Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Safonau

Diben y Pwyllgor

Mae gan Bwyllgor Safonau 9 aelod; 5 aelod annibynnol; 1 cynrychiolydd cymunedol a benodwyd gan y cynghorau cymuned yn y Sir; a 3 o aelodau etholedig y Cyngor Sir.

Yn unol â gofynion statudol mae’r Pwyllgor yn cynnwys mwyafrif o aelodau annibynnol

 

Cylch gwaith y pwyllgor safonau

1.    Hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Gynghorwyr, aelodau cyfethol a chynrychiolwyr eglwys a rhieni lywodraethwyr.

2.    Cynorthwyo cynghorwyr, aelodau cyfethol a chynrychiolwyr eglwys a rhieni lywodraethwyr i ddilyn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau;

3.    Cynghori'r Cyngor ar fabwysiadu neu ddiwygio'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau;

4.    Monitro gweithrediad y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau;

5.    Cynghori, hyfforddi neu drefnu hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr, aelodau cyfethol a chynrychiolwyr eglwys a rhieni lywodraethwyr ar faterion sy'n gysylltiedig â'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

6.    Caniatáu gollyngiadau ar gyfer Cynghorwyr, aelodau cyfethol a chynrychiolwyr eglwys a rhieni lywodraethwyr, o ofynion sy'n gysylltiedig â buddiannau a bennir yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

7.    Delio gydag adroddiadau o dribiwnlys achos neu dribiwnlys achos cyfamserol, ac unrhyw adroddiad gan y Swyddog Monitro ar unrhyw fater a gyfeiriwyd at y swyddog hynny gan y Comisiynydd Lleol yng Nghymru.

8.    Gweithredu'r swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 1-7 uchod mewn perthynas â'r Cynghorau Cymuned sydd yn llwyr neu yn bennaf o fewn Sir Gaerfyrddin ac aelodau'r Cynghorau Cymuned hynny.

9.    Derbyn adroddiadau blynyddol am weithrediad gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chwynion a datgelu camymddygiad gyda golwg ar ymgorffori cyfeiriadau at y materion hynny yn adroddiad blynyddol y pwyllgor.

 

CEISIADAU AM OLLYNGIAD

 

Mae Pwyllgor Safonau Sir Gaerfyrddin yn gyfrifol am benderfynu ynghylch ceisiadau am ollyngiad gan aelodau o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chynghorau Tref a Chymuned Sir Gaerfyrddin.

Mewn rhai amgylchiadau gellir caniatáu gollyngiad i aelodau sy'n eu galluogi i gymryd rhan ym musnes y Cyngor lle y byddai hyn yn cael ei wahardd fel arall oherwydd bod buddiant rhagfarnol gan yr aelod. Cyhyd â bod yr aelodau yn gweithredu yn unol â thelerau eu gollyngiad bernir nad yw'r Côd Ymddygiad wedi'i dorri.

·         Lawrlwythwch Côd Ymddygiad Cyngor Sir Caerfyrddin (.pdf)

Mae llyfryn cwestiynau i'w holi eich hun  - Buddiannau Personol,  yn gallu cynorthwyo Cynghorwyr Sir a Thref a Chymuned i benderfynu a oes angen gollyngiad i gymryd rhan ym myd busnes y Cyngor.

 

Gall cynghorwyr gyflwyno cais am ollyngiad i Bwyllgor Safonau Sir Gaerfyrddin trwy gwblhau'r ffurflen atodedig. Dychwelwch at y Swyddog Monitro, Adran y Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP neu e-bostiwch y ffurflen at Swyddogmonitro@sirgar.gov.uk

 

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2022-2023

 

Gwybodaeth pellach:-

 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Aelodaeth

  • Mary Dodd  (Cadeirydd)  Aelod Annibynnol Y Pwyllgor Safonau
  • Caryl Davies  (Aelod y Pwyllgor)  Aelod Annibynnol Y Pwyllgor Safonau
  • Daphne Evans  (Aelod y Pwyllgor)  Aelod Annibynnol Y Pwyllgor Safonau
  • Frank Phillips  (Aelod y Pwyllgor)  Aelod Annibynnol Y Pwyllgor Safonau
  • Philip Rogers  (Aelod y Pwyllgor) 
  • Cyng. Betsan Jones  (Aelod y Pwyllgor)  Cyngor Sir Gar / Carmarthenshire County Council
  • Cyng. Gareth Thomas  (Aelod y Pwyllgor)  Cyngor Sir Gar / Carmarthenshire County Council
  • Lle Gwag  (Aelod y Pwyllgor)  Cyngor Sir Gar / Carmarthenshire County Council
  • Lle Gwag  (Aelod y Pwyllgor) 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau