Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 4ydd Mehefin, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.A.L. Evans

8 - Cartrefi Croeso Ltd - Gofynion Ariannu, Penodi Cyfarwyddwyr a Dirprwyo Cytundeb Cyfranddaliwr

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin

H.A.L. Evans

17 - Strategaeth Digartrefedd

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin

P.M. Hughes

18 - Diwygiad i Bolisi Adnewyddu Tai’r Sector Preifat

Landlord yn y sector preifat

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

5.1

5ED CHWEFROR, 2018 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018 yn gofnod cywir.

5.2

30AIN EBRILL, 2018; pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2018 yn gofnod cywir.

5.3

14EG MAI, 2018. pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 yn gofnod cywir.

6.

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r ffrydiau cyllido cysylltiedig yn ffurfiol.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, ynghyd â'r tri awdurdod lleol sef Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, wedi cytuno i lofnodi Cytundeb Bargen Ddinesig (Penawdau Telerau) werth cyfanswm o £1.3 biliwn, a oedd wedi'i lofnodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar 20 Mawrth 2017. Ar ôl hynny, roedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi bod yn gweithredu ar ffurf gysgodol i gadw'r momentwm a datblygu'r trefniadau llywodraethu er mwyn galluogi i'r rhanbarth gyflawni'r rhaglen. Roedd hyn yn cynnwys llunio'r Cydgytundeb i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol y byddai Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cydymffurfio ag ef.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod trafodaethau hefyd wedi'u cynnal â Llywodraeth Cymru, lle cytunwyd ar y canlynol fel rhan o drefniadau gweithredu'r Fargen Ddinesig:-

·        Byddai awdurdodau lleol y Fargen Ddinesig yn gallu cadw 50% o elw net ychwanegol yr ardrethi annomestig a gynhyrchir gan y 11 prosiect a fydd yn cael eu cyflawni fel rhan o'r fargen;

·        Byddai awdurdodau lleol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gallu defnyddio hyblygrwydd o ran cyllid mewn perthynas â gwariant y prosiect ar sail refeniw, fel y manylwyd yn y Cydgytundeb.

Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai angen i'r adroddiad gael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 13 Mehefin 2013, os yw'n cael ei gymeradwyo, a chan dri awdurdod lleol arall Bargen Ddinesig Bae Abertawe erbyn diwedd mis Gorffennaf 2018.

 

Cyfeiriwyd at rôl y Cyngor fel awdurdod arweiniol y Fargen Ddinesig, a mynegodd Aelodau'r Bwrdd eu gwerthfawrogiad i holl Swyddogion y Cyngor am eu hymrwymiad a'u hymroddiad wrth arwain prosiect y fargen ddinesig dros y ddwy flwyddyn ddiweddaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

6.1

Gymeradwyo'r gwaith o sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r strwythur llywodraethu cysylltiedig;

6.2

Bod Cytundeb Cyd-bwyllgor Drafft yn cael ei gymeradwyo a bod y Prif Weithredwr, gan ymgynghori â'r Arweinydd, yn cael yr awdurdod dirprwyedig i wneud mân newidiadau i'r Cytundeb fel y bo angen ac fel y cytunwyd arnynt gan yr awdurdodau partner, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn cwblhau'r Cytundeb;

6.3

Cymeradwyo sefydliad Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

6.4

Cymeradwyo'r cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfrannu £50k fesul blwyddyn dros 5 blynedd er mwyn talu rhan o gostau gweithredu'r Cyd-bwyllgor, y Bwrdd Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen, y Cyd-bwyllgor Craffu, y Corff Atebol a swyddogaethau'r Swyddfa Ranbarthol ac yn cymeradwyo'r egwyddor y darperir cyllid pellach yn gyfateb i frigdoriad 1.5% o ddyraniad cyllid y Fargen Ddinesig, a bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, gan ymgynghori â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, yn cytuno ar ddarpariaeth y cyllid hwn;

6.5

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol (Swyddog Adran 151) yn cael ei awdurdodi i archwilio a gweithredu'r dull mwyaf priodol o fenthyca cymesur er mwyn cyllido prosiectau rhanbarthol a gyflawnir mewn ardaloedd sy'n perthyn i'r Cyngor;

6.6

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cael ei awdurdodi i gyd-drafod â Chyd-gyfarwyddwyr ynghylch y sail dyrannu mwyaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Fersiwn Ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23. Os caiff ei mabwysiadu, byddai'n cymryd lle'r strategaeth bresennol a gyhoeddwyd yn 2015, yn ogystal â chyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

-  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

-  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol

   2009;

- yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r    Dyfodol (Cymru) 2015 - nid oedd angen newid y rhain bob blwyddyn, na’u cyflawni o fewn blwyddyn ac roedd nodi amcanion sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon;

-  Prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a Rhaglenni am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf”.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod Fersiwn Ddrafft y Strategaeth wedi bod yn destun ymgynghoriad â Phwyllgorau Craffu'r Cyngor a bod nifer o newidiadau ac eglurhad wedi'u gwneud ar ôl hynny er mwyn adlewyrchu barn y Pwyllgorau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

7.1

Cyflwyno Strategaeth Gorfforaethol newydd i ddisodli’r Strategaeth Gorfforaethol bresennol a gyhoeddwyd yn 2015, er mwyn cynnwys yr Amcanion Llesiant a'r Amcanion Gwella a chan gwmpasu'r prosiectau a’r rhaglenni allweddol a nodir yn "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf";

7.2

Cadw'r un set o Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 ynghyd ag amcan ychwanegol ar Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.

 

8.

CARTREFI CROESO CYF - GOFYNION ARIANNU, PENODI CYFARWYDDWYR A DIRPRWYO CYTUNDEB CYFRANDDALIWR pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a gadawodd Siambr y Cyngor yn ystod y trafodaethau)

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, wedi cytuno i sefydlu cwmni tai cyngor ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor er mwyn adeiladu tai i'w gwerthu a'u rhentu a bod yn gatalydd ar gyfer gweithgareddau adfywio pellach. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a fanylodd ar y canlynol:

-        Gofynion ariannu'r cwmni - gan gynnwys Cynllun Busnes lefel uchel 2018-2023 y cwmni;

-        Y broses ar gyfer penodi cyfarwyddwyr;

-        Dirprwyo Cytundeb Cyfranddaliwr.

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at benodiad a rôl cyfarwyddwyr y cwmni, a gofynodd sut y byddai'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, yn mesur llwyddiant y cwmni o ran ansawdd, maint, cyllid a phrydlondeb, a sut y byddai Cynghorwyr Sir yn gallu cael gwybod am y ffactorau hynny, er enghraifft drwy Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Pwyllgor Craffu - Cymunedau, neu drwy ddull arall.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai gan y cwmni bum cyfarwyddwr, sef dau Swyddog Cyngor (heb dâl), un Cynghorydd Sir (heb dâl) a dau allanol (gyda thâl) i'w penodi gan y Prif Weithredwr, yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt a chan ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor. Byddai llwyddiant y cwmni yn cael ei fesur a'i fonitro gan ddefnyddio'r Cynllun Busnes, a allai fod angen ei adolygu maes o law. Byddai Swyddog Adran 151 y Cyngor yn gyfrifol am fonitro hynny a sicrhau bod buddiannau'r Cyngor yn cael eu cynnal.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai Cynllun Busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau bob blwyddyn. Hefyd ni welai unrhyw reswm pam na ddylai'r cwmni lunio adroddiad blynyddol i'w gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

Gofynion Ariannu

8.1

Nodi Cynllun Busnes lefel uchel 2018 – 2023 y Cwmni, sydd wedi'i ddatblygu gan Adran Dai / Cyfarwyddiaeth Cymunedau y Cyngor, a fydd yn cael ei fireinio yn dilyn astudiaethau dichonoldeb manwl y prosiect a'r ymchwiliadau safle;

8.2

Cytuno ar y costau i sefydlu'r Cwmni yn 2017/18 o'r cyllidebau refeniw presennol at uchafswm o £100,000;

8.3

Cytuno ar Fenthyciad Costau Gweithredu i'r Cwmni mewn perthynas â'i gostau gweithredu yn 2018/19 hyd at uchafswm o £280,000.Bydd hyn yn cael ei drosglwyddo ymlaen llaw, yn chwarterol ac mewn cyfrannau o 25%;

8.4

Cytuno ar Fenthyciad Datblygu Prosiect pellach hyd at uchafswm o £750,000, i'w ryddhau mewn cyfrannau y cytunwyd arnynt er mwyn datblygu manylion busnes y cwmni i'r Cyngor eu hystyried ymhellach. Bydd y benthyciad hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud cynnydd ar y canlynol:

·        Gwerthusiad datblygu pellach o wyth safle, gan gynnwys 2 brosiect gwledig.Bydd hyn yn cynnwys prisiad manwl, cymorth gwladwriaethol, cyngor cyfreithiol a chyngor ynghylch trethiant;

·        Ymchwiliadau safle / cynigion datblygu cynllun cynhwysfawr a manwl ar gyfer tri safle, gan gynnwys  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,421k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £220k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant diwedd blwyddyn o £57k.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb.

10.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf mewn perthynas â chyllideb 2017/18, fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018. Byddai'r arian llithriad yn y flwyddyn o £-10, 843k yn cael ei gynnwys yn rhaglen y blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRUDOL dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B.

 

11.

CYFRADDAU BUSNES – CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI'R STRYD FAWR 2018/19 pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, sydd â'r nod o ddarparu cymorth i fanwerthwyr y stryd fawr megis siopau, tafarnau a bwytai y mae eu hardrethi wedi cynyddu o ganlyniad i'r gwaith ailbrisio a wnaed gan y Swyddfa Brisio yn 2017. Nodwyd bod y cynllun yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac y byddai'n darparu £170k o ryddhad i oddeutu 600 o fusnesau yn y Sir.

 

Gan mai mesur dros dro oedd y cynllun, dywedwyd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond byddai'n caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn sydd ar gael o dan Adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Yn unol â hynny, byddai angen i'r Cyngor fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

11.1

fod y Cyngor yn mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ar gyfer 2018/19 yn ffurfiol;

11.2

bod rhyddhad yn cael ei roi, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

11.3

bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yn penderfynu ynghylch unrhyw geisiadau nad ydynt o fewn cwmpas penodol y canllawiau neu y bydd angen rhoi ystyriaeth benodol iddynt.

 

12.

STRATEGAETH CAFFAEL 2018-2022 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 256 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Strategaeth Gaffael arfaethedig ar gyfer 2018-2022, a oedd â'r nod o gael fframwaith ar waith er mwyn sicrhau bod gan benderfyniadau comisiynu a chaffael rôl allweddol o ran cefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol a Chynllun Llesiant y Cyngor. Amlinellodd y Strategaeth flaenoriaethau o ran sut y byddai'r broses gaffael yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni'r nodau hynny, a dyma'r blaenoriaethau allweddol:-

·        Gwario arian yn effeithiol;

·        Gweithredu prosesau a gweithdrefnau sy'n cydymffurfio;

·        Cynnal a datblygu'r economi leol;

·        Cefnogi cyd-weithio.

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at ddefnydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gofynodd a yw hwnnw'n orfodol.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodaeth gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau nad yw'n orfodol a bod y Cyngor wedi eithrio o'r Gwasanaeth sawl gwaith o'r blaen er mwyn cefnogi busnesau lleol yn Sir Gaerfyrddin, lle bo'n bosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Strategaeth Caffael Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-2022.

13.

CÔD YMARFER LLWYODRAETH CYMRU – CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch mabwysiadu Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chyflogaeth Foesegol mewn Cadwyn Gyflenwi y disgwylir i bawb sy'n derbyn cyllid y sector cyhoeddus gydymffurfio ag ef.

 

Nodwyd bod y Côd yn trafod chwe phwnc allweddol, gan gynnwys 12 argymhelliad, sy'n amrywio o arferion anghyfreithlon ac anfoesegol i arferion da ac arferion gorau. Yn ogystal, os caiff ei fabwysiadu, disgwylir y byddai'r Cyngor hefyd yn penodi Hyrwyddwr Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

13.1

fod y Cyngor yn ymrwymo'n ffurfiol i Gôd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyn Gyflenwi ac yn cytuno i gydymffurfio â'r 12 ymrwymiad sydd â'r nod o gael gwared ar gaethwasiaeth a chefnogi arferion moesegol o ran cyflogaeth.

13.2

fod y Cynghorydd D. Jenkins, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn cael ei benodi fel Hyrwyddwr Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol y Cyngor.

 

14.

GRANT GWISG YSGOL pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i'r Awdurdod sefydlu cynllun er mwyn darparu cymorth ariannol i deuluoedd difreintiedig tuag at gost Gwisg Ysgol newydd wrth symud i ysgolion uwchradd, fel y nodir yn Atodiad 1, yn lle'r cynllun blaenorol a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi dod i ben fel rhan o gyllideb 2018/19.

 

PENDERFYNWYD YN UNRYDOL sefydlu cynllun lleol ar gyfer helpu teuluoedd difreintiedig â chost gwisg ysgol, wrth symud i ysgolion uwchradd, a hynny ar ôl i Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru ddod i ben.

15.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 6 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch canlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a gynhaliwyd ynghylch cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210. Nodwyd bod y cynnig wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, os bydd yn fodlon nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad ac wedi cael ei gyhoeddi yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol gan ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, y dylai'r Cyngor wireddu'r cynnig fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Statudol.

16.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I DDARPARU DARPARIAETH FEITHRIN YN YSGOL PARC Y TYWYN DRWY GYNYDDU YR YSTOD OEDRAN O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 7 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch canlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a gynhaliwyd ynghylch cynigion i ddarparu addysg feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11. Nodwyd bod y cynnig wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, os bydd yn fodlon nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad ac wedi cael ei gyhoeddi yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol gan ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, y dylai'r Cyngor wireddu'r cynnig fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Statudol.

17.

STRATEGAETH DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ond arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y penderfyniad)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch datblygu Strategaeth Digartrefedd yn unol â gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 a roddodd dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Amlinellodd yr adroddiad y dull a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod hyd yn hyn a'r 5 maes allweddol isod i fynd i'r afael â hwy cyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol erbyn y dyddiad cau ym mis Rhagfyr 2018:-

Ø  Adolygiad o'r data a'r wybodaeth;

Ø  Ymgysylltu â rhanddeiliaid;

Ø  Datblygiad y Strategaeth a Datganiad o Egwyddorion;

Ø  Datblygu'r Cynlluniau Gweithredu Lleol;

Ø  Ymgynghoriad Cyhoeddus Ffurfiol ynghylch y Strategaeth Ddrafft a'r Cynllun Gweithredu.

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at y mater o'r rhai sy'n cysgu ar soffas ffrindiau neu yn yr awyr agored, a gofynnodd a fyddai'n bosibl gofyn iddynt pam yr oeddent yn ddigartref a beth allai'r Awdurdod ei wneud i'w helpu cyn iddynt fod mewn sefyllfa anodd iawn.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod y berthynas rhwng yr adran a'r bobl ddigartref yn bwysig a bod sesiynau 1:1 yn cael eu cynnal gyda chleientiaid fel rhan o'r broses o adeiladu eu hyder a'u hymddiriedaeth er mwyn eu cynorthwyo i newid eu sefyllfa. Er bod casglu gwybodaeth yn rhan bwysig o wasanaeth allgymorth y Cyngor, mae'n rhaid derbyn na fyddai rhai pobl yn hoffi rhannu gwybodaeth bersonol.

 

O ran cwestiwn ynghylch lefel yr ymgynghoriad a gynhelir, cadarnhawyd y gallai'r awdurdod gysylltu ag undebau ffermio. Yn ogystal, byddai unrhyw berson/sefydliad yn cael ei groesawu i ymateb i'r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

17.1

gymeradwyo'r dull a'r cynllun ymgynghori;

17.2

Cadarnhau bwriad y Cyngor i ddatblygu cyfleoedd i weithio ar sail ranbarthol.

 

18.

NEWID I'R POLISI ADNEWYDDU TAI Y SECTOR PREIFAT pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd P.M. Hughes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr yn ystod y trafodaethau)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried newid i Bolisi Adnewyddu Tai Sector Preifat y Cyngor sy'n adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i'w gynllun Benthyciad Gwella Cartrefi a'i gynllun Troi Tai'n Gartref. Fel rhan o'r cynnig hynny, byddai'r Awdurdod yn derbyn £1.25m i gefnogi pob math o gymorth ariannol er mwyn i berchnogion t? gynnal a chadw eu cartrefi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu meini prawf diwygiedig cynllun Benthyciad Gwella Cartrefi a chynllun Troi Tai'n Gartref Llywodraeth Cymru a diwygio Polisi Adnewyddu Tai Sector Preifat y Cyngor er mwyn adlewyrchu'r newidiadau hynny.

19.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL TAI FFORDDIADWY - DIWEDDARIAD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ddiweddariad i Ganllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy'r Cyngor - Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin. Nodwyd mai bwriad y diweddariad oedd rhoi rhagor o eglurdeb am ddehongli a gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig. Byddai hyn hefyd yn cynorthwyo gyda dealltwriaeth a defnyddioldeb y Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

Yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd D. Cundy am eglurhad ynghylch diffiniad y term 'Tai Fforddiadwy' ac am bwy a oedd yn gyfrifol am bennu eu cost; y datblygwr neu'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, y Dirprwy Arweinydd, at baragraff 2.2 ar dudalen 439 yr adroddiad, a amlinellai’r diffiniad o Dai Fforddiadwy fel y manylwyd arno yn Nodyn Cyngor Technegol 2 Llywodraeth Cymru - Cynllunio a Thai Fforddiadwy 2006. Roedd hynny'n cynnwys diffiniad o Dai Cymdeithasol ar Rent a Thai Canolradd lle roedd prisiau neu rhenti'n uwch na'r rheiny ar gyfer tai cymdeithasol ar rent ond islaw prisiau a rhenti tai ar y farchnad a oedd yn cynnwys modelau perchentyaeth cost isel megis ecwiti a rennir neu gynlluniau prynu â chymorth. O ran pennu pris tai fforddiadwy ac unrhyw swm cyfnewid i'w dalu, gwneir hynny drwy gyd-drafod â datblygwyr yn unol â gofynion polisi, a nodwyd yn y CDLl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

19.1

gymeradwyo'r diweddariad i'r Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy;

19.2

dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Cynllunio gywiro gwallau argraffu, gwallau cartograffig neu wallau gramadegol a gwneud diwygiadau er mwyn gwella'r cywirdeb a gwneud yr ystyr yn gliriach cyn eu cyhoeddi;

 

20.

FERSIWN DIWYGIEDIG O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 CYTUNDEB CYFLAWNI DRAFFT pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cytundeb Cyflawni Drafft mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau'n ffurfiol ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig (newydd) yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ar 23 Mawrth. Nodwyd y byddai angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo, yn amodol ar fod y Cyngor yn cadarnhau'r Cytundeb Drafft.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r amserlen ar gyfer ceisiadau am gynnwys safleoedd ymgeisio'n cael ei estyn o ddiwedd mis Mai i 29 Awst 2018, o ganlyniad i lythyr am baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a'u hamserlenni, a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2018 gan Lesley Griffiths A.C., Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

20.1

nodi'r sylwadau a chadarnhau'r argymhellion a ddaeth i law o ran y Cytundeb Cyflawni Drafft.

20.2

cymeradwyo'r newidiadau i'r amserlen.

20.3

cymeradwyo cyflwyniad y Cytundeb Cyflawni (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad) i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi gytuno arno

20.4

Nodi'r estyniad i'r cyfnod ymgynghori ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisio i 29 Awst 2018.

 

21.

STRATEGAETH FEICIO SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 376 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin a oedd â'r nod o sicrhau bod gan y cyngor gyfeiriad strategol clir sy'n cefnogi ei uchelgeisiau i fod yn arweinydd cenedlaethol o ran darparu digwyddiadau a datblygiadau seilwaith beicio, gan gyfrannu at ddyhead y Cyngor i fod yn ganolbwynt beicio Cymru a hefyd bodloni nifer o amcanion a nodir yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, Strategaeth Feicio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad bod 54% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin dros bwysau neu'n ordew yn ôl CDLl Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd eglurdeb ynghylch y datganiad yn yr adroddiad gan ymgynghorwyr sy'n gweithio ar y CDLl, prif ffynhonell y wybodaeth hon oedd Carmarthenshire Heart - Cit Offer Gordewdra Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cadarnhaodd y byddai'r Strategaeth yn cael ei diwygio i adlewyrchu'r brif ffynhonnell honno.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at yr agwedd gymdeithasol ar lwybrau beicio a'r angen i baratoi mapiau lleol i roi gwybod i'r cyhoedd am ffyrdd priodol o gael mynediad at siopau a lleoliadau cymdeithasol eraill ac ati drwy lonydd cefn ac a fyddai'n bosibl llunio mapiau o'r math.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod Map Teithio Llesol y Cyngor ar gael ar ei wefan; mae'n cynnwys 17 map o ardaloedd lleol sy'n manylu ar lwybrau cerdded a beicio fel ei gilydd. Yn ogystal, drwy ddefnyddio cyfleuster 'Lleol-i' ar y wefan, gall y cyhoedd gael mynediad i wybodaeth am lwybrau cyhoeddus yn eu hardal leol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin.

22.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADau SY’N YMWNEUD Â’R MATERion CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

23.

CANOLFAN ALWADAU RHYDAMAN/SWYDDFEYDD PARC AMANWY

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 22 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Swyddfeydd Parc Amanwy y Cyngor ac adeilad yr hen ganolfan alwadau yn Rhydaman.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad.

24.

GWERTHU TIR YN: DE-DDWYRAIN LLANELLI A CHANOL TREF LLANELLI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 22 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion mewn perthynas â gwerthiant tir yn ne-ddwyrain Llanelli a chanol tref Llanelli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad.