Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 22ain Mehefin, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, R. Llewellyn a J.S. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS JOSEPHINE MARY IBLE pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Dywedwyd bod cais wedi dod i law gan Mrs Josephine Mary Ible, Geulanfelen, Pentre-cwrt, Llandysul, am adnewyddu ei thrwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Ible yn 70 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn un ar hugain oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo/iddi beidio â bod yn h?n na saith deg oed”.

 

Roedd Mrs Ible, nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod, wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei bod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Yna bu i'r Pwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYFOL, yn absenoldeb Mrs Ible, fod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i benderfynu ynghylch y cais o dan yr awdurdod dirprwyedig y cyfeirir ato yng nghofnod 9 isod.

 

4.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS JANINE ORAM pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mrs Janine Oram, Kennel Cottage, Kings Lodge, Llandeilo am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Oram ynghylch ei chais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mrs Oram yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna bu i'r Pwyllgor

 

BENDERFYNU’N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mrs Janine Oram am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

5.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR LEE JENKINS pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Lee Jenkins o 89 Stryd Iago, Llanelli, am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jenkins ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr. Jenkins yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna bu i'r Pwyllgor

 

BENDERFYNU’N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Lee Jenkins am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DEREK BURT pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Derek Burt, 14 Hengall Uchaf, Ceinewydd, Ceredigion am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Burt ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Burt yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Derek Burt am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

7.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DANIEL DAVID RICHARDS pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Daniel David Richards o Swn-y-Coed, 3 Llanmiloe Bach, Llanmilo, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Richards ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Richards yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna bu i'r Pwyllgor

 

BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Daniel David Richards am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rhesymau

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR PETER TERENCE MCSWEENEY pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr Peter Terence McSweeney, Morfa House, Blaenffos, Boncath a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr McSweeney ynghylch y mater hwnnw a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu. Hefyd cafodd y Pwyllgor eirda gan gyflogwr presennol Mr McSweeney.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr McSweeney yn cael ei ddirymu.

 

Yna bu i'r Pwyllgor:

 

BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â darpariaethau Adran 61(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Peter Terence McSweeney ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat hacnai yn cael ei hatal am 14 diwrnod.

 

Y Rhesymau:

Roedd y Pwyllgor yn fodlon, yn sgil ystyried natur y materion a oedd wedi'u datgelu, fod atal y drwydded yn ymateb cymesur i'r materion hynny.

 

 

9.

DIRPRWYO AWDURDOD I SWYDDOGION pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 6 o'r cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 19eg Mai 2016 bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn ceisio dirprwyo awdurdod i swyddogion brosesu ceisiadau gan bobl dros 70 oed a cheisiadau am eithrio pobl o Amod 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod awdurdod dirprwyedig yn cael ei ganiatáu i swyddogion roi'r trwyddedau canlynol:-

 

·        Yn achos ymgeiswyr dros 70 oed sydd wedi darparu Tystysgrif Feddygol yn cadarnhau eu bod yn iach i yrru cerbyd hacnai/cerbyd hurio preifat;

 

·        Yn achos ymgeiswyr sydd wedi llunio achos busnes yn flaenorol ac wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i ofyn am gael eu heithrio o Amod 5a a 5b o  Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat.

 

10.

AELODAETH YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2016/17 pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai fanylion aelodaeth arfaethedig yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLy byddai aelodaeth yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17 fel a ganlyn:-

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

Y Cynghorwyr P.M. Edwards, H.I. Jones, J. Thomas, M.K. Thomas a D.E. Williams.

Is-bwyllgor Trwyddedu ‘B”

Y Cynghorydd A. Davies, T. Bowen, P.E.M. Jones, T. Theophilus a J.S. Williams.

Is-bwyllgor Trwyddedu "C”

Y Cynghorwyr J.M. Charles, T. Davies, J.K. Howell, I.J. Jackson a D.J.R. Llewellyn.

 

11.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AR GYFER Y FLWYDDYN DDINESIG 2016/17

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau a oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

Bod y Cynghorydd H.I. Jones yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu “A” am flwyddyn y cyngor 2016/17;

Bod y Cynghorydd A. Davies yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu “B” am flwyddyn y cyngor 2016/17;

Bod y Cynghorydd T. Davies yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "C" am flwyddyn y cyngor  2016/17.

 

 

12.

COFNODION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu oedd wedi eu cynnal ar y dyddiadau canlynol gan eu bod yn gywir:-

12.1 Is-bwyllgor Trwyddedu "A" oedd wedi'i gynnal ar 26ain Ebrill, 2016;

12.2 Is-bwyllgor Trwyddedu "B” oedd wedi'i gynnal ar 5ed Mai, 2016;

12.3 Is-bwyllgor Trwyddedu "C" oedd wedi'i gynnal ar 5ed Ebrill 2016.

 

13.

COFNODION pdf eicon PDF 411 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a oedd wedi’i gynnal ar 19eg Mai 2016 yn gofnod cywir.