Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.D. Evans a G.O. Jones.
Bu i'r Cadeirydd longyfarch Côr Merched Sir Gâr ar ennill cystadleuaeth Côr Cymru dros y penwythnos. Bydd y côr bellach yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017 yn Riga, Latfia ym mis Gorffennaf. Yn ogystal estynnwyd llongyfarchiadau i Ysgol Iau Llangennech ac Ysgol Teilo Sant ar gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant, yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2015 (gweler cofnod 8), wedi sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiad o'r bwlch cyrhaeddiad o ran dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Daethai'r adolygiad i ben ag 8 o argymhellion a oedd wedi eu llunio yn sgil ystyried amrywiaeth o dystiolaeth mewn cyfres o gyfarfodydd a gynhelid rhwng Rhagfyr 2015 a Thachwedd 2016.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, yn dilyn newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth, wedi gofyn bod argymhelliad 6 yn cael ei newid fel a ganlyn:-
"Bod y Cyngor Sir yn lobïo Llywodraeth Cymru ynghylch pwysigrwydd sicrhau a diogelu cyllid ar gyfer y tymor hwy i gefnogi ein disgyblion mwyaf difreintiedig."
Diolchodd y Bwrdd Gweithredol i aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghyd â'r swyddogion am lunio adroddiad rhagorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo argymhellion Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ynghylch yr adolygiad o'r bwlch cyrhaeddiad o ran dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys newid argymhelliad 6 fel y nodwyd uchod.
|
|
CYNLLUN BUSNES EIN RHANBARTH AR WAITH (ERW) 2017-20. PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Busnes 2017/20 Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), a oedd yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer cyflawni gweledigaeth strategol ERW ac yn cydlynu cyfraniadau Awdurdodau Lleol, ysgolion a phartneriaid strategol.
Roedd y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor ERW ac roedd yn nodi'r canlynol:-
· Gweledigaeth a Datganiad Cenhadaeth ERW · Blaenoriaethau Rhanbarthol a Chenedlaethol · Fframwaith Llywodraethu a Chynllunio Busnes, gan gynnwys Atebolrwydd · Blaenoriaethau a Chynlluniau · Canlyniadau
Byddai'r cynnydd o ran y Cynllun Busnes yn cael ei fonitro bob blwyddyn, ynghyd â monitro'r camau a gytunwyd yn rheolaidd a monitro materion ariannol bob chwarter.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Busnes ERW 2017-20.
|
|
NEWID I'R POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS, STRATEGAETH A'R POLISI DARPARIAETH ISAFSWM REFENIW. PDF 164 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yng nghyfarfod y Cyngor ar 22 Chwefror 2017, fel rhan o adroddiad strategaeth y gyllideb, wedi rhoi gwybodaeth i'r Cyngor am yr adolygiad parhaus o'r brif ffordd o ad-dalu dyled yr Awdurdod sef y Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o ganlyniad yr adolygiad ac yn nodi y dylai'r Cyngor ystyried newid y ffordd o ad-dalu benthyciadau'r Cyngor o falans gostyngol ar gost o 4% i ddull llinell syth a gyfrifir ar sail bywyd amcangyfrifedig yr ased o ran asedau sefydlog yr Awdurdod.
Felly cynigiwyd newid y Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw presennol, er mwyn iddo gefnogi darpariaeth flynyddol mwy darbodus, ar sail y canlynol:-
(1) Benthyca â chymorth a gwariant cyn 1 Ebrill 2008, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2016 – i'w cynnwys yn y refeniw dros 40 mlynedd ar sail llinell syth, a bod y polisi hwn yn cael ei roi ar waith ar gyfer cyfrifon 2016-2017 ac ar gyfer Strategaeth Cyllideb Refeniw 2017-2018 hyd at 2019-2020;
(2) Benthyca heb gymorth - bod gwerth benthyca'r dyfodol yn cael ei gynnwys yn y refeniw dros 2 mlynedd neu drwy fywyd economaidd amcangyfrifedig yr ased os yw'n fyrrach;
(3) Y Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer Menter Benthyca Llywodraeth Leol Priffyrdd a rhaglen y fflyd i aros fel y mae wedi'i gymeradwyo ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y newidiadau i'r Polisi Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth a'r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw, fel y nodwyd uchod, yn cael eu cymeradwyo.
|
|
CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI'R STRYD FAWR 2017/18. PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am Gynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru am 2017/18. Mae'r cynllun yn darparu rhyddhad ychwanegol ar gyfer adwerthwyr y stryd fawr yn benodol, megis siopau, bwytai, tafarnau a chaffis sydd wedi gweld cynnydd yn eu hardrethi o ganlyniad i’r ailbrisiad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn 2017.
Gan mai mesur dros dro oedd hwn nid oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond yn hytrach byddai'n caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn cyffredinol sydd ar gael o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cyllid) 1988.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 bod Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr yn cael ei fabwysiadu am 2017/18;
8.2 bod rhyddhad yn cael ei roi, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;
8.3 bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yn penderfynu ynghylch unrhyw geisiadau nad ydynt o fewn cwmpas penodol y canllawiau neu y bydd angen rhoi ystyriaeth benodol iddynt.
|