Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol oedd wedi eu cynnal ar 21ain Mawrth ac ar 11eg Ebrill 2016 gan eu bod yn gywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
DEDDF YR AMGYLCHEDD 1995 YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS YNGHYLCH ANSAWDD AER CAERFYRDDIN PDF 283 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 8 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 11eg Mai 2015 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch y bwriad i gyflwyno Ardal Rheoli Ansawdd Aer yng Nghaerfyrddin. Yng ngoleuni’r sylwadau a nodwyd yn yr adroddiad penderfynwyd peidio â diwygio’r map gwreiddiol o'r ffiniau arfaethedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
6.1 bod Gorchymyn yn cael ei gyflwyno sy'n nodi ffin Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar gyfer Caerfyrddin, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; 6.2 sefydlu Gr?p Llywio a fydd yn cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol i gynorthwyo â datblygu Cynllun Gweithredu; 6.3 datblygu Cynllun Gweithredu yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a fydd yn mynd ati i wella ansawdd aer a lleihau lefelau nitrogen deuocsid o fewn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer.
|
|
DEDDF YR AMGYLCHEDD 1995 YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS YNGHYLCH ANSAWDD AER LLANELLI PDF 265 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 11eg Mai 2015 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch y bwriad i gyflwyno Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn Llanelli. Yn sgil yr ymgynghoriad roedd y map o'r ffiniau arfaethedig wedi cael ei ddiwygio i gynnwys Heol y Sandy a Bassett Terrace.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
7.1 bod Gorchymyn yn cael ei gyflwyno sy'n nodi ffin Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar gyfer Llanelli, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; 7.2 sefydlu Gr?p Llywio a fydd yn cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol i gynorthwyo â datblygu Cynllun Gweithredu; 7.3 datblygu Cynllun Gweithredu yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a fydd yn mynd ati i wella ansawdd aer a lleihau lefelau nitrogen deuocsid o fewn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 12 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30ain Tachwedd 2015 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws presennol y gwasanaeth archifau ac yn amlinellu’r asesiadau o leoliadau posibl ar gyfer Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin. Yn sgil cyfarfodydd safle ag amrywiol adrannau, barn y swyddogion oedd mai estyniad i du cefn Llyfrgell Caerfyrddin fyddai’r lleoliad mwyaf amlwg ar gyfer Gwasanaeth Archifau newydd Sir Gaerfyrddin. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd, byddai swyddogion yn mynd ati i lunio cynlluniau manwl a chostau ar gyfer y safle. Roedd yr ymchwiliadau cychwynnol wedi dangos bod digon o le ar y safle ar gyfer popeth sydd ei angen, ac y dylai fod modd cyflawni’r cynllun yn unol â’r gyllideb gyfalaf sydd wedi'i dyrannu. Diolchodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden i bawb a fu’n rhan o symud materion ymlaen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 nodi statws y Gwasanaeth Archifau presennol;
8.2 cymeradwyo'r argymhelliad i leoli Gwasanaeth Archifau newydd Sir Gaerfyrddin y tu cefn i Lyfrgell Caerfyrddin.
|
|
Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - ADOLYGIAD DWYFLYNYDDOL PDF 421 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.]
|
|
CYMORTH ARIANNOL O GRANT CRONFA'R DEGWM PDF 334 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais i Gronfa’r Degwm gan Fenter Mynyddoedd Cambrian am gyllid tuag at gynnig ‘Gwytnwch Cymunedol a Pharc Natur’.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi grant o £3,000 i Fenter Mynyddoedd Cambrian mewn perthynas â’r prosiect uchod yn amodol ar y telerau a nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
CAIS I'R GRONFA DATBLYGU PDF 498 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gais gan yr Adran Cymunedau i'r Gronfa Ddatblygu am gymorth ariannol i adnewyddu offer ffitrwydd a chynyddu’r lleoedd ffitrwydd yn rhai o gyfleusterau hamdden yr Awdurdod. Y cyllid y gwnaed cais amdano oedd £600,000.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 11.1 cymeradwyo rhoi swm o £600,000 ar gyfer adnewyddu offer ffitrwydd a chynyddu'r lleoedd ffitrwydd yn rhai o gyfleusterau hamdden yr Awdurdod;
11.2 bod maen prawf rhif 5 y Gronfa Ddatblygu yn cael ei osod o'r neilltu yng nghyswllt y cais hwn;
11.3 bod yr ad-daliad am y cynllun uchod yn para dros gyfnod o bedair blynedd;
11.4 o ystyried y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd yn y Gronfa Ddatblygu, er mwyn rhoi'r cynllun hwn ar waith, bod swm o £500,000 yn cael ei drosglwyddo o'r gronfa wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer Yswiriant i'r Gronfa Ddatblygu, gan ad-dalu'r swm hwn ar gyfradd o £125,000 y flwyddyn dros y pedair blynedd.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 552 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw am y cyfnod o 1af Ebrill, 2015 i 29ain Chwefror, 2016.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £793,000 ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £638,000 ar lefel adrannol. Rhagwelid tanwariant o £2.8m yn y Cyfrif Refeniw Tai. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 12.1 derbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb;
12.2 bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol er mwyn cadw'r gwariant yn unol â'r gyllideb a ddyrannwyd.
|
|
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2015-16 PDF 436 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2015/16, fel yr oedd ar 28ain Chwefror, 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y penderfyniadau a'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol [Chwefror 2016] i'w gynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau presennol y Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2016/17. Yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor roedd yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun ar gyfer Lwfansau'r Aelodau a gydymffurfiai â gofynion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Yn ogystal roedd yr Adroddiad yn manylu ar argymhellion Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i’r Cyngor ar gyfer y cyfarfod ar 11eg Mai 2016. Roedd yr Aelodau yn ansicr ynghylch pa mor ‘annibynnol’ oedd y Panel mewn gwirionedd ac roeddent o'r farn y dylid ystyried lwfansau Cynghorwyr yn erbyn y galwadau arnynt a’r cyfrifoldebau a roddir iddynt, a hynny yn achos Aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn benodol, o gymharu ag Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Hefyd y farn oedd ei bod yn annhebygol y byddai pobl iau’n cael eu hannog i sefyll mewn etholiadau lleol oni bai ei bod yn economaidd ymarferol iddynt wneud hynny. PENDERFYNWYD YN UNFRYFOL fabwysiadu argymhellion Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i’r Cyngor.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD
NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
CAM 2 FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS - PRYNU TIR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Gan gyfeirio at gofnod 3 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2il Mehefin 2014 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran datblygu’r prosiect uchod a’r angen i brynu darnau o dir, lle bo’r angen, er mwyn ei gyflawni. Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am ffynonellau cyllid posibl yn y dyfodol ar gyfer y prosiect.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 16.1 nodi'r cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran y prosiect ers i'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo'r Llwybr a Ffefrir ym mis Mehefin 2014; 16.2 cymeradwyo defnyddio pwerau Prynu Gorfodol, yn ôl yr angen.
|
|
LLWYBR BEICIO DYFFRYN TYWI - PRYNU TIR Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnydd a oedd wedi’i wneud o ran y prosiect uchod a’r angen i brynu darnau o dir, lle bo’r angen, er mwyn ei gyflawni. Byddai’r cynllun yn darparu llwybr cerdded a beicio diogel rhwng Caerfyrddin a Llandeilo gan ddefnyddio’r hen reilffordd drwy Ddyffryn Tywi. Y weledigaeth yw: ‘Creu cyfleuster teithio llesol o'r radd flaenaf yn Nyffryn Tywi sy'n cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo ac, yn sgil hynny, cysylltu cymunedau, creu cyfleoedd twristiaeth, a hybu teithio diogel, cynaliadwy ac iach.’. Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am ffynonellau cyllid posibl yn y dyfodol ar gyfer y prosiect.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 17.1 nodi’r cynnydd a oedd wedi’i wneud o ran y prosiect; 17.2 cymeradwyo prynu tir sydd ei angen ar gyfer y prosiect; 17.3 cymeradwyo defnyddio pwerau Prynu Gorfodol yn ôl yr angen.
|