Agenda a chofnodion drafft

Cabinet - Dydd Llun, 15fed Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.A.L. Evans.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

</AI2>

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

3.1

18EG MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar yr 18eg Mawrth 2024 yn gofnod cywir.

 

3.2

25AIN MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25ain Mawrth 2024 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd

6.

DIOGELU CYFLOGAETH (POLISÏAU / CANLLAWIAU DIWYGIEDIG A NEWYDD) pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn nodi diwygiadau a wnaed i Ganllawiau DBS yr Awdurdod, a oedd wedi'u diweddaru i gynnwys prosesau diwygiedig o ran asesiadau risg a phrosesau uwchgyfeirio ar gyfer recriwtwyr nad ydynt yn cydymffurfio.

 

Diweddarwyd y canllawiau manylach hyn yn dilyn archwiliad gan ein Swyddog Diogelu mewn Cyflogaeth ac ar ôl ymgynghori â rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gwnaeth y Gr?p Diogelu Corfforaethol ddiwygiadau pellach hefyd i sicrhau bod yr argymhellion diweddar gan Archwilio Cymru yn cael eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1      cynmeradwyo Canllawiau diwygiedig GDG, a ddiweddarwyd i gynnwys y broses ddiwygiedig o amgylch asesiadau risg a phroses uwchgyfeirio ar gyfer recriwtwyr nad ydynt yn cydymffurfio, fel y’i hatodwyd i’r adroddiad;

 

6.2      fabwysiadu'r polisïau canlynol, fel y’u hatodwyd i’r adroddiad:-

(1)           Polisi Recriwtio Mwy Diogel

(2)           Polisi Recriwtio Cyn-droseddwyr

 

 

 

7.

Y RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried cais yn gofyn am gymorth ariannol o Gronfa Refeniw y Rhaglen Deg Tref.

 

Mae Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn, ar ran Tîm Cynllun Twf y 10 Tref, yn ceisio cyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu digwyddiadau cenedlaethol a lleol yng Nghastellnewydd Emlyn i helpu i godi'r proffil a chynyddu nifer yr ymwelwyr â'r dref a'r ardal gyfagos. Mae cyllid yn cael ei geisio i gefnogi Pencampwriaethau Prawf Amser a Rasio Ffordd Iau Cenedlaethol Beicio Prydain yng Nghastellnewydd Emlyn ym mis Mehefin 2024. Ar ôl cynnal Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cymru yn 2022 a'r Pencampwriaethau Rasio Ffordd i Ddynion yn 2023 yn llwyddiannus, roedd y cyhoeddiad gan Beicio Prydain y byddai Pencampwriaethau Iau Cenedlaethol 2024 yn cael eu cynnal yng Nghastellnewydd Emlyn yn gyfle pwysig i'r dref godi ei phroffil fel lle i ymweld ag ef ac i aros. Bydd busnesau lleol yn helpu i drefnu'r digwyddiad, gan sicrhau eu bod yn gallu cael cymaint â phosibl o wariant gan ymwelwyr sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais a wnaed gan Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn am gyllid o £14,800 o Gronfa Refeniw y Deg Tref.

 

8.

CRONFA GYFALAF Y RHAGLEN DEG TREF - LLANYBYDDER pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried cais yn gofyn am gymorth ariannol o Gronfa Gyfalaf y Rhaglen Deg Tref.

 

Cyflwynwyd y cais gan Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol, sef elusen yn Llanybydder. Mae ailddatblygu'r ganolfan gymunedol wedi'i nodi fel prosiect blaenoriaeth yng nghynllun twf economaidd y dref, yn ogystal â chan dîm y cynllun twf economaidd. Mae cyllid yn cael ei geisio i adnewyddu ac addasu'r adeilad presennol sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael. Bydd y prosiect yn creu canolfan sy'n cefnogi twf economaidd ac anghenion cymdeithasol y dref drwy ddatblygu:-

 

- Lle gweithio ar y cyd i fusnesau bach ei logi a'i ddefnyddio

- Canolfan dysgu a datblygiad personol

- Llogi cyfleusterau digwyddiadau

- Caffi

 

Bydd yr elfennau hyn yn ategu'r gampfa gymunedol bresennol sydd eisoes yn gweithredu yn y ganolfan sy'n darparu ffrwd incwm i sicrhau ei chynaliadwyedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais am grant o £100,000 o Gronfa Gyfalaf 10 Tref yr Awdurdod a £74,294 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin fel rhan o'r rhaglen Angor Gwledig, a gyflwynwyd gan Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol, Llanybydder.

 

 

9.

CYMERADWYO ENWEBIAD Y CYNGHORYDD STEVE WILLIAMS I'W BENODI I GRWP CYDWEITHIO PARC HOWARD (AR Y CYD GYDA CHYNGOR TREF LLANELLI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Steve Williams i wasanaethu ar Gr?p Cydweithredu Parc Howard (ar y cyd â Chyngor Tref Llanelli).

 

10.

CYMERADWYO'R NEWIDIADAU GAN Y GRWP LLAFUR I AELODAETH PANELAU YMGYNGHOROL Y CABINET:-

·       Y Cynghorydd Edward Skinner i lenwi’r lle gwag ar y Panel Ymgynhorol Datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol

·       Y Cynghorydd Anthony Leyshon i gymryd lle’r Cynghorydd Dot Jones ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Gwledig

·       Y Cynghorydd Lewis Davies i gymryd y lle gwag diwethaf ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Gwledig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y newidiadau canlynol i aelodaeth Paneli Ymgynghorol y Cabinet a gyflwynwyd gan y Gr?p Llafur:-

 

·      Bod y Cynghorydd Edward Skinner yn llenwi'r sedd wag ar Banel Ymgynghorol y Cynllun Datblygu Lleol

·      Bod y Cynghorydd Anthony Leyshon yn cymryd lle'r Cynghorydd Dot Jones ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Cefn Gwlad

·      Bod y Cynghorydd Lewis Davies yn llenwi'r sedd wag ddiwethaf ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Cefn Gwlad

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i aelodaeth Paneli Ymgynghorol y Cabinet, fel y nodir uchod.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.