Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Thomas.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion:
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 - 2022/23 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 19/20, fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.5m) yng ngrant Llywodraeth Cymru gan gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Roedd y cynnydd hwn yn dilyn rhai trosglwyddiadau i'r cyllid ar gyfer Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad ac yn cyfrif am tua £5.8m o'r cynnydd cyffredinol mewn cyllid.
Nododd y Pwyllgor mai cynnydd yn nifer y disgyblion ADY oedd yn cael cludiant a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am orwariant Adran yr Amgylchedd a'r amcanestyniad presennol ynghylch y Canlyniadau Refeniw ar gyfer 2019/20.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am Grantiau Penodol i Wasanaethau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd ynghyd â'r setliad dros dro ar lefel Cymru gyfan. Er bod llawer ohonynt wedi aros ar lefel weddol debyg, nododd y Pwyllgor y gostyngiad o £1.8m ar gyfer Cymru gyfan i'r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy, a fyddai'n lleihau'r cymorth i gyllidebau gwastraff craidd Sir Gaerfyrddin tua £110k.
Yn gryno, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb yn cymryd bod yr holl gynigion o ran arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2021-22 a 2022-23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf. At hynny, o ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol sy'n cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.
Hefyd, oherwydd yr oedi cyn cael y setliad dros dro, dywedwyd bod yr effaith ganlyniadol ar gwblhau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei hoedi i'r un graddau. Felly, roedd y setliad terfynol i fod i gael ei gyhoeddi ar 25 Chwefror, 2020 a byddai'r Cyngor Sir yn pennu'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth, 2020.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:
· Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd; · Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd; · Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 PDF 298 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau monitro ynghylch y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r diweddariad monitro ar gyfer y gwasanaethau gwastraff yn Atodiad C, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er mwyn helpu i fynd i'r afael â sefyllfa'r gyllideb, byddai adroddiad a oedd yn cynnwys canlyniadau/opsiynau rhagarweiniol lefel uchel o'r Adolygiad Gwasanaeth Casgliadau Gwastraff yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Pwyllgor ei ystyried maes o law, ond roedd yn annhebygol y byddai hyn yn digwydd cyn Ebrill 2020.
· Cyfeiriwyd at y diweddariad am gynnydd a oedd yn nodi nad oedd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn ariannu ei hun eto. Gofynnwyd am ddiweddariad pellach. Ategodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y sylw a wnaethpwyd yn yr adroddiad sef na ragwelid y byddai'r gwasanaeth yn adennill ei gostau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, fel oedd wedi'i nodi yn y cynllun busnes gwreiddiol. Ar hyn o bryd roedd gan y gwasanaeth tua 4,500 o gwsmeriaid, ond y gobaith oedd y byddai rhagor o farchnata yn cynyddu nifer y cwsmeriaid, a byddai hynny'n golygu bod y gwasanaeth yn adennill ei gostau ei hun yn y dyfodol.
· Gan mai hyd at Hydref 2019 oedd yr adroddiad a ddarparwyd, gofynnwyd am ddiweddariad llafar ynghylch Atodiad F, arbedion rheoli a pholisi nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed. Rhoddodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd sicrwydd i Aelodau'r Pwyllgor fod yr adran yn mynd ati i reoli a mynd i'r afael yn barhaus â materion nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2020/2023 PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2020-2023 a oedd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran a sut yr oedd yr adran wedi cefnogi pum ffordd o weithio a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gan gynnwys yr elfennau canlynol:-
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y cynllun:
PENDERFYNWYD bod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020-2023 yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRAN CYMUNEDAU 2020 - 2023 PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes yr Adran
Cymunedau
PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau
2020-2023.
|
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2020/2023 PDF 400 KB Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2020-2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran Diogelwch Cymunedol.
PENDERFYNIAD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr am 2020-2023.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 399 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd eitemau i'r Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd wedi cael ei drefnu ar 21 Chwefror 2020.
Er mwyn rheoli llwyth gwaith y Pwyllgor Craffu dros yr ychydig fisoedd sy'n weddill yn y flwyddyn ddinesig hon, yn dilyn trafodaethau â'r Cadeirydd, derbyniodd y Pwyllgor Flaenraglen Waith wedi'i diweddaru i'w hystyried.
Cafodd y Pwyllgor Flaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol hyd at fis Hydref i'w hystyried. Mewn ymateb i sylw a godwyd mewn perthynas ag absenoldeb adroddiadau yn adran yr Amgylchedd, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd mai gwall gweinyddol adrannol oedd yn gyfrifol am hyn, ac y byddai'n sicrhau bod hynny'n cael ei unioni.
Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wrth y Pwyllgor fod yr adran wedi canolbwyntio ar gynnwys camau gweithredu Darparu Gwasanaeth Diogelu'r Amgylchedd yn y Cynllun Is-adrannol, a oedd wedi gwaredu'r angen i ddatblygu Cynllun Darparu Gwasanaeth Diogelu'r Amgylchedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1 cytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod o'r Pwyllgor ar 21 Chwefror 2020;
9.2 nodi Blaenraglen Waith ddiwygiedig Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 TACHWEDD 2019 PDF 440 KB Cofnodion: Dywedwyd nad oedd y cofnodion yn nodi ymddiheuriadau y Cynghorydd D. Phillips, nac ychwaith i'r Cynghorydd M.J.A. Lewis fynychu yn ei le.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar wneud y newidiadau uchod,lofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2019 gan eu bod yn gywir.
|