Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Gravell</AI1>. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017 yn gofnod cywir.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cadeirydd y dylid newid teitl eitem 3.2 ar yr agenda Saesneg i 13 Mawrth 2017, yn hytrach na 13 Chwefror 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2017 yn gofnod cywir.
|
||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 206 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill, 2016 hyd at 31 Rhagfyr, 2016 a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2016 mewn perthynas â 2016/17.
Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn yn nodi gorwariant posibl o £833k gydag amrywiant yr adrannau wedi'u gyllidebu tua £2.3m.
Nodwyd bod y pwysau mwyaf sylweddol yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, ac er bod pwysau ar gyllidebau adrannau eraill roedd y rheiny, yn gyffredinol yn cael eu gwrthbwyso gan danwariant penawdau cyllidebol eraill.
Gwnaed ymholiad ynghylch dileu ôl-ddyledion. Gofynnwyd a oedd camau yn cael eu rhoi ar waith yn gynnar iawn er mwyn ceisio atal y ddyled rhag gwaethygu. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod y Tîm Gorfodi wedi gweithio'n agos gyda'r tenantiaid er mwyn lleihau dyled. Yn ogystal, roedd y ddyled a oedd heb ei thalu wedi cyrraedd ei man mwyaf isel. Roedd yr ymgyrchoedd a'r sloganau parhaus megis "Mae Rhent yn Bwysig" hefyd wedi helpu i leihau'r ddyled. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL; 6.1 derbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb,
6.2 bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol er mwyn cadw'r gwariant yn unol â'r gyllideb a ddyrannwyd.
|
||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2016-17 PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2016/17, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am y prif amrywiannau a throsglwyddiadau i'w cymeradwyo.
Roedd yr adroddiad yn nodi ar sail y gwariant net a ragwelwyd sef £68m ar brosiectau cyfalaf, roedd amrywiad o £21m. Nododd yr Aelodau'r anawsterau o osod prosiectau cyfalaf yn y blynyddoedd ariannol, yn aml oherwydd ffactorau allanol sy'n gallu dylanwadu ar amser dechrau'r prosiect a'r amserlen adeiladu. Felly, roedd yr amrywiad yn bennaf oherwydd llithriad y prosiectau rhwng y blynyddoedd ariannol yn hytrach nag unrhyw newidiadau yn y gost.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn a bod y trosglwyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.
|
||||||||||
POLISI INCWM A CHODI TÂL PDF 173 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Polisi Incwm a Chodi Tâl Corfforaethol Drafft ar gyfer y Cyngor a fyddai'n cael ei ddefnyddio i danategu datblygu dull mwy strategol a masnachol at brosesau creu incwm ac adennill dyledion y Cyngor.
Nododd yr Aelodau, fel rhan o raglen waith TIC, bod Gr?p Llywio Incwm a Chodi Tâl wedi cael ei sefydlu, gyda'r nod o archwilio'r potensial o gynyddu incwm o ffioedd a thaliadau ac adolygu cadernid y prosesau presennol ar gyfer casglu incwm ac adennill dyledion. Yn o ganfyddiadau cychwynnol y gr?p oedd bod angen mabwysiadu dull mwy strategol tuag at ei weithgareddau casglu incwm a chodi tâl, a fyddai'n cael ei gefnogi drwy gyfrwng Polisi Incwm a Chodi Tâl Corfforaethol. Roedd y Polisi yn darparu cyfres o egwyddorion allweddol a fyddai'n cael eu defnyddio i danategu dull yr Awdurdod o ran incwm a chodi tâl a datblygu ymhellach dull mwy masnachol tuag at y gweithgareddau hyn. Mae'r polisi newydd yn gosod y disgwyliadau o ran cadernid y prosesau casglu incwm ac adennill dyled. Roedd ymgynghoriad helaeth ag adrannau mewnol wedi cynorthwyo i ddatblygu'r polisi a'r egwyddorion. Yn ogystal, cafodd y Polisi newydd ei ddrafftio mewn ymateb i astudiaeth ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Lywodraeth Leol: 'Trefniadau Awdurdodau Lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm' a oedd wedi nodi'r angen i bob Awdurdod Lleol lunio Polisi Incwm a Chodi Tâl. PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR bod y Polisi Incwm a Chodi Tâl Corfforaethol yn cael ei gymeradwyo. |
||||||||||
CYNLLUN DARPARU TAI FFORDDIADWY – EIN PERFFORMIAD PDF 765 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan fod y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon nid oedd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth].
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a oedd yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad ar gyfer 2016/17. Roedd y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy wedi gosod targed clir o ddarparu 1,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.
Nododd y Bwrdd fod y targed a osodwyd i ddarparu 129 o dai fforddiadwy erbyn diwedd chwarter 3 wedi'i ragori gyda bron i 30 o dai. Nodwyd hefyd bod y perfformiad hyd yn hyn eleni yn dangos bod yr Awdurdod ar y trywydd cywir i ragori ar y targed i ddarparu 160 o dai erbyn diwedd 2016/17.
Nodwyd y perfformiad rhagorol a oedd eisoes wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn gyntaf o ddarparu tai yn 2016/17.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy yn cael ei dderbyn</AI11>
|
||||||||||
BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD PDF 175 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar Flaen-gynllun y Cyngor o ran Deddf yr Amgylchedd. Roedd yr adroddiad yn nodi bod rheidrwydd ar holl gyrff cyhoeddus, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i 'geisio cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth lle bo hynny’n rhan briodol o’u swyddogaethau, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau’. Roedd y ddyletswydd newydd wedi cael ei henwi yn Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, a oedd yn cryfhau a disodli'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2016.
Nodwyd bod y Ddeddf, yn ei gwneud yn ofynnol i holl awdurdodau cyhoeddus ddarparu Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd, a fyddai'n cynnwys manylion am sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r ddyletswydd newydd i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth 2017, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Yn ogystal, yn 2019, byddai'n ofynnol i Awdurdodau adrodd ar sut yr oeddent wedi bodloni'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau a fyddai'n gwneud awdurdodau cyhoeddus yn fwy cyfrifol am ddangos sut yr oedd eu camau gweithredu wedi cyfrannu at wella bioamrywiaeth ac ecosystemau.
Mynegwyd gwerthfawrogiad i'r swyddogion hynny a fu'n rhan o ddatblygu'r cynllun.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL;
10.1 cymeradwyo Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin,
10.2 i adrodd ar gyflawni’r cynllun i Lywodraeth Cymru yn 2019.
|
||||||||||
CYRHAEDDIAD A CHYRHAEDDIAD ADDYSG AWDURDOD LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2015-2016 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar gyrhaeddiad a chyflawniad addysg Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin 2015-16. Roedd yr adroddiad cynhwysfawr yn cynnwys y materion allweddol at sylw'r aelodau a oedd yn deillio o'r dadansoddiad o'r data meintiol ac ansoddol mewn perthynas â pherfformiad yr ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16.
Nododd yr aelodau yr Adroddiad ar Berfformiad a Chyflawniad Ysgolion ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2015-16 a oedd wedi'i rannu i 3 adran ac yn cynnwys:-
· Safonau 2015/16 - roedd yr adran hon yn cynnwys crynodeb o asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2,3,4 a 5. · Deilliannau Arolygiadau Ysgolion, roedd yr adran hon yn cynnwys crynodeb o berfformiad yr ysgolion a gafodd arolygiad gan Estyn yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16. · Datblygu Gwerthoedd a Sgiliau ar gyfer Dysgu Gydol Oes, roedd yr adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ystod eang a chyffrous o gyflawniadau disgyblion. Yn ogystal, bu'r aelodau'n ystyried yr adroddiad yn yr atodiad a oedd yn canolbwyntio ar TGAU Sir Gaerfyrddin a pherfformiad canlyniadau Safon Uwch eraill a ddarparwyd wrth gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Nodwyd y bu'n flwyddyn lwyddiannus i ysgolion Sir Gaerfyrddin gyda pherfformiad cyson o safon ym mhob un o'r dangosyddion allweddol. Nodwyd hefyd y broses gategoreiddio ysgolion yn 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn yr adroddiad perfformiad ar Gyrhaeddiad a Chyflawniad Addysg Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin 2015-16.
|
||||||||||
NODDI'R ŴYL CYFRYNGAU CELTAIDD YN 2018 PDF 187 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Noddi'r ?yl Cyfryngau Celtaidd yn 2018. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am yr ?yl ac yn cynnig bod y Cyngor Sir yn cefnogi'r ?yl drwy ddarparu cymorth ariannol o hyd at £15,000.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod y trafodaethau cychwynnol yn gofyn i’r Cyngor gyllido’r swm cyfan o £30,000. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddai partneriaeth 50/50 yn cael ei ystyried. Er mwyn hwyluso’r gofynion dros nos, byddai’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod y gwyliau er mwyn defnyddio’r llety myfyrwyr ar Gampws y Drindod Dewi Sant.
Roedd yr aelodau'n cydnabod y byddai'r digwyddiad o fudd i'r ardal yn ariannol, gan sefydlu ymhellach lleoliad Sir Gaerfyrddin yn ganolbwynt i'r diwydiant creadigol. Nodwyd pe na bai'r Cyngor yn penderfynu cyflwyno ei ddiddordeb, byddai'r digwyddiad yn debygol o gael ei gynnal gan sir arall yng Nghymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cyllid o hyd at uchafswm o £15,000 i gefnogi'r ?yl Cyfryngau Celtaidd 2018.
|
||||||||||
FERSIWN DIWYGIEDIG O'R POLISI IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd bod yr adroddiad uchod wedi cael ei dynnu oddi ar yr agenda i'w ystyried yn ystod y cyfarfod heddiw, a byddai'n cael ei ystyried yn ystod y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol hyd nes cyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol.
|
||||||||||
CYMORTH ARIANNOL O GRONFA'R GRANT CANLYNOL: Y GRONFA CYLLID A DARGEDIR PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Fforwm Pentref Trimsaran, am gymorth gan y Gronfa Cyllid a Dargedir tuag at gostau cychwynnol y prosiect Llesiant a'r costau i gadw Cydgysylltydd y Ganolfan. Byddai'r Cydgysylltydd yn gyfrifol am wella, ehangu a marchnata Canolfan Hamdden Trimsaran, yn ogystal â sicrhau cyllid i gynnal prosiectau a mentrau ychwanegol gan greu gwell cynaliadwyedd ar gyfer y ganolfan.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-
Ymgeisydd Dyfarniad Fforwm Pentref Trimsaran £19,814.00 |
||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWR A.Ll. PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd G.O. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad ynghylch yr eitem] Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais a oedd wedi dod i law am y lle gwag i Lywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn y sir. PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
[Ail-ymunodd y Cynghorydd G.O. Jones â'r cyfarfod.]</AI17>
|
||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
||||||||||
GWAREDU TIR Â RISGIAU CYSYLLTIEDIG Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 17 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad manwl ar Waredu Tir â Risgiau Cysylltiedig a oedd yn dangos i'r Aelodau ganfyddiadau adolygiad diweddar o dir ac eiddo risg uchel, sydd dros ben ledled Sir Gaerfyrddin.
Nododd yr aelodau yn dilyn yr asesiadau risg a gynhaliwyd, fod nifer o'r safleoedd wedi'u cael eu nodi a'u blaenoriaethau er mwyn eu hystyried, gyda'r nod o symud ymlaen i waredu'r safleoedd. Nododd yr aelodau hefyd bod ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal gydag Aelodau Lleol o ran y safleoedd yn eu wardiau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion a oedd yn yr adroddiad.</AI20>
|
||||||||||
GWERTHU TIR YN NE- LLANELLI Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 17 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar Waredu Tir yn Ne-ddwyrain Llanelli a oedd yn ceisio cynhyrchu derbyniad(au) cyfalaf ar gyfer yr Awdurdod a chyfleoedd posibl am swyddi. Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau uchod i'r aelodau.
Bu'r aelodau yn ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer y lleiniau, gan ystyried effaith bosibl y cynigion ar economi canol y dref.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion fel y'u nodwyd yn yr adroddiad yn amodol ar drafodaethau pellach o ran gwerthu'r llain fwyaf.
|