Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens. |
|||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020, gan eu bod yn gywir. |
|||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||
CWM ENVIRONMENTAL LTD GOFYNIAD CYLLID BENTHYCIADAU PDF 468 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gais a gafwyd gan CWM Environmental Ltd (is-gwmni dan berchnogaeth lwyr yr awdurdod) am fenthyciad o £800k gan yr awdurdod i ariannu'r gost ar gyfer y canlynol:
1. Adleoli ei swyddfeydd presennol o Heol Allt-y-cnap, Tre Ioan i'w safle yn Nant-y-caws; 2. ildio prydles swyddfeydd Allt-y-cnap - sydd yn dod i ben ym mis Mai, 2020; 3. Caffael rhydd-ddaliad 58 erw ychwanegol o dir yn union wrth ymyl safle Nant-y-caws, er mwyn sicrhau'r tir ar gyfer datblygiad y cwmni yn y dyfodol.
Dywedwyd wrth y Bwrdd am delerau'r benthyciad arfaethedig, fel y manylir arno yn yr adroddiad, a gefnogwyd gan Fwrdd Cyfarwyddwyr y cwmni a Bwrdd y Cyfranddalwyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL Y DYLID ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cytuno i roi benthyciad i CWM Environmental Ltd yn amodol ar y telerau canlynol:
|
|||||||||||
AILDDATBLYGU ORIEL MYRDDIN PDF 866 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i ailddatblygu Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin i gael ei ariannu ar y cyd gyda chymorth cynnig grant amodol o £1m gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynghyd â mewnbwn cyfalaf gan y Cyngor Sir, gyda'r gost wirioneddol yn dibynnu ar yr opsiwn ailddatblygu a ddewisir. Cyflwynwyd y pedwar opsiwn canlynol i'r Bwrdd eu hystyried:- 1. Symud ymlaen gyda chynllun cam 3 presennol RIBA, yr opsiwn a ffefrir – cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £ 890k; 2. Cyd-leoli gyda Hwb Caerfyrddin yn yr adeilad presennol - cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £ 890k; 3. Cyd-leoli gyda Hwb Caerfyrddin ar Heol y Brenin trwy brynu/prydlesu adeiladau cyfagos i ddarparu'r gofod gofynnol - cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £1.640m; 4. Cynnal y sefyllfa bresennol – cyllid o £100k gan y Cyngor i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, pe bai'n bwriadu cymeradwyo'r cynigion ailddatblygu ar gyfer yr Oriel, byddai'r gymeradwyaeth honno yn amodol ar y Cyngor yn dyrannu cyllid i'r cynllun yn ei gyfarfod cyllideb i'w gynnal ar 3 Mawrth 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylai'r Cyngor fwrw ymlaen ag ailddatblygu Oriel Myrddin ar sail Opsiwn 1, ar yr amod bod y Cyngor yn dyrannu cyllid i'r cynllun yn ei gyfarfod cyllideb i'w gynnal ar y 3 Mawrth 2020. |
|||||||||||
CYNLLUN CARBON SERO-NET PDF 487 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror, 2019, wedi mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig canlynol sef:
1. Datgan Argyfwng Hinsawdd, 2. ymrwymo i ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030, 3. datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod carbon sero-net o fewn 12 mis, 4. galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol, 5. gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon, 6. cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r trydydd sector i ddatblygu atebion arloesol i ddod yn awdurdod carbon sero-net.
Yn unol â phenderfyniad y Cyngor, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi llwybr tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, yn ei gyfarfod ar 15Tachwedd 2019, wedi argymell i'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo'r cynllun.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gyflwyno proses ar gyfer penderfynu ar gynigion i ffedereiddio ysgolion. (Cynigion a arweinir gan yr Awdurdod Lleol) ac, yn benodol, dirprwyo'r penderfyniad hwnnw i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.
Dywedwyd wrth y Bwrdd bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020, wedi argymell y dylai'r Bwrdd Gweithredol ymgymryd â'r penderfyniad ar y cynigion ffedereiddio ac nid yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid dirprwyo'r gymeradwyaeth ar gyfer gweithredu'r Cynigion i Ffedereiddio Ysgolion (dan arweiniad yr Awdurdod Lleol) i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant. |
|||||||||||
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL (DRAFFT) PDF 270 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft y Cyngor 2020-24, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a oedd yn cynnwys Dyletswydd Sector Cyhoeddus newydd, gan ddisodli'r dyletswyddau ar wahân o ran hil, anableddau a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Nodwyd bod Dyletswydd Gyffredinol y Ddeddf yn cynnwys y nodweddion gwarchodedig a nodir isod, gyda'r nod o sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallent gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas dda yn eu gweithgareddau pob dydd:- · Oed · Anabledd · Ailbennu rhywedd · Priodas a phartneriaeth sifil · Beichiogrwydd a mamolaeth · Hil · Crefydd neu Gred · Rhyw · Cyfeiriadedd rhywiol
Roedd y Ddyletswydd Gyffredinol yn gydnaws â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda chydraddoldeb a chydlyniant yn amlwg fel dau o'r saith nod llesiant.
Nododd y Bwrdd fod y cynllun wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR EI FOD YN:
|
|||||||||||
PANEL YMGYNGHOROL ADOLYGU CLUDIANT I'R YSGOL PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020, ei fod wedi cytuno i sefydlu Panel Ymgynghorol Cludiant i’r Ysgol sy'n cynnwys yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ynghyd â 6 aelod ar sail drawsbleidiol. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar Gylch Gorchwyl arfaethedig y Panel ynghyd â'r aelodaeth arfaethedig fel a ganlyn, a enwebwyd gan grwpiau gwleidyddol y Cyngor:-
Gr?p Plaid Cymru (3) Y Cynghorwyr Mansel Charles, Ann Davies, Ken Howell.
Gr?p Llafur (1) Cynghorydd Dot Jones
Y Gr?p Annibynnol (1l) Y Cynghorydd Irfon Jones
Y Gr?p Annibynnol Newydd (1) Y Cynghorydd Louvain Roberts
Cyfeiriodd y Cynghorydd D Cundy, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11, at aelodaeth drawsbleidiol y Panel Ymgynghorol ar Gludiant Ysgol a gofynnodd a ddylai gynnwys 2 aelod o bob gr?p gwleidyddol a bod y cyfarfodydd yn cael eu gwe-ddarlledu yn ysbryd gonestrwydd, a bod yn agored a thryloyw.
Atgoffodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y Bwrdd am y newid yn neddfwriaeth y llywodraeth a oedd wedi arwain at y sefyllfa bresennol. Cadarnhaodd fod aelodau arfaethedig y Panel Ymgynghorol yn drawsbleidiol, gyda chynrychiolwyr o bob un o bleidiau gwleidyddol y Cyngor. Er nad oedd cyfarfodydd y Panel Ymgynghorol yn gyfarfodydd cyhoeddus, ac nid oedd unrhyw gynlluniau i'w gwe-ddarlledu, byddai argymhellion y Panel yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol, ac mae cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol yn cael eu gwe-ddarlledu
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl ac aelodaeth y Panel Ymgynghorol ar Gludiant Ysgol ar draws y pleidiau. |
|||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|