Agenda item

APWYNTIADAU'R TIM RHEOLI CORFFORAETHOL.

Cofnodion:

[SYLWER:  Gadawodd Mrs W. Walters, Prif Weithredwr Cynorthwyol, y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]

 

Ystyriodd y Cyngor adroddiad a oedd yn manylu ar gynigion ar gyfer recriwtio Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant  a Chyfarwyddwr Adfywio a Pholisi.

 

Yn dilyn ymarfer recriwtio blaenorol ym mis Tachwedd 2016 lle cafwyd 2 gais yn unig, penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen i benodi Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant parhaol a chytunwyd ar drefniadau dros dro hyd nes y byddai ymarfer recriwtio pellach yn cael ei gynnal ddiwedd blwyddyn academaidd 2016/17.

 

Ym mis Mai 2015 cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor Sir a oedd yn nodi'r cynnig ar gyfer adlinio Uwch Dîm Rheoli'r Awdurdod.  Fel rhan o'r cynigion hynny, crëwyd swydd newydd sef Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi). Ers hynny mae'r swydd wedi tyfu'n sylweddol i gynnwys cyfrifoldebau ychwanegol sy'n cynnwys elfennau allweddol o'r swyddogaeth Eiddo Corfforaethol.  Yn ogystal â hyn, mae prosiect arloesol Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn wedi'i gymeradwyo a bydd 11 o brosiectau mawr bellach yn mynd rhagddynt gan roi hwb o £1.8 biliwn i'r economi leol a chreu bron i 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.  Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol gyfrifol am arwain a rheoli gweinyddiaeth a chydymffurfiaeth prosiectau gwerth £241m. 

 

Yng ngoleuni'r uchod, cynigiwyd creu swydd Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi er mwyn ysgogi a chefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor i ddatblygu'r Fargen Ddinesig.  Byddai'r swydd hon yn disodli, ac nid yn ychwanegol at swydd bresennol y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) a fyddai wedyn yn cael ei hystyried yn ddiangen.

 

Cafodd y cynnig ei gyflwyno a'i eilio.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:-

 

“Er mwyn sicrhau mai'r bobl fwyaf disglair a'r bobl orau sy'n ymgeisio am y swyddi dan sylw, ac er mwyn dangos ein hymrwymiad i'r addewidion a wnaethom i'r etholwyr, rydym yn cynnig heddiw bod gan y ddau gyflog uchaf uchafswm cyflog o £112,211, sy'n golygu y bydd yn unol â Dinas a Sir Abertawe.”

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Cynnig gyfle i siarad o'i blaid.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Panel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâl, sydd ag aelodaeth drawsbleidiol, wedi ystyried a chytuno ar ddatganiad polisi tâl yr Awdurdod yn gynharach eleni, a gafodd ei gymeradwyo ar ôl hynny gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth, 2017.

 

Yn sgil cael cais gan fwy na deg o aelodau yn unol â Rheol 16.4 o Weithdrefnau'r Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig ynghylch y gwelliant gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y gwelliant (18)

 

Y Cynghorwyr S. Curry, S.L. Davies, J.S. Edmunds, P.M. Edwards, D.C. Evans, A. Fox, T. Higgins, J.D. James, R. James, D. Jones, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, A. McPherson, E. Morgan, S. Najmi, J. Prosser a Bill Thomas

Yn erbyn y Gwelliant (32)

Y Cynghorwyr S.M Allen, C.A. Campbell, G. Davies, H. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, T.A.J. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, L.D. Evans, R. Evans, W.T. Evans, K. Howell, P. Hughes-Griffiths, P.M. Hughes, A. James, D.M. Jenkins, A. Lenny, A.G. Morgan, D. Phillips, S. Phillips, E. Schiavone, H.B. Shepardson, L.M. Stephens, D. Thomas, E.G. Thomas, G. Thomas, G.B. Thomas, J. Tremlett, D.E. Williams, D. Williams a J.E. Williams.

Ymataliadau (14)

Y Cynghorwyr L. Bowen, K. Broom, J.M. Charles, A. Davies, C.A. Davies, J. Gilasbey, D. Harries, J.P. Jenkins, G. John, C. Jones, B. Jones, H.I. Jones, D. Nicholas ac A. Vaughan-Owen.

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig Terfynol a

PHENDERFYNWYD hefyd:

9.1 Bod y proffil swydd a'r fanyleb person ar gyfer y ddwy swydd sef Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a Chyfarwyddwr Adfywio a Pholisi (sydd ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 1 a 2) yn cael eu cymeradwyo;

9.2 Bod yr hysbysebion swyddi yn cael eu cymeradwyo er mwyn caniatáu i'r ddwy swydd gael eu hysbysebu'n gyhoeddus, fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (sydd ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 3 a 4).

 

 

Dogfennau ategol: