Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/01/2019
Effective from: 13/12/2018
Penderfyniad:
6.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:
W/37655 |
Newid defnydd tir fferm yn ddwy lain i deithwyr-sipsiwn (gydag ystafelloedd dydd), tir sydd i'r de o Brynhowell, Llanddowror, SA33 4HN
|
W/37690 |
Gwella'r fynedfa bresennol i'r coetir i ganiatáu i goed gael eu symud, y fynedfa i Goedwig Fasnachol Allt Werncorgam, i'r gorllewin o Lanllwch, Caerfyrddin, SA31 3QY
Cafwyd sylw a oedd yn mynegi pryderon ynghylch y cynllun rheoli traffig.
Ymatebodd yr ymgeisydd i'r materion a godwyd.
Cafwyd sylw arall a oedd yn mynegi pryder ynghylch pa mor serth oedd rhan o'r llwybr arfaethedig ac effaith gronnol ceisiadau cynllunio ar draffig yn yr ardal.
|
W/37831 |
Gwydr o'r golwg ar ochrau'r tai yn lleiniau 4 a 5. Newid arddull dormer Llain 4 a 5, Cae Coch, tir ger Heol Cwm Mawr, Drefach, Llanelli
|
W/38027 |
Newid defnydd yr ysgubor bresennol yn llety gwyliau, Parcnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA
[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd C. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno]
|
W/35898 |
Adeiladu gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors, cae ger Hafod Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Tachwedd, penderfynodd yr Aelodau wrthdroi argymhelliad y Swyddog i wrthod caniatâd cynllunio a'i gymeradwyo ar gyfer y datblygiad arfaethedig, gyda rhestr o amodau priodol i'w dychwelyd i'r Pwyllgor i'w cadarnhau.
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr amodau yn yr adroddiad. |
6.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais canlynol i ryddhau'r Cytundeb Adran 106, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ar y sail nad oes diben defnyddiol i'r adeilad bellach a'i bod yn rhesymol rhyddhau'r cytundeb ar ôl 19 o flynyddoedd.
W/37164 |
Rhyddhau Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gais cynllunio W/02153, lle y byddai defnydd preswyl y ffermdy presennol yn dod i ben ac i'r t? gael ei ddefnyddio at ddibenion storio amaethyddol yn lle hynny, Fferm Cystanog, Heol Capel Dewi, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA32 8AY
Roedd y Pwyllgor am gymeradwyo rhyddhau'r Cytundeb Adran 106 yn amodol ar gyflwyno cais ffafriol i adfer yr hen breswylfa ac yn amodol ar weithredu'n unol â chyfyngiad o ran anghenion lleol a thai fforddiadwy.
|
6.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r amodau a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol, y rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog ar 27 Tachwedd, 2018:-
W/35898 |
Adeiladu gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors, cae ger Hafod Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin
|
6.4 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle:-
W/37267 |
Adeiladu 2 breswylfa tair ystafell wely (1 fforddiadwy, 1 ar y farchnad agored), tir ger Llys Briallu, Sarnau, Bancyfelin, SA33 5EA
RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle a'r mynediad.
|
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/11/2018 - Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/12/2018
Effective from: 16/11/2018
Penderfyniad:
“Esboniwch y strwythurau llywodraethu rydych wedi'u rhoi ar waith a sut rydych yn sicrhau eu bod nhw wedi'u halinio'n strategol â'r prif risgiau y mae'r llu'n eu hwynebu”
Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod strwythur llywodraethu'r Llu wedi'i symleiddio'n sylweddol ym mis Medi 2017. Cyhoeddodd fod y strwythur ar hyn o bryd yn cael ei adolygu o safbwynt y themâu canolog sef risgiau a chyllid. Cynigiodd y Comisiynydd ei fod yn cylchredeg cynllun o strwythur 2017 i'r Panel.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/11/2018 - Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/12/2018
Effective from: 16/11/2018
Penderfyniad:
“Esboniwch yn benodol sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol, Gwrthderfysgaeth, Gweithrediadau Arbennig a Gweithgareddau Cudd-wylio”
Adroddodd y Comisiynydd fod y Swyddfa Gartref yn ddiweddar wedi lansio Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, sy'n ffurfio'r sail ar gyfer dal y Prif Gwnstabl i gyfrif ar y materion hyn. Nododd ei fod yn ddiweddar wedi adolygu Strategaeth Reoli'r Llu ar gyfer Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, yn arbennig ynghylch cyffuriau Dosbarth A. Cyhoeddodd, mewn ymateb i bryderon cymunedol ar draws ardal Dyfed-Powys, y bydd adroddiad 'Deep Dive' sydd ar y gweill yn craffu'n fanwl ar y mater yn ymwneud â chyffuriau Dosbarth A. Pwysleisiodd y Comisiynydd ei fod ef a'r Prif Gwnstabl yn ymwneud â mentrau ar y cyd ar droseddau difrifol a chyfundrefnol gyda heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, megis Gr?p Plismona Cymru gyfan, yr Uned Drylliau Tanio ar y Cyd a chyfarfodydd y Bwrdd Plismona bob pythefnos. Gyda golwg ar gudd-wylio, esboniodd y Comisiynydd fod ei arolygiaeth ar y Prif Gwnstabl yn dibynnu ar arolygiadau blynyddol yr Awdurdod Cudd-wylio o'r Llu. Nododd fod yr adroddiad arolygu diweddaraf o fis Ebrill 2018 yn pwysleisio cydymffurfiad uchel y Llu a dim ond mân argymhellion a wnaed ganddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Panel, eglurodd y Comisiynydd nad oes gan ei Swyddfa gyfrifoldeb ffurfiol am recriwtio Dirprwy Brif Gwnstabl a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol. Adroddodd ei fod wedi gwrthod cynnig y Prif Gwnstabl i fod yn rhan o'r broses. Fodd bynnag, roedd Pennaeth Staff y Comisiynydd yn rhan o broses recriwtio'r Dirprwy Brif Gwnstabl.
Soniodd un o'r aelodau mewn termau cadarnhaol am gyflwyniad Heddlu Dyfed-Powys ar linellau sirol, a rhoddodd anogaeth i'r Panel dderbyn y deunyddiau er gwybodaeth. Pwysleisiodd y Comisiynydd fod llinellau sirol yn fater allweddol a chynigiodd fod y deunyddiau yn cael eu darparu i'r Panel.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gwytnwch system TG yr heddlu, dywedodd y Comisiynydd fod pwysigrwydd y mater yn cael ei adlewyrchu yn y treuliau TG sylweddol. Nododd ei fod hefyd ei fod yn aelod o'r Bwrdd Plismona Digidol Cenedlaethol a Bwrdd TGCh yr Heddlu, sy'n gweithio ar y cyd ar draws Cymru a Lloegr.
Yngl?n â'r peryglon o adael Ewrop heb gytundeb, adroddodd y Comisiynydd ei fod yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif 'i fod yn barod.’ Dywedodd fod y Llu yn gwneud gwaith paratoi ar y cyd ag asiantaethau partner megis fforymau gwytnwch lleol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y bydd y Llu yn cael mynediad at aelod o'r tîm Brexit Cymru Gyfan.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2018 - Cyngor Sir
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/09/2018
Effective from: 12/09/2018
Penderfyniad:
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 2Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ynghylch y cynigion i gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli. Pe byddai'n cael ei fabwysiadu byddai'r Gorchymyn yn caniatáu ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd o fewn ardal ofodol benodol yng nghanol y dref i symud ymlaen heb fod yr angen am ganiatâd cynllunio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:
“9.1 Derbyn y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli; |
9.2 Cymeradwyo'r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad; |
9.3 Cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno; |
9.4 Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Gorchymyn Datblygu Lleol; |
9.5 Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion ddiweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.” |
Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Gweithredol I sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol o’r enw Llesiant Delta Wellbeing Ltd, rhoddwyd awdurdod dirprwyedig I’r Cyfarwyddwr Cymunedau a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gytuno ar y strwythau Llywodraethu mewn perthynas a’r cwmni.
Mae’r strwythurau hyn wedi’I cwblhau bellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwyr Cymunedau a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/09/2018
Effective from: 11/09/2018
Penderfyniad:
1. Cymeradwyo’r Trefniadau Llywodraethu ar gyfer Llesiant Delta Wellbeing Ltd fel y nodir yn y Cytundeb Cyfranddalwyr rhwng y Cyngor a’r Cwmni
2. Yn unol ag awdudod dirprwyedig a roddwyd yn flaenorol gan y Bwrdd Gweithredol
Ystyried a phenderfynu (ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin fel Awdurdod Cofrestru) ar sail ei rinweddau cyfreithiol, y cais am gofrestru tir a elwir Caeau Hamdden neu Gaeau Chwarae Llanerch, fel Maes Pentref neu Faes Tref o dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, dyddiedig 1af Mawrth 2017 ac a wnaed gan Ms Sharon Burdess.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Prif Weithredwr
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2018
Effective from: 07/08/2018
Penderfyniad:
Gwrthod y cais a pheidio ag ychwanegu unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, at y gofrestr statudol o Feysydd Tref neu Bentref a gynhelir dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
Ystyried terfynu'r Cytundeb Cyd-fenter presennol â Llywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/07/2018
Effective from: 13/07/2018
Penderfyniad:
Yn unol â'r Awdurdod Dirprwyedig a roddwyd imi gan y Bwrdd Gweithredol ar 4ydd Mehefin 2018 (gweler cofnod 23) yr wyf yn fodlon bod y telerau yr wyf wedi eu trafod, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn briodol i'r Awdurdod ac felly’n cymeradwyo setlo a dod â chyfran Llywodraeth Cymru yn y Gyd-fenter i ben yn gynnar.
Cadarnhau trefniadau llywodraethu a rheoli'r cwmni teckal newydd arfaethedig ar gyfer rheoli gwastraff gan gynnwys cytuno ar ei Erthyglau Cymdeithasu.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/06/2018
Effective from: 27/06/2018
Penderfyniad:
Sefydlu'n ffurfiol y cwmni newydd sef "CWM Environmental Limited” sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal yn unol â'i Erthyglau Cymdeithasu a'i strwythur llywodraethu newydd.
Prif swyddog: Chris Moore
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/01/2018 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/02/2018
Effective from: 23/01/2018
Penderfyniad:
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 16 Tachwedd 2017), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y pryderon oedd wedi'u lleisio ynghylch y cynnydd mewn traffig a fyddai'n digwydd yn sgil y datblygiad arfaethedig, er diogelwch cerddwyr, yn enwedig y plant sy'n cerdded i'r ysgol ac o'r ysgol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Cyfeiriwyd yn benodol at hanes cynllunio'r safle mewn perthynas â chymeradwyo cais cynllunio W/09082 yn 2008, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu manteision i'r gymuned, y ffaith fod y gymeradwyaeth honno wedi dod i ben yn 2013, a phenderfyniad Arolygydd Llywodraeth Cymru i gynnwys y safle yn ei hadolygiad rhwymol ynghylch yr CDLl, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2014 heb unrhyw ofynion neu amodau penodol y bydd y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt o dan W/09082 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ganiatâd cynllunio newydd. O ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai angen ystyried y cais yn unol â deddfwriaeth gynllunio statudol bresennol, gan gynnwys Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010, a osodai gyfyngiadau ar y defnydd o Rwymedigaethau Cynllunio Adran 106, ac felly ni ellid cynnwys y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol yn y cais newydd. Fodd bynnag, pe byddai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais, byddai dal angen i'r ymgeisydd gychwyn ar Gytundeb Adran 106 a fyddai'n cynnwys cyfraniad o £26k at addysg gynradd ac uwchradd yn nalgylch y safle, a gwelliannau i'r priffyrdd gan gynnwys darparu llwybr troed ar hyd rhan flaen y safle hyd at bentref Broadway.
I grynhoi, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar fod yr ymgeisydd yn cychwyn ar Gytundeb Adran 106.
Cyflwynwyd sylwadau ar y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol fel rhan o gais cynllunio W/09082 ac yn benodol, ar y problemau o ran trosglwyddo perchnogaeth tir. Dadleuwyd y dylai'r datblygwr gynnwys y manteision hynny fel rhan o unrhyw gais cynllunio newydd a gymeradwyir ar gyfer y tir. Cyflwynwyd sylwadau ychwanegol ar y mynedfeydd ar wahân ar gyfer yr elfennau tai fforddiadwy a'r tai preifat o'r datblygiad arfaethedig, a chysylltu'r elfennau hynny â'i gilydd er mwyn osgoi eu gwahanu.
Mewn ymateb i'r sylwadau, rhoddwyd gwybod gan asiant y Datblygwr bod y cais wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth ac na chyflwynwyd dim gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion statudol, yn amodol ar amodau priodol, a'i fod hefyd yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. O ran y gymeradwyaeth flaenorol, a'r cytundeb Adran 106, roedd y rheiny wedi dod i ben a byddai angen ystyried unrhyw gymeradwyaeth newydd a'r cytundeb Adran 106, yn unol â deddfwriaeth gyfredol yn ogystal â sicrhau eu bod yn berthnasol, yn angenrheidiol, yn rhesymol a'u bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol. O ran safle'r elfen Tai Fforddiadwy, roedd hynny wedi'i benderfynu mewn ymgynghoriad â darparwr tai cymdeithasol arfaethedig er mwyn lleoli'r datblygiad wrth ochr ei ystâd, Cwrt Woodford, am resymau rheoli. Gofynnodd am i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais, fel yr argymhellir gan y Pennaeth Cynllunio, gan fod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio presennol.
Cyfeiriodd yr Uwch-gyfreithiwr at y caniatâd cynllunio blaenorol a chadarnhaodd, pan ddaeth i ben yn 2013, fod y Cytundeb Adran 106 hefyd wedi dod i ben. O ganlyniad, byddai angen i unrhyw gais newydd am ddatblygu'r safle gael ei ystyried yng nghyd-destun polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol presennol yn ogystal ag adroddiad sylwadau Arolygydd Llywodraeth Cymru.
Ymatebodd y Pennaeth Cynllunio a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
O ystyried y sylwadau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai'r broses o ystyried y cais gael ei gohirio er mwyn galluogi'r Pennaeth Cynllunio i gael trafodaethau pellach â'r ymgeisydd ynghylch pa fanteision a fyddai'n cael eu darparu i'r gymuned, gan ystyried polisi SP16 y Cynllun Datblygu Unedol, a hefyd sôn am y pryderon a godwyd ynghylch y mynedfeydd ar wahân i'r safle a bod y diffyg cyswllt rhwng y ddwy elfen yn cael effaith negyddol ar breswylwyr, yn enwedig y plant sy'n gorfod cerdded ar hyd y briffordd gyhoeddus i Ysgol Talacharn.
PENDERFYNWYD gohirio'r broses o ystyried cais cynllunio W/35450 i alluogi'r Pennaeth Cynllunio i drafod ymhellach â'r ymgeisydd y materion a godwyd uchod.