Agenda item

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - CROSSHANDS SERVICE STATION, HEOL CROSSHANDS, GORSLAS, SIR GAERFYRDDIN.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Motor Fuel Ltd i amrywio'r drwydded safle ar gyfer Crosshands Service Station, Heol Cross Hands, Gors-las, Sir Gaerfyrddin, SA14 6RR i ganiatáu:-

 

Cyflenwi Alcohol:-

Dydd Llun i Ddydd Sul 00:00 – 24:00

Lluniaeth Hwyrnos:-

Dydd Llun i Ddydd Sul 23:00 – 05:00

Oriau agor:-

Dydd Llun i Ddydd Sul 00:00 – 24:00

Newid i'r Cynllun Presennol

 

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·       Atodiad A - Copi o'r cais

·       Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·       Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

·       Atodiad D - copi o drwydded gyfredol y safle

 

Nid oedd yr awdurdodau cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at sylwadau Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad B), a thynnodd sylw'r Is-bwyllgor at ddogfen B6 yn yr atodiad hwnnw trwy'r hwn yr oedd yr Heddlu wedi tynnu ei sylwadau yn ôl yn ffurfiol yn dilyn dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch y materion arfaethedig i'w cynnwys mewn unrhyw amrywiad a gymeradwyir i amodau rhifau 1-15 y drwydded yn eu sylwadau gwreiddiol a nodir yn Atodiad B1-B3. Gyda golwg ar y sylwadau a gyflwynwyd gan barti â diddordeb (Atodiad C), gan nad oedd y parti hwnnw'n bresennol yn y cyfarfod, byddai angen i'r Is-bwyllgor roi sylw i'w sylwadau ysgrifenedig wrth drafod y cais.

 

Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd wrth yr Is-bwyllgor fod y cais i amrywio'r drwydded mewn dwy ran. Roedd y rhan gyntaf yn ymwneud â gwerthu alcohol am 6 awr ychwanegol rhwng 00.00 p.m. a 06:00 a.m., a fyddai'n golygu bod y safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol 24 awr y dydd, gan gyfateb felly i'w oriau gweithredu. Roedd angen yr ail ran, sef ar gyfer gwerthu lluniaeth hwyrnos, er mwyn gallu gwerthu diodydd twym rhwng  23:00 a 05:00 yn unig, ac ni fyddai'n golygu gwerthu cludfwyd twym.

 

Dywedodd fod y cais yn cydymffurfio â chanllawiau'r Cyngor a'r canllawiau statudol. Nid oedd unrhyw awdurdodau cyfrifol, ar wahân i Heddlu Dyfed-Powys, wedi cyflwyno sylwadau ar y cais, gyda'r Heddlu yn dilyn hynny wedi tynnu ei sylwadau yn ôl ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch cynnwys amodau ychwanegol yn y drwydded amrywio. Gyda golwg ar rôl yr awdurdodau cyfrifol yn y broses Drwyddedu, tynnodd sylw'r Is-bwyllgor at Baragraff 9.12 y Canllawiau Statudol, yn enwedig rôl yr Heddlu trwy'r hyn y dylai Awdurdodau Trwyddedu dderbyn ei gyngor oni bai bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno fel arall.

 

Ar hynny cyfeiriodd at y sylwadau a gafwyd gan Gyngor Cymuned Gors-las, fel y nodir yn atodiad C1, a oedd yn gwrthwynebu'r cais am gael gwerthu alcohol am chwe awr ychwanegol yn unig, ac nid yr elfen Lluniaeth Hwyrnos, a gwnaeth y sylwadau canlynol gyda golwg ar y canlynol:-

 

-        Pwynt 1 yn ymwneud ag agosrwydd y safle at Barc Gors-las. Teimlid na fyddai'r amrywiad, ar gyfer yr oriau rhwng 00.00 tan 06.00, yn effeithio ar ddefnydd y parc gan deuluoedd a phlant.

-        Pwynt 2 yn ymwneud â chynyddu'r alcohol a fyddai ar gael yn yr ardal a'r posibilrwydd o fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn y parc. Er bod cytundeb y byddai'r cais, pe bai'n cael ei ganiatáu, yn cynyddu'r alcohol a fyddai ar gael, nid oedd unrhyw awdurdod cyfrifol, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, wedi cyflwyno unrhyw sylwadau ynghylch yr agwedd honno.

-        Pwynt 3 a'r ffaith fod digon o alcohol ar gael o'r allfeydd presennol. Dadleuwyd nad oedd penderfynu ar sail angen yn fater perthnasol y gallai'r Is-bwyllgor ei ystyried yn gyfreithlon oni bai fod y safle o fewn Ardal Effaith Gronnol, nad oedd yn wir.

-        Pwynt 4, a'r pryder y gallai'r cynnydd mewn alcohol a fyddai ar gael effeithio'n andwyol ar iechyd. Dadleuwyd mai'r ffactor allweddol oedd cymeriant alcohol, ac nid argaeledd alcohol.

 

Ar hynny amlinellodd ymagwedd ei gleient tuag at werthu alcohol a'i weithdrefnau sefydledig gyda golwg ar hyn a oedd yn cynnwys mabwysiadu 'Her 25', hyfforddiant rheolaidd ac awdurdodiad ar gyfer staff sy'n gwerthu alcohol, trefnau arolygu rheolaidd a chadw logiau o wrthod gwerthu alcohol a logiau monitro dyddiol ac wythnosol a defnyddio teledu cylch cyfyng. Dywedodd fod ei gleientiaid yn gweithredu 413 o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig, gyda llawer ohonynt mewn pentrefi; roedd 390 o'r rheiny'n gwerthu alcohol, gyda thua 200 wedi'u trwyddedu i werthu alcohol 24 awr y dydd.

 

I grynhoi, gofynnodd i'r Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais am y chwe awr ychwanegol ar y sail na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i'r perwyl y byddai gwerthu alcohol yn ystod yr amser hwnnw yn mynd yn groes i'r amcanion trwyddedu, dylid penderfynu ar y cais yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd ac nid ar sail pryderon am effaith bosibl yn y dyfodol, y gellid mynd i'r afael â hwy drwy adolygu'r drwydded, ac nid oedd unrhyw awdurdod cyfrifol wedi gwrthwynebu'r cais.  Gyda golwg ar elfen Lluniaeth Hwyrnos y cais, gofynnodd am i hyn hefyd gael ei gymeradwyo ar y sail ei fod yn ymwneud â gwerthu diodydd twym yn unig ac nid cludfwydydd twym ac na wnaed unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hwnnw.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:-

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am amrywio trwydded safle Crosshands Service Station, Heol Cross Hands, Gors-las, Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar fod y drwydded amrywio yn cynnwys amodau 1-15 a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys, fel y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd.

 

Y RHESYMAU:-

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:-

 

  1. Nid oedd unrhyw dystiolaeth fod yna hanes o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol ar y safle neu yn gysylltiedig â'r safle
  2. Nid oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu'r cais
  3. Nid oedd unrhyw sylwadau wedi dod i law oddi wrth yr awdurdodau cyfrifol eraill
  4. Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno fod y mesurau rheoli ychwanegol y gofynnodd yr heddlu amdanynt yn dod yn amodau trwydded.

 

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr heddlu ac ar y ffaith na chafwyd unrhyw sylwadau gan yr awdurdodau cyfrifol eraill.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon ac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y sylwadau a wnaed gan Gyngor Cymuned Gors-las ac roedd yn derbyn fod y pryderon a fynegwyd yn rhai diffuant. Fodd bynnag, nid oedd p'un a oedd yna ddigon o alcohol ar gael yn yr ardal eisoes yn fater y gallai'r Is-bwyllgor roi ystyriaeth gyfreithlon iddo wrth wneud ei benderfyniad. Ymhellach, nid oedd y sylwadau ynghylch agosrwydd y safle at Barc Cyhoeddus Gors-las, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac unrhyw effaith ar iechyd y cyhoedd yn cael eu cefnogi gan unrhyw dystiolaeth a ddangosai, yn ôl yr hyn a oedd yn debygol, y byddai'r materion hyn pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu yn tanseilio un neu fwy o'r amcanion trwyddedu statudol.

 

Ar sail y dystiolaeth a roddwyd ger ei fron roedd yr Is-bwyllgor felly'n fodlon nad oedd yna reswm dros fynd yn groes i farn yr heddlu sef bod caniatáu'r cais yn amodol ar amodau'r drwydded y cytunwyd arnynt yn ymateb priodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn ymateb cymesur i'r materion a godwyd.

 

 

Dogfennau ategol: