Agenda item

DIOGELWCH MEWN MEYSYDD CHWARAE.

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn dilyn y trychineb yn Stadiwm Ibrox, Glasgow yn Ionawr 1972 a'r ymchwiliad cyhoeddus a ddilynodd hynny, bod Deddf Diogelwch Meysydd Chwarae 1975 wedi cyflwyno system o ardystio diogelwch meysydd chwarae gan Awdurdodau Lleol. Roedd yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol benderfynu capasiti diogel y maes, rhagnodi a gorfodi amodau a thelerau a ystyrir ganddo'n angenrheidiol neu'n hwylus ar gyfer sicrhau diogelwch rhesymol y gwylwyr ac ymgymryd ag archwiliad cyfnodol.

 

Mae Deddf Diogelwch Meysydd Chwarae 1975 yn diffinio maes chwarae fel a ganlyn:-

 

“A place where sport or other competitive activities takes place in the open air, and where accommodation has been provided for spectators, consisting of artificial structures or of natural structures artificially modified for the purpose.”

 

Roedd llawer o ddarnau eraill o ddeddfwriaeth a fyddai'n berthnasol i feysydd chwarae yn dibynnu ar y math o faes a'r gweithgarwch.  Yn ogystal, roedd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi llunio "The Guide to Safety at Sports Grounds” (“The Green Guide”) a oedd yn ddogfen ymgynghorol i'w defnyddio gan bersonau cymwys. Roedd gan reolwyr meysydd o'r fath y cyfrifoldeb pennaf dros ddiogelwch gwylwyr ac felly dylent weithredu'r argymhellion a geid yn y Canllaw Gwyrdd er mwyn sicrhau amodau diogel.

 

Ym mharagraff 31 o Adroddiadau Terfynol ymchwiliad yr Arglwydd Ustus Taylor i Drychineb Stadiwm Hillsborough argymhellodd y canlynol:-

 

“Er mwyn helpu'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei swyddogaethau, dylai sefydlu Gr?p Ymgynghorol sy'n cynnwys aelodau priodol o'i staff ei hun, cynrychiolwyr o'r heddlu, o'r gwasanaethau tân ac ambiwlans ac o'r awdurdod adeiladu.  Dylai'r Gr?p Ymgynghorol ymgynghori â chynrychiolwyr y clwb yn rheolaidd.  Dylai cylch gwaith y Gr?p Ymgynghorol gynnwys yr holl faterion yn ymwneud â diogelwch torfeydd a dylai ei gwneud yn ofynnol i ymweld â'r maes a bod yn bresennol yn y gemau yn rheolaidd. Dylai'r Gr?p Ymgynghorol fod â chadeirydd o'r Awdurdod Lleol a chael gweithdrefnau effeithiol.  Dylid cofnodi ei benderfyniadau a dylai fod yn ofynnol iddo lunio adroddiadau rheolaidd i'w hystyried gan yr Awdurdod Lleol.” (cyfieithiad)

 

Roedd Gr?p Ymgynghorol Sir Gaerfyrddin ynghylch Diogelwch wedi cael ei sefydlu ers nifer o flynyddoedd a Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu oedd yn ei gadeirio ar hyn o bryd. Roedd cylch gwaith yn unol â'r hyn a argymhellwyd ac roedd cyfarfodydd â'r clybiau perthnasol yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

 

Roedd gan yr Awdurdod Lleol rwymedigaeth statudol o dan:-

 

-         Deddf Diogelwch mewn Meysydd Chwarae 1975 (fel y'i diwygiwyd) i roi Tystysgrifau Diogelwch Cyffredinol ac Arbennig ar gyfer meysydd chwarae dynodedig (y rhai oedd â lle i fwy na 10,000 o bobl) – oedd yn cynnwys Parc y Scarlets a Ffos Las;

-         Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 Rhan III i roi tystysgrifau diogelwch ar gyfer Standiau Rheoledig (lle roedd stand dan do yn rhoi lle dan do i 500 o bobl neu ragor) – oedd yn cynnwys Waun Dew, Caerfyrddin.

 

Byddai'r Awdurdod Lleol yn cyfeirio meysydd chwarae oedd heb eu dynodi at y Canllaw Gwyrdd ynghylch gofynion rheoli.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.