Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Morgan, S. Phillips a D. Thomas.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 31 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y RHAGLEN FUDDSODDI O RAN PRIFFYRDD, TROEDFFYRDD A DIOGELWCH FFYRDD PDF 417 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-
· Cynllun Trafnidiaeth Lleol · Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol · Llwybrau Diogel mewn Cymunedau · Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd · Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf a Refeniw) · Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau
Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2019/20 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
trafodaethau â thirfeddianwyr yn parhau, cais cynllunio wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y rhan orllewinol, cais cynllunio wedi cael ei wneud ar gyfer y rhan ddwyreiniol - oedi oherwydd amodau ar waith gan CNC gwaith adeiladu wedi dechrau ar ran orllewinol y llwybr ger Felin-wen, ceisiadau pellach wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y rhan orllewinol.
Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'n cysylltu â'r cynghorydd lleol y tu allan i'r cyfarfod ynghylch y mater.
· Cyfeiriwyd at Lwybrau Diogel mewn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD MONITRO CYNLLUN GWEITHREDU PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar y cynnydd mewn perthynas â'r argymhellion a nodwyd yng nghanfyddiadau adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghylch y ddarpariaeth cynnal a chadw perthi ac ymylon priffyrdd. Cafodd adroddiad y gr?p ynghyd â'i argymhellion eu mabwysiadu gan y Bwrdd Gweithredol ar 4 Mawrth 2019.
Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb byr i'r Pwyllgor ynghyd â'r canlynol:
· cwmpas ac amcanion gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen; · ei fethodoleg; · argymhellion y Gr?p; · adroddiad cynnydd manwl ar y camau gweithredu sy'n gysylltiedig ag argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.
Nododd y Pwyllgor y cynnydd o ran pob un o'r argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD PDF 281 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|
Cofnodion: Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr 2020, wedi penderfynu, ar ôl ystyried Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020-23 yn ymwneud â'r Is-adran Eiddo sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, "gofyn i Bwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ystyried modd i sicrhau gwelliannau i Gynllun Trafnidiaeth ar y cyd De-orllewin Cymru gyda'r bwriad o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin."
Nodwyd, wrth ystyried y Cynllun Busnes, y cyfeiriwyd at y problemau a wynebir o ran recriwtio staff a bernid bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus addas hefyd wedi cyfrannu at y broblem.
Er mwyn i'r Pwyllgor allu ymgymryd â'r cais, gofynnwyd bod adroddiad yn rhoi gwybodaeth am Gynllun Trafnidiaeth ar y Cyd De-orllewin Cymru yn cael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2020/2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnwys adroddiad gwybodaeth ynghylch Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y cyd De-orllewin Cymru ym Mlaenraglen Waith 2020/2021 y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 231 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 21 Ebrill, 2020 a rhoddwyd y cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.
Pwysleisiodd y Cadeirydd, oherwydd nifer yr eitemau ar yr agenda, y byddai'r cyfarfod yn debygol o barhau yn y prynhawn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 IONAWR 2020 PDF 344 KB Cofnodion: |