Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 3ydd Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, 3 Heol Spilman

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, W.G. Thomas a D.C. Evans.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau am chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

The Chair advised that no public questions had been received.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 42 KB

Cofnodion:

Ar ôl i gwestiwn gael ei godi yngl?n â chais y Pwyllgor am seminar ar Ddynladdiad Corfforaethol, dywedodd y Cadeirydd y byddai’r seminar, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd Gweithredol, yn cael ei ddarparu i holl aelodau’r Cyngor a’i fod ers hynny wedi cael ei gynnwys yn Rhaglen Sefydlu’r cyfnod ar ôl etholiadau mis Mai 2017.

 

6.

GORFODI MATERION AMGYLCHEDDOL DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y Diweddariad Materion Amgylcheddol a roddai ddiweddariad ar faterion gorfodi yn cynnwys Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, Rhybuddion Diogelu Cymunedol, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a materion gorfodi eraill.

 

Nododd y Pwyllgor fod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi cyflwyno sawl arf a ph?er newydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol a phartneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardaloedd lleol. Roedd hyn yn cynnwys y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a ddaeth i rym ar y 1af Medi 2015 gan roi’r awdurdod i gynghorau i ddrafftio a gweithredu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn ymateb i’r materion penodol sy’n effeithio ar eu cymunedau, cyhyd â bod rhai meini prawf yn cael eu bodloni. Roedd hyn yn cynnwys y p?er i roi tocynnau cosb benodedig i bobl sy’n gadael i’w c?n faeddu mewn unrhyw le yn Sir Gâr y mae gan y cyhoedd fynediad iddo. Roedd hefyd yn cynnwys pwerau eraill fel gofyn i bobl roi eu ci ar dennyn a gwahardd c?n o fannau chwarae amgaeedig i blant.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiynau yngl?n â thipio anghyfreithlon cyson mewn rhai ardaloedd gwledig, dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod cael tystion sy’n barod i ddod i’r llys yn her. Fodd bynnag, pe bai teledu cylch cyfyng ar gael, byddai’n llai anodd cael y dystiolaeth..

 

Gofynnwyd a oedd Swyddogion Gorfodi yn cael mynd at bobl sy’n cerdded c?n i ofyn a ydynt yn cario bag gwastraff ci. Er ei bod yn drosedd peidio â chario bag gwastraff ci wrth gerdded ci yn ardaloedd rhai awdurdodau leol, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod sialensiau cyfreithlon yngl?n â hyn ac na fyddai Sir Gâr yn mabwysiadu’r drefn hon ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod wyth Swyddog Gorfodi wedi cael hyfforddiant ar hyn o bryd i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill. Caiff y gwaith hwn ei gynorthwyo gan wybodaeth swyddogion a gwybodaeth sy’n dod i law oddi wrth Gynghorwyr a’r cyhoedd.

 

Tra oeddid yn cydnabod bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng yn sylweddol mewn rhai ardaloedd gwledig, mynegwyd pryderon yngl?n â’r trefniadau gwaith newydd oherwydd y teimlad fod y trefniadau blaenorol wedi bod yn gweithio’n effeithiol. Pe bai’r adolygiad yn dangos nad yw’r trefniadau newydd yn gweithio mor effeithiol ag y bwriadwyd, dywedwyd y byddai’r Aelodau’n hapus i’r trefniadau blaenorol gael eu hail sefydlu. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod barn Cynghorwyr yn bwysig ac y byddai’n rhan allweddol o’r adolygiad.

 

Yn dilyn cwestiwn, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol y byddai’n ofynnol yn ôl y trefniadau gwaith newydd fod dau Swyddog Gorfodi yn gweithredu’n strategol ym mhob cornel o’r Sir.

 

Gofynnwyd beth oedd yn cael ei wneud i rwystro pobl rhag gadael i’w c?n grwydro’n rhydd heb dennyn ar gaeau chwarae ysgolion, gan fod hyn yn achosi problemau mewn llawer o ardaloedd. Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGU'R PROSIECT NEWID I OLEUADAU LED pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar yr adolygiad o’r Prosiect Newid i Oleuadau LED a roddai ddiweddariad i’r Aelodau ar y cynnydd hyd yma. Nodwyd bod yr Awdurdod wedi parhau i weithredu rhaglen i droi lanternau sodiwm yn rhai LED, fel a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 27ain Gorffennaf 2015. Datblygwyd y rhaglen er mwyn gwireddu arbedion effeithlonrwydd wedi’u targedu o £627k. Hefyd, nodai’r adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol y ceid £401k o arbedion refeniw drwy newid i LED ac y gwireddid £227k arall drwy gostau cynnal a chadw, llafur ac offer is.

 

Sicrhawyd yr arian ar gyfer y rhaglen drwy Fenthyciad Buddsoddi i Arbed £1.4m gyda’r gweddill yn dod o arian wrth gefn. Nododd y Pwyllgor fod y rhaglen wedi’i threfnu’n dair rhan, a manylwyd ar bob cam yn yr adroddiad ynghyd â’r cynnydd ar bob cam. Dangosai’r diweddariad cynnydd fod arbedion o £309k wedi’u gwireddu drwy newidiadau gweithredol ym meysydd cynnal a chadw, cerbydau, ynni a llafur, gydag arbedion llawn o £454k wedi’u gwireddu erbyn diwedd Cam 1.

 

Nododd Aelodau’r Pwyllgor fod yr Awdurdod, o safbwynt buddsoddi cyfalaf, wedi tynnu i lawr £950k o fenthyciad buddsoddi i arbed £1.4m a bod cynlluniau i dynnu gwerth llawn y benthyciad i lawr erbyn diwedd Cam 3. Dywedwyd bod y prosiect wedi llwyddo hyd yma i wireddu’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd a, gan fod y rhaglen yn agored i risg yn arbennig o safbwynt costau ynni, byddid yn cynnal adolygiad pellach pan fyddai Cam 2 bron â chael ei gwblhau.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod rhaid tendro am gyflenwr allanol i ymgymryd â’r gwaith er mwyn cynhyrchu arbedion yn unol â’r rhaglen.

 

Gofynnwyd a oedd modd cadw unrhyw elfen o’r arbedion yn yr Adran. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw arian ychwanegol wedi’i wireddu eto, bod yr arbedion yn unol â gofynion y gyllideb a bod hyn yn enghraifft o sut y gellir cyflenwi gwasanaethau mewn ffordd wahanol heb dorri ar y gwasanaeth rheng flaen.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Flaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin. Nodai’r adroddiad fod rhaid i bob corff cyhoeddus, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, geisio cynnal a chynyddu bioamrywiaeth wrth weithredu’u swyddogaethau’n briodol a, thrwy wneud hynny, hyrwyddo ecosystemau cyfnerth. Roedd y ddyletswydd newydd hon wedi’i galw’n Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, ac mae’n cryfhau ac yn disodli’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a roddwyd ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

 

Nododd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol o dan y Ddeddf i bob awdurdod cyhoeddus ddarparu Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain Mawrth, 2017. Byddai’r blaen-gynllun yn manylu ar sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â’r ddeddf newydd. Hefyd, yn 2019, byddai gofyn i awdurdodau adrodd ar sut yr oeddent wedi cyflawni’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau a fyddai’n gwneud awdurdodau cyhoeddus yn fwy cyfrifol am ddangos sut mae’u gweithredoedd wedi cyfrannu tuag at wella bioamrywiaeth ac ecosystemau.

 

Cafodd Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd ei ddatblygu gan Adran yr Amgylchedd ar gyfer yr adran drwy gyfres o weithdai gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth a Swyddogion o bedair o’r is-adrannau. Cynhaliwyd y gweithdai ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2016. Nodai’r cynllun ddeuddeg cam gweithredu allweddol a gâi eu cyflawni i ddangos sut mae’r Cyngor yn cynnwys bioamrywiaeth fel rhan annatod o’i brosesau penderfynu a’i arferion gwaith. Pe bai’r drefn hon yn llwyddiannus, byddai gweithdai tebyg yn cael eu hymestyn i adrannau eraill o’r Cyngor yn ystod 2017.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig fod y ddyletswydd newydd yn fwy gweithredol a’i bod yn helaethach na’r ddyletswydd flaenorol.

 

Cyfeiriwyd at Gam Allweddol 6 sy’n ymwneud â thorri ymylon ffyrdd a nodwyd bod aelodau o’r cyhoedd yn cysylltu â chynghorwyr yn rheolaidd yn gofyn pryd y câi gwrychoedd eu torri. Mynegwyd pryder yngl?n ag effaith unrhyw oedi cyn torri ymylon ffyrdd a gwrychoedd ar ddiogelwch. Pwysleisiodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig mai iechyd a diogelwch y cyhoedd yw’r ystyriaeth bennaf a bod ymylon ffyrdd a gwrychoedd ar gyffyrdd neu gerllaw iddynt yn cael eu torri’n fwy rheolaidd i sicrhau gwell gwelededd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am i’w werthfawrogiad gael ei basio ymlaen i’r swyddogion hynny a fu â rhan yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I’R BWRDD GWEITHREDOL fod adroddiad Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin, i gael ei gymeradwyo.

 

9.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 2016/17 pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor, Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 o ran y gwasanaethau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor, am y 3ydd Chwarter, 1af Ebrill hyd at 31ain Rhagfyr 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gwnaed sylw nad oedd yr adroddiad yn egluro’r ffigurau a’i bod yn anodd gwybod ystyr y canrannau a’r targedau a gyflwynwyd. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai’n bwydo’r sylwadau’n ôl i’r swyddogion perthnasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a’r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol, ar y 31ain Rhagfyr 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17. Codwyd y materion canlynol yn yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â chost casglu gwastraff gwyrdd, cadarnhaodd y Pennaeth Gwastraff a’r Gwasanaethau Amgylcheddol fod y gost yn £48 y flwyddyn gyda gostyngiad i £40.80 am dalu’n gynnar. 

 

Nodwyd bod rhai Cynghorau’n casglu gwastraff gwyrdd 12 mis y flwyddyn a gofynnwyd pam nad yw Sir Gaerfyrddin ond yn casglu gwastraff gwyrdd dros fisoedd yr haf. Dywedodd y Pennaeth Gwastraff a’r Gwasanaethau Amgylcheddol fod hynny oherwydd cost sylweddol llogi’r cerbydau sy’n ofynnol i gasglu’r gwastraff gwyrdd ledled y Sir. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei adolygu ar ôl cyflwyno’r cynllun.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yngl?n â’r cynnydd ym Mharc Howard, Llanelli, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y cais cynllunio yn mynd rhagddo ac y câi’r gwariant cyfalaf a oedd wedi’i neilltuo ei ddefnyddio fel y bwriadwyd.

 

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ar brosiect Seilwaith Priffyrdd Adfywio Economaidd Rhydaman. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddiweddariad llafar byr i’r Pwyllgor ar y gwaith sydd wedi’i gwblhau hyd yma. Hefyd, dywedwyd wrth yr Aelodau fod blaenoriaethau tymor hwy wedi’u nodi yn y Cynllun Trafnidiaeth Leol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

11.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran camau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau yn deillio o gyfarfodydd craffu blaenorol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gais a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg Tachwedd, 2016, i wahodd Mr. Simon Wilkinson o CLlLC i gyfarfod yn y dyfodol. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar ran Roger Edmunds (Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach) gan ddweud eu bod wedi cysylltu â Mr. Wilkinson a’i fod yn hapus i dderbyn gwahoddiad y Pwyllgor. Fodd bynnag, awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor pe bai Mr. Wilkinson yn dod i gyfarfod ar ôl etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai er mwyn cynnwys carfan newydd o aelodau pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Mr. Wilkinson i gyfarfod ym mis Medi/Hydref 2017.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gam gweithredu nad oedd wedi’i gyflawni mewn perthynas â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar yr 16eg Rhagfyr 2016, i wahodd cynrychiolydd o Valero i gyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd y Cadeirydd am farn yr Aelodau pa un a oedd angen gwahodd cynrychiolydd o Valero, gan fod y Pwyllgor wedi cael diweddariadau rheolaidd gan swyddogion, yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a thrwy e-bost. Ar ôl trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wahodd cynrychiolydd o Valero i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cwestiwn yngl?n ag iawndal, atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor fod Valero wedi dweud y dylai unrhyw hawliadau am iawndal gael eu cyflwyno’n uniongyrchol iddyn nhw.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol:

 

11.1     Nodi’r diweddariad.

 

11.2     Bod y Pwyllgor i wahodd Mr Simon Wilkinson, CLlLC i gyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Medi/Hydref 2017.

 

11.3     Bod y Pwyllgor i wahodd cynrychiolydd o Valero i gyfarfod yn y dyfodol.

 

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 12FED IONAWR 2017 pdf eicon PDF 185 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion Pwyllgor Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd a gynhaliwyd ar y 12fed Ionawr 2017 fel rhai cywir.