Mater - penderfyniadau

TEST QUESTION

13/12/2018 - QUESTION BY COUNCILLOR WILLIAM POWELL

“Esboniwch yn benodol sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol, Gwrthderfysgaeth, Gweithrediadau Arbennig a Gweithgareddau Cudd-wylio”

 

Adroddodd y Comisiynydd fod y Swyddfa Gartref yn ddiweddar wedi lansio Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, sy'n ffurfio'r sail ar gyfer dal y Prif Gwnstabl i gyfrif ar y materion hyn. Nododd ei fod yn ddiweddar wedi adolygu Strategaeth Reoli'r Llu ar gyfer Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, yn arbennig ynghylch cyffuriau Dosbarth A. Cyhoeddodd, mewn ymateb i bryderon cymunedol ar draws ardal Dyfed-Powys, y bydd adroddiad 'Deep Dive' sydd ar y gweill yn craffu'n fanwl ar y mater yn ymwneud â chyffuriau Dosbarth A. Pwysleisiodd y Comisiynydd ei fod ef a'r Prif Gwnstabl yn ymwneud â mentrau ar y cyd ar droseddau difrifol a chyfundrefnol gyda heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, megis Gr?p Plismona Cymru gyfan, yr Uned Drylliau Tanio ar y Cyd a chyfarfodydd y Bwrdd Plismona bob pythefnos. Gyda golwg ar gudd-wylio, esboniodd y Comisiynydd fod ei arolygiaeth ar y Prif Gwnstabl yn dibynnu ar arolygiadau blynyddol yr Awdurdod Cudd-wylio o'r Llu. Nododd fod yr adroddiad arolygu diweddaraf o fis Ebrill 2018 yn pwysleisio cydymffurfiad uchel y Llu a dim ond mân argymhellion a wnaed ganddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Panel, eglurodd y Comisiynydd nad oes gan ei Swyddfa gyfrifoldeb ffurfiol am recriwtio Dirprwy Brif Gwnstabl a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol. Adroddodd ei fod wedi gwrthod cynnig y Prif Gwnstabl i fod yn rhan o'r broses. Fodd bynnag, roedd Pennaeth Staff y Comisiynydd yn rhan o broses recriwtio'r Dirprwy Brif Gwnstabl.

 

Soniodd un o'r aelodau mewn termau cadarnhaol am gyflwyniad Heddlu Dyfed-Powys ar linellau sirol, a rhoddodd anogaeth i'r Panel dderbyn y deunyddiau er gwybodaeth. Pwysleisiodd y Comisiynydd fod llinellau sirol yn fater allweddol a chynigiodd fod y deunyddiau yn cael eu darparu i'r Panel.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gwytnwch system TG yr heddlu, dywedodd y Comisiynydd fod pwysigrwydd y mater yn cael ei adlewyrchu yn y treuliau TG sylweddol. Nododd ei fod hefyd ei fod yn aelod o'r Bwrdd Plismona Digidol Cenedlaethol a Bwrdd TGCh yr Heddlu, sy'n gweithio ar y cyd ar draws Cymru a Lloegr.

 

Yngl?n â'r peryglon o adael Ewrop heb gytundeb, adroddodd y Comisiynydd ei fod yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif 'i fod yn barod.’ Dywedodd fod y Llu yn gwneud gwaith paratoi ar y cyd ag asiantaethau partner megis fforymau gwytnwch lleol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y bydd y Llu yn cael mynediad at aelod o'r tîm Brexit Cymru Gyfan.