Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 4ydd Gorffennaf, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd. E. Dole.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd L.D. Evans

7 – Y Polisi Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi (Athrawon)

Mae ei merch yn dysgu yn y sir.

Y Cynghorydd G.O. Jones

7 – Y Polisi Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi (Athrawon)

Mae ei wraig yn dysgu yn Sir Gaerfyrddin.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL (2015/16) A CHYNLLUN GWELLA (2016/17) - DRAFFT. pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol 2015/16 a Chynllun Gwella 2016/17 y Cyngor, a roddai wybodaeth am wasanaethau'r Awdurdod a'u perfformiad. Eglurwyd ei bod yn ofynnol gan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) fod yr Awdurdod yn cyhoeddi Cynllun Gwella cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol ac yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei berfformiad blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Yr oedd yr Awdurdod yn cyfuno'r ddwy ddogfen hyn gan olygu bod modd gwerthuso canlyniadau'r flwyddyn ddiwethaf a chytuno ar y deilliannau yn y dyfodol. Barn y rheoleiddwyr oedd bod cyfuno'r ddau beth yn yr un ddogfen yn arfer da.

 

Cyfeiriwyd at gyflawniadau rhagorol yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol 2015/16 a Chynllun Gwella 2016/17 y Cyngor yn cael eu cymeradwyo.

 

 

6.

SEFYDLIADAU ANIFEILIAID - FFIOEDD TRWYDDEDU. pdf eicon PDF 486 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn crynhoi'r ymatebion a ddaethai i law yn sgil yr ymgynghoriad oedd wedi'i gynnal i gael barn pobl am strwythur ffioedd newydd arfaethedig yr Awdurdod ar gyfer Sefydliadau Anifeiliaid.

 

Ar ôl ystyried yr ymatebion y farn oedd bod angen, yn achos trwyddedau lletya yn y cartref, adolygiad pellach o'r ffioedd ar gyfer y categori hwn.  Y rheswm dros y penderfyniad hwn oedd bod mwyafswm o ran nifer yr anifeiliaid y caniateir i'r gweithredwyr hyn eu lletya yn eu cartrefi, hynny yw 5 yn achos c?n a 6 yn achos cathod. Eglurwyd bod archwilio'r sefydliadau hyn yn llawer llai trafferthus ac yn llawer cynt nag archwilio sefydliadau trwyddedig eraill. Yr oedd graddfa symudol yn ôl nifer yr anifeiliaid yn llawer o'r safleoedd trwyddedig eraill.

 

Felly'r cynnig oedd bod y ffioedd oedd wedi'u pennu trwy ddefnyddio'r pecyn cymorth, yn aros fel yr oeddynt yn flaenorol yn yr adroddiad yn achos yr holl sefydliadau trwyddedig ac eithrio'r rhai oedd yn lletya anifeiliaid yn eu cartrefi eu hunain. Yn achos y bobl oedd yn lletya anifeiliaid yn eu cartrefi eu hunain, y cynnig oedd codi ffi o £242.00 am drwydded ar ymgeiswyr newydd fel yr oeddid wedi'i amlinellu yn y pecyn cymorth ynghylch ffioedd. Yn achos y sefydliadau hynny lle'r oedd trwydded gyfredol ac yn achos adnewyddu trwyddedau, y cynnig oedd lleihau'r ffi hon 50% gan godi £121.00, oherwydd bod angen cynnal ymweliad cyn trwyddedu ar gyfer cais cychwynnol er mwyn cloriannau addasrwydd y safle a bod hynny'n golygu bod gwaith gweinyddol ychwanegol i'w wneud hefyd ar y cychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cymeradwyo mabwysiadu'r ffioedd trwyddedu arfaethedig ar gyfer sefydliadau anifeiliaid, yn amodol ar newid y ffioedd ar gyfer lletya yn y cartref.

 

</AI6>

7.

POLISI DEWISOL DISWYDDO AC YMDDEOLIAD CYNNAR ATHRAWON pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd L.D. Evans a G.O. Jones y cyfarfod cyn i'r Bwrdd ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Polisi Digolledu Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi (Athrawon) fel yr oedd ar hyn o bryd, a hynny mewn perthynas ag athrawon yr oeddid yn dileu eu swyddi, yn ychwanegu tair blynedd at wasanaeth yr athrawon oedd â phum mlynedd neu fwy o wasanaeth pensiynadwy.

 

Eglurwyd taw'r Awdurdod Lleol, sef yr "awdurdod digolledu", oedd yn talu'r buddion hyn yn llawn yn achos rhoi blynyddoedd ychwanegol yn sgil gwaredu swydd ar sail effeithlonrwydd neu ddileu swydd, hynny yw nid oeddid yn defnyddio cyllideb yr ysgol i gyllido hyn. Dywedwyd bod y cyflogwr yn talu'r taliadau digolledu dewisol am weddill oes y pensiynwr.

 

Eglurwyd taw Sir Gaerfyrddin oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru oedd yn dal i ychwanegu blynyddoedd, a'r cynnig oedd tynnu'r ddarpariaeth ynghylch blynyddoedd ychwanegol o'r Polisi Digolledu Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi (Athrawon).  Byddai hyn yn golygu bod y polisi'n unol â Pholisi Digolledu Dewisol (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol) yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cymeradwyo mabwysiadu'r fersiwn diweddaredig o'r Polisi Digolledu Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi (Athrawon).

 

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2016/17 SIR GAERFYRDDIN A'R YMGYNGHORIAD. pdf eicon PDF 589 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod yr eitem hon wedi ei thynnu oddi ar yr agenda.

 

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL BETWS O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Betws o 4-11 oed i 3-11 oed, ac atgoffwyd y Bwrdd ei fod, ar 28ain Gorffennaf 2014 (cofnod 12), wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig.  Yr oedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 7fed Rhagfyr 2015 a 29ain Ionawr 2016, ac yr oedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ym mis Ebrill 2016 yr oedd y Cyngor Sir wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.  Yr oedd yr Hysbysiad Statudol yn caniatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor. Daethai cyfnod yr Hysbysiad Statudol i ben ar 2il Mehefin 2016 ac nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig hwn wedi cychwyn o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer pennu trefniadaeth ysgolion, fod cyfle i'r Bwrdd roi ei sylwadau a chyflwyno argymhelliad i'r Cyngor ynghylch gweithredu, neu fel arall, y cynnig oedd dan sylw yn yr Hysbysiad Statudol.  Gwaetha'r modd, oherwydd cymhlethdod y broses statudol, nid oeddid wedi gallu ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ystod y cam hwn.  Fodd bynnag yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi penderfynu'n unfrydol, yn ystod yr holl gamau blaenorol, gamu ymlaen â'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Betws o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

Petai'r Cyngor yn penderfynu gweithredu'r cynnig byddai ystod oedran Ysgol Gynradd y Betws yn newid o 4-11 oed i 3-11 oed ar 1af Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Betws o 4-11 oed i 3-11 oed, fel yr oeddid wedi manylu ar hynny yn yr Hysbysiad Statudol, yn dod i rym ar 1af Ionawr, 2017.

 

 

10.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL Y BYNEA O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Bynea o 4-11 oed i 3-11 oed, ac atgoffwyd y Bwrdd ei fod, ar 28ain Gorffennaf 2014 (cofnod 12), wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig.  Yr oedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 7fed Rhagfyr 2015 a 29ain Ionawr 2016, ac yr oedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ym mis Ebrill 2016 yr oedd y Cyngor Sir wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol. Yr oedd yr Hysbysiad Statudol yn caniatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor. Daethai cyfnod yr Hysbysiad Statudol i ben ar 2il Mehefin 2016 ac nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig hwn wedi cychwyn o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer pennu trefniadaeth ysgolion, fod cyfle i'r Bwrdd roi ei sylwadau a chyflwyno argymhelliad i'r Cyngor ynghylch gweithredu, neu fel arall, y cynnig oedd dan sylw yn yr Hysbysiad Statudol.  Gwaetha'r modd, oherwydd cymhlethdod y broses statudol, nid oeddid wedi gallu ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ystod y cam hwn.  Fodd bynnag yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi penderfynu'n unfrydol, yn ystod yr holl gamau blaenorol, gamu ymlaen â'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Bynea o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

Petai'r Cyngor yn penderfynu gweithredu'r cynnig byddai ystod oedran Ysgol Gynradd y Bynea yn newid o 4-11 oed i 3-11 oed ar 1af Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Bynea o 4-11 oed i 3-11 oed, fel yr oeddid wedi manylu ar hynny yn yr Hysbysiad Statudol, yn dod i rym ar 1af Ionawr, 2017.

 

</AI10>

 

11.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL PEN-BRE O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 389 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Pen-bre o 4-11 oed i 3-11 oed, ac atgoffwyd y Bwrdd ei fod, ar 28ain Gorffennaf 2014 (cofnod 12), wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig.  Yr oedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 7fed Rhagfyr 2015 a 29ain Ionawr 2016, ac yr oedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ym mis Ebrill 2016 yr oedd y Cyngor Sir wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.  Yr oedd yr Hysbysiad Statudol yn caniatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor.  Daethai cyfnod yr Hysbysiad Statudol i ben ar 2il Mehefin 2016 ac nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig hwn wedi cychwyn o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer pennu trefniadaeth ysgolion, fod cyfle i'r Bwrdd roi ei sylwadau a chyflwyno argymhelliad i'r Cyngor ynghylch gweithredu, neu fel arall, y cynnig oedd dan sylw yn yr Hysbysiad Statudol.  Gwaetha'r modd, oherwydd cymhlethdod y broses statudol, nid oeddid wedi gallu ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ystod y cam hwn. Fodd bynnag yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi penderfynu'n unfrydol, yn ystod yr holl gamau blaenorol, gamu ymlaen â'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Pen-bre o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

Petai'r Cyngor yn penderfynu gweithredu'r cynnig byddai ystod oedran Ysgol Gynradd Pen-bre yn newid o 4-11 oed i 3-11 oed ar 1af Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Pen-bre o 4-11 oed i 3-11 oed, fel yr oeddid wedi manylu ar hynny yn yr Hysbysiad Statudol, yn dod i rym ar 1af Ionawr, 2017.

 

 

12.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL GYNRADD PWLL O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Pwll o 4-11 oed i 3-11 oed, ac atgoffwyd y Bwrdd ei fod, ar 28ain Gorffennaf 2014 (cofnod 12), wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig.  Yr oedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 7fed Rhagfyr 2015 a 29ain Ionawr 2016, ac yr oedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ym mis Ebrill 2016 yr oedd y Cyngor Sir wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.  Yr oedd yr Hysbysiad Statudol yn caniatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor.  Daethai cyfnod yr Hysbysiad Statudol i ben ar 2il Mehefin 2016 ac nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig hwn wedi cychwyn o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer pennu trefniadaeth ysgolion, fod cyfle i'r Bwrdd roi ei sylwadau a chyflwyno argymhelliad i'r Cyngor ynghylch gweithredu, neu fel arall, y cynnig oedd dan sylw yn yr Hysbysiad Statudol.  Gwaetha'r modd, oherwydd cymhlethdod y broses statudol, nid oeddid wedi gallu ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ystod y cam hwn. Fodd bynnag yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi penderfynu'n unfrydol, yn ystod yr holl gamau blaenorol, gamu ymlaen â'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Pwll o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

Petai'r Cyngor yn penderfynu gweithredu'r cynnig byddai ystod oedran Ysgol Gynradd y Pwll yn newid o 4-11 oed i 3-11 oed ar 1af Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Pwll o 4-11 oed i 3-11 oed, fel yr oeddid wedi manylu ar hynny yn yr Hysbysiad Statudol, yn dod i rym ar 1af Ionawr, 2017.

 

14.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

15.

DEFNYDDIO ARIAN GWERTHIANT ER MWYN GWNEUD GWELLIANNAU I GYFFORDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 14 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyo defnyddio derbyniadau cyfalaf i wneud gwaith gwella cyffordd ar gyfer prif gynllun ailddatblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo defnyddio'r derbyniadau cyfalaf penodedig i wneud y gwaith gwella cyffordd oedd dan sylw yn yr adroddiad.