Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Roedd ymddiheuriadau am absenoldeb wedi dod i law gan y Cynghorwyr A. James, A.D.T. Speake a P.M. Hughes [yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd].
O ran Eitem 5 ar yr Agenda, sef Adroddiad Blynyddol y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel 2016/17, cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Prif Arolygydd Steve Thomas, Is-gadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
Y GRWP CYMUNEDAU TEG A DIOGEL ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17 PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel 2016-17 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor gan y Cynghorydd Cefin Campbell, Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd a oedd wedi'i wneud gan y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel a'i ragflaenydd, sef y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn 2016/17. Roedd yr adroddiad hefyd yn adolygu'r cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran y Strategaeth Gymunedol Integredig.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gr?p yn ymfalchïo mewn creu cysylltiadau cryf â phartneriaid a chydweithio i sicrhau bod cymunedau yn lleoedd diogel i fyw ynddynt.
Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnwys cyfraniadau gan ddau o 'Awdurdodau Cyfrifol' y gr?p sy'n bartneriaid statudol, sef y Gwasanaeth Tân ac Achub a sefydliadau Prawf. Yn ogystal, mae trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel wedi'u hymgorffori yn strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel wrth y Pwyllgor y gellid priodoli'r cynnydd mewn lefelau troseddu i'r gwelliannau diweddar i brosesau riportio yr Heddlu. Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor fod ardal Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw sydd â’r lefelau troseddu isaf yng Nghymru a Lloegr.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol nad oedd y trydydd sector yn cael ei gynrychioli ar y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel ar hyn o bryd, ond bod y gr?p yn cynnal cysylltiadau cryf â darparwyr trydydd sector megis Cymorth i Fenywod ac Age Concern Cymru sy'n cael eu cynrychioli ar nifer o grwpiau y mae'r Gr?p Cymunedau Teg a Diogel yn eu harwain. Yng ngoleuni hyn, mynegodd Aelodau bryder y dylid cynnwys sefydliadau trydydd sector yn y gr?p. Cytunodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel a dywedodd y byddai'n trafod y mater hwn ymhellach â'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol.
Cafwyd ymholiad ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn cerbydau tir garw (ATV). Dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel y gellid priodoli'r cynnydd i'r datblygiadau diweddar o ran y modd y mae'r Heddlu yn cofnodi troseddau. Cydnabuwyd bod llu o achosion o ddwyn cerbydau tir garw yn ddiweddar a dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel y byddai ymchwil yn cael ei gwneud a byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen at yr Aelodau.
Mewn ymateb i sylw ynghylch yr angen i gyfarfodydd PACT (yr Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd) gydweithio mwy, dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel fod adolygiad o strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) i fod i gael ei gynnal yn gynnar yn 2018 a fyddai'n gyfle i'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried cyfarfodydd PACT er mwyn rhoi llais cryfach i gymunedau.
Gan gyfeirio at dudalen 13 yr adroddiad, gwnaed sylw ynghylch y 29 o hysbysiadau cosb benodedig a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 - 2020/21 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017. Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/2019, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/2021. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017.
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i wybodaeth fanwl am y gyllideb a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad fel a ganlyn:
· Atodiad A – Strategaeth ar gyfer y Gyllideb Gorfforaethol 2018/19 - 2020/21; · Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd (dim un ar gyfer y Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol); · Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd (dim un ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol); · Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â Gwasanaethau'r Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol; · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, er bod y setliad dros dro o -0.5% a gyhoeddwyd yn llawer gwell na'r hyn a ragwelwyd, sef -2%, roedd yn dal i olygu ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod nodi arbedion effeithlonrwydd o £8.544m ar gyfer 2018/19 o gymharu â'r swm cychwynnol o £12.527m a byddai'n dal i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.
O ran Adran yr Amgylchedd, nododd y Pwyllgor fod gorwariant o £533k o fewn perfformiad 2017/18, ar sail gwaith monitro ym mis Awst 2017. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai peidio â chyrraedd targedau o ran incwm meysydd parcio a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am y gorwariant. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor wrth bennu cyllideb y flwyddyn ariannol bresennol, o gyfanswm o £2.515m a ddyrannwyd i wasanaethau, fod swm o £1.027m wedi'i ddyrannu i'r Amgylchedd, a bod dadansoddiad manwl o'r rhannau o'r gyllideb ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B.
Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £25.6 miliwn o arbedion a nodwyd. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.12% a bod symudiad o 1% mewn lefelau'r Dreth Gyngor yn cyfateb i +/-£820k.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Gan gyfeirio at y Rhannau o'r Gyllideb (Atodiad B yr adroddiad), cafwyd cwestiwn ynghylch y Cynllun Trwyddedu Symud Anifeiliaid a'r posibilrwydd o ddyblygu gwaith rhwng yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau megis Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), yn enwedig ers cyflwyno Tagiau Electronig. Roedd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn cydnabod y posibilrwydd o ddyblygu gwaith a bod hyn yn faes lle gellid gwneud gwelliannau ar y cyd â nifer o asiantaethau.
Mewn ymateb i sylw ynghylch rheoli plâu dywedodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor ers i'r gwasanaeth rheoli plâu ddod i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2018/19 - 2021 PDF 160 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Broom wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].
Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2018/19 - 2021 a oedd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran a sut yr oedd yr adran wedi cefnogi pum ffordd o weithio a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gan gynnwys yr elfennau canlynol:-
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Cyfeiriwyd at y Perfformiad Allweddol ar dudalen 5 o'r adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch canran y gwastraff trefol a anfonir i safleoedd tirlenwi nad oedd yn cyrraedd y targed, sef canlyniad o 15% yn erbyn targed o 10%, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Sir Gaerfyrddin, hyd yn oed gyda'r ffigur perfformiad o 15%, yn dal i gyrraedd ei tharged statudol ar gyfer dargyfeirio o safleoedd tirlenwi gan gydnabod bod y targed o 10% yn uchelgeisiol, o ystyried bod anawsterau ar draws y diwydiant ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol. Roedd gwastraff gweddilliol yn cynnwys yr holl wastraff trefol na ellid ei ailgylchu. Yn ogystal, er mwyn cyrraedd y targedau yn y dyfodol a gwella canlyniadau, roedd trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i gael mannau gwastraff gweddilliol newydd.
Gan gyfeirio at dudalen 33 yr adroddiad, sef Absenoldeb Salwch, gofynnwyd a oedd y lefel uchel o absenoldeb salwch a nodwyd yn destun pryder. Dywedodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'r adran yn canolbwyntio ar y mater hwn ac yn derbyn adroddiadau monitro rheolaidd. Cydnabuwyd yn gyffredinol y gofynnir i awdurdodau lleol 'wneud mwy â llai' a fyddai, yn anochel, yn cael effaith niweidiol ar adnoddau. Roedd rheolwyr yn cydweithio'n agos ag Adnoddau Dynol ar hyn o bryd i helpu i wella llesiant staff.
PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2018/19-2021.
|
|||||||
CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2018/19 - 2021 PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol yr Adran
Cymunedau 2018/19 - 2021
PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2018/19 – 2021
|
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2018/19 - 2021 PDF 210 KB Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2018/19 - 2021. Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran Diogelwch Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2018/19 – 2021.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 65 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor nad oedd yr adroddiad ar Ymgynghori ynghylch Cyllideb Gyfalaf 5 Mlynedd wedi'i gyflwyno a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau.
Penderfynwyd nodi'r adroddiad craffu nad oedd wedi'i gyflwyno.
|
|||||||
EITEMAU A GYFER Y DYFODOL PDF 71 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 15 Ionawr 2018 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr adroddiad ynghylch gwastraff gwyrdd. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r adroddiad yn rhoi trosolwg o dymor cyntaf gweithredu'r cynllun gwastraff gwyrdd/gardd, a oedd yn seiliedig ar system casglu biniau. Nid oedd unrhyw fath arall o gynhwysydd yn cael ei gynnig, ac eithrio mewn achosion lle na fyddai biniau'n addas o safbwynt gweithredol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r adroddiad ynghylch Gwastraff Gwyrdd a oedd i'w gyflwyno ym mis Ionawr yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y cynigion ar gyfer y tymor nesaf.
Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd bagiau gwastraff gwyrdd yn cael eu dosbarthu bellach ac na fyddent yn cael eu hailgyflwyno.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.
|