Lleoliad: Y Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: · Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T.Bowen a H.I. Jones.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at salwch diweddar y Cynghorydd H.I. Jones gan ddymuno y byddai'n gwella'n fuan.
· Croesawyd y Cynghorydd D.B. Davies gan y Cadeirydd i'w gyfarfod cyntaf ers cael ei benodi gan y Cyngor i'r Pwyllgor Trwyddedu yn ei gyfarfod ar 12fed Hydref. Nodwyd bod y Cynghorydd Davies yn mynychu'r cyfarfod fel sylwedydd hyd nes y câi'r hyfforddiant priodol, fel oedd yn ofynnol o dan Reolau Gweithdrefn Corfforaethol y Cyngor. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
MR ERNEST TUDOR DAVIES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 131 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Ernest Tudor Davies o 62 Gors Fach, Pwll-trap, Sanclêr, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais a hefyd rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am gynnwys llythyr cefnogaeth gan bartner Mr Davies.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Davies yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Ernest Tudor Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu, ond peidio â rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|||||||
Cofnodion: Yn unol â Chofnod 4 o'i gyfarfod ar 8fed Medi, 2016, bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Wayne Smith Russell o 29 Pentre Doc y Gogledd, Llanelli, am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gohebiaeth wedi dod i law gan Mr Russell y diwrnod cynt yn hysbysu nad oedd yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu y diwrnod hwnnw, o achos amgylchiadau teuluol. Roedd Mr Russell hefyd wedi ymddiheuro i'r Cyngor yn yr ohebiaeth honno am beidio â rhoi gwybod iddo am ei gollfarnau moduro, fel oedd yn ofynnol o dan amodau ei drwydded.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Russell yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU
|
|||||||
MR DAVID WILLIAM DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 129 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr David William Davies o 4 Lôn Morfa, Caerfyrddin, a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn cael ei roi i Mr Davies.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â darpariaethau Adran 61(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, ganiatáu cais Mr David William Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a bod rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn cael ei roi iddo. |
|||||||
MR NEIL ASHLEY PALMER - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 131 KB Cofnodion: (Noder: Gadawodd y Cynghorydd J.S. Williams, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Neil Ashley Palmer o 46 Ffordd Aneurin, Pontyberem, Llanelli, am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Palmer ynghylch ei gais.
Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, er ei fod o'r farn y dylid caniatáu cais Mr Palmer, roedd hefyd o'r farn y dylid atal y caniatâd am gyfnod o 7 diwrnod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Neil Ashley Palmer am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu, ond hefyd fod ei drwydded yn cael ei hatal am bedair awr ar hugain.
Y Rhesymau Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor hefyd o'r farn fod angen atal y drwydded am gyfnod byr yn yr achos hwn, a bod hynny'n rhesymol, er mwyn atgoffa'r ymgeisydd o'i rwymedigaethau. Roedd y Cyngor o'r farn y byddai'r cyfnod atal o 7 diwrnod a argymhellwyd yn anghymesur. |
|||||||
MR DAVID KEITH MAYNARD - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 131 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr David Keith Maynard o 2 Pontgoch, Bancyfelin, Caerfyrddin, a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Maynard ynghylch y mater hwnnw. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am gynnwys y ddau lythyr gan yr achwynydd yn y mater, ynghyd ag ymateb ysgrifenedig Mr Maynard.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Trwydded Mr Maynard yn cael ei hatal am gyfnod o saith diwrnod.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD gohirio rhoi ystyriaeth i'r g?yn yn erbyn Mr Maynard tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor er mwyn i swyddogion gynnal ymchwiliadau pellach ac er mwyn rhoi cyfle i'r achwynydd annerch y Pwyllgor ynghylch y g?yn.
|
|||||||
MR REGINALD JOHN DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 131 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr Reginald John Davies o Llwyncelyn Cottage, Waun Dyrfal, Llangadog a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies yngylch y mater hwnnw. Hefyd cyflwynwyd tystiolaeth fideo i'r Pwyllgor ynghylch y g?yn yn erbyn Mr Davies, ynghyd â geirda a oedd yn tystio i'w gymeriad gan y Cynghorydd Sir A. James.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Trwydded Mr Davies yn cael ei dirymu.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â darpariaethau Adran 61(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 fod rhybudd terfynol yn cael ei roi i Mr Reginald John Davies ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Y Rhesymau: Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn derbyn bod gwahanol ystyron i'r gair “reidad” a bod Mr Davies wedi ei olygu fel bygythiad i godi tâl gormodol ar yr achwynydd pe bai byth yn defnyddio tacsi Mr Davies. Fodd bynnag, roedd yn ddealladwy fod yr achwynydd wedi dehongli'r gair fel bygythiad o drais. O ystyried yr hyn roedd Mr Davies yn ei olygu gan y geiriau a ddefnyddiwyd a'i ymddygiad rhagorol fel gyrrwr trwyddedig dros 39 o flynyddoedd, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd achos rhesymol dros atal neu ddirymu ei drwydded. Fodd bynnag, byddai rhybudd terfynol yn briodol o dan yr amgylchiadau gan fod ymddygiad o'r fath tuag at was cyhoeddus yn annerbyniol
|
|||||||
PENODI AELOD I EISTEDD AR IS BWYLLGOR TRWYDDEDU B Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn penderfyniad y Cyngor yn ei gyfarfod ar 12fed Hydref 2016 i benodi'r Cynghorydd D.B. Davies fel aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu, y byddai angen bellach i'r Pwyllgor benodi aelod i lenwi'r lle gwag ar Is-bwyllgor Trwyddedu B.
PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd D.B. Davies i wasanaethu ar Is-bwyllgor Trwyddedu B.
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'C' ar 31ain Awst, 2016, yn gywir, yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd K. Howell wedi cyflwyno ymddiheuriad. |
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu ar 8fed Medi, 2016, yn gywir. |