. Nododd y Pwyllgor fod y data a ddarparwyd mewn perthynas â CA4/5 yn parhau i fod yn amodol ar yr adeg hon.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Dywedwyd y dylai cynnydd fod yn gyson o flwyddyn i flwyddyn a gofynnwyd i'r swyddogion pam nad yw hyn wedi digwydd a pham nad ydym yn gweld cynnydd mewn perthynas ag absenoldeb staff. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor mai'r gobaith yw y bydd y cynllun peilot athrawon cyflenwi yn ardal Llanelli yn rhoi canlyniadau cadarnhaol o ran hynny. Esboniodd y Prif Ymgynghorydd Her fod yna Swyddogion Cymorth mewn ysgolion i helpu i leihau lefelau straen. Mae Ymgynghorwyr Her yn canolbwyntio ar anghenion penodol yr ysgol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL. PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer 2017/18 a luniwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac a oedd yn rhoi manylion am waith a pherfformiad pum rhanbarth y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y cynnydd yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth a gofynnwyd i'r swyddogion pam mae hyn wedi digwydd. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth y gallai'r cynnydd fod yn gysylltiedig ag ymwybyddiaeth well oherwydd bod rhagor o wybodaeth ar gael yn ogystal â mentrau i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael; · O ran y cyllid ychwanegol a ddyrannir i sefydliadau gwirfoddol gan Lywodraeth Cymru, gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai dyrannu'r arian i'r Rhanbarth wedi bod yn well. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth, er y byddai'r Rhanbarth wedi croesawu'r cyllid, fod yna swm cyfyngedig o arian ar gael ac mai'r farn oedd y byddai'n well datblygu pethau'n genedlaethol er mwyn i bawb elwa. · Gofynnwyd i'r swyddogion pa mor drylwyr yw'r broses o sicrhau bod plant yn cael eu mabwysiadu gan y bobl iawn. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth fod adolygiadau'n cael eu cynnal yn rheolaidd rhwng dechrau a diwedd y broses fabwysiadu ffurfiol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||
FFORMIWLA ARIANNU AR GYFER YSGOLION. PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y trefniadau presennol ar gyfer cyllido'n hysgolion yn unol ag arferion a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer darpariaeth cyn-16 mewn ysgolion a gynhelir yn dod o gyllideb llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, drwy'r Grant Cynnal Refeniw. Mae ysgolion hefyd yn derbyn grantiau penodol, yn bennaf gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Grant Cynnal Refeniw yn cael ei ddyrannu i Awdurdodau Lleol er mwyn iddynt ddarparu'r gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt, drwy ddefnyddio fformiwla gytunedig. Mae prif ffynonellau cyllid eraill ar gyfer cyllidebau Awdurdodau Lleol yn cynnwys y dreth gyngor, incwm o ardrethi annomestig a grantiau penodol.
Mae'r swm y mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn ei gael drwy'r Grant Cynnal Refeniw yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn yn y Setliad Llywodraeth Leol. Mae'r cyllid hwn heb ei neilltuo, felly ni phennir y swm o arian o'r Grant Cynnal Refeniw y dylai Awdurdodau Lleol ei ddefnyddio i ddarparu eu gwasanaethau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys Asesiad Dangosyddion ar gyfer pob maes gwasanaeth yn y setliad. Mae hwn yn gyfrifiad cenedlaethol o'r arian y mae angen i bob Cyngor ei wario i ddarparu'r gwasanaeth sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad targedau gwariant yw'r Asesiad Dangosyddion, a phenderfyniad pob Awdurdod Lleol yw pennu ei flaenoriaethau o ran gwario o'i ddyraniad cyllid cyffredinol a'r hyn y gall godi o'r dreth gyngor.
Ar ôl cael eu dyraniadau setlo gan Lywodraeth Cymru, bydd Awdurdodau Lleol yn pennu cyllidebau ar gyfer y meysydd gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys addysg, yn ôl anghenion a blaenoriaethau lleol.
Mae'r Gyllideb Ysgolion yn cynnwys gwariant sydd â'r nod uniongyrchol o gefnogi ysgolion. Mae'n cynnwys gwariant ar wasanaethau y mae'n bosibl bod yr Awdurdod Lleol yn cadw cyllideb yn ganolog ar eu cyfer, megis cyllid ADY arall, prydau ysgol a llaeth.
Caiff swm y gwariant a gedwir yn ganolog ei ddiddymu o'r Gyllideb Ysgolion ac mae'r gweddill yn mynd tuag at y Cyllidebau Ysgolion Unigol h.y. cyllid a ddyrannir i ysgolion.
PENDERFYNWYD
7.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
7.2 trefnu i gynnal sesiwn weithdy ar gyfer aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, ynghylch Cyllid Fformiwla i Ysgolion a'r cyllid £0.5 miliwn ar gyfer y Gronfa Datblygu Ysgolion
|
||||||||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. PDF 65 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiad canlynol:-
- cyllid £0.5m ar gyfer y Gronfa Datblygu Ysgolion
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.
|
||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26 Tachwedd 2018.
|
||||||||||||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- |
||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||||||||
5ED GORFFENNAF, 2018. PDF 325 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018 gan eu bod yn gywir.
|