Agenda item

AILDDATBLYGU ORIEL MYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i ailddatblygu Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin i gael ei ariannu ar y cyd gyda chymorth cynnig grant amodol o £1m gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynghyd â mewnbwn cyfalaf gan y Cyngor Sir, gyda'r gost wirioneddol yn dibynnu ar yr opsiwn ailddatblygu a ddewisir. Cyflwynwyd y pedwar opsiwn canlynol i'r Bwrdd eu hystyried:-

1.    Symud ymlaen gyda chynllun cam 3 presennol RIBA, yr opsiwn a ffefrir – cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £ 890k;

2.    Cyd-leoli gyda Hwb Caerfyrddin yn yr adeilad presennol - cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £ 890k;

3.    Cyd-leoli gyda Hwb Caerfyrddin ar Heol y Brenin trwy brynu/prydlesu adeiladau cyfagos i ddarparu'r gofod gofynnol - cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £1.640m;

4.    Cynnal y sefyllfa bresennol – cyllid o £100k gan y Cyngor i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, pe bai'n bwriadu cymeradwyo'r cynigion ailddatblygu ar gyfer yr Oriel, byddai'r gymeradwyaeth honno yn amodol ar y Cyngor yn dyrannu cyllid i'r cynllun yn ei gyfarfod cyllideb i'w gynnal ar 3 Mawrth 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylai'r Cyngor fwrw ymlaen ag ailddatblygu Oriel Myrddin ar sail Opsiwn 1, ar yr amod bod y Cyngor yn dyrannu cyllid i'r cynllun yn ei gyfarfod cyllideb i'w gynnal ar y 3 Mawrth 2020.

Dogfennau ategol: