Agenda item

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ac yn cael cyflwyniad, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a Dinas-ranbarth Bae Abertawe o ran Pecyn Buddsoddi'r Fargen Ddinesig ac i gael cymeradwyaeth yr Aelodau i ddirprwyo'r awdurdod i Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr, lofnodi'r cytundeb ynghylch y Fargen Ddinesig (Penawdau'r Telerau).

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn canolbwyntio ar fanteision y seilwaith digidol, y sector ynni, gweithgynhyrchu clyfar ac arloesedd mewn gwyddor bywyd ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig ledled y rhanbarth. Ers cyflwyno'r cynnig gwreiddiol ynghylch y Fargen Ddinesig ym mis Chwefror y llynedd, mae cyfnod o waith dwys wedi arwain at gyflwyno cynnig manwl yn cynnwys 11 prosiect penodol. Mae'r Fargen yn cynnwys cyfanswm buddsoddiad o thua £1.3 biliwn dros gyfnod o 15 mlynedd. Byddai hyn yn cynnwys arian gan y llywodraeth o £241m a fyddai'n cael ei rannu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU. Byddai £360m o arian gan y sector cyhoeddus a £673m o gyfraniadau ariannol gan y sector preifat  yn cyfrannu at gyfanswm y pecyn buddsoddi. Byddai'r buddsoddiad hwn yn sicrhau tua 9,465 o swyddi newydd ar gyfer y rhanbarth, gan gyfrannu at gynnydd yn y Gwerth Ychwanegol Gros o £1.8 biliwn. Esboniwyd yn dilyn cyflwyno'r cynnig, y cafwyd cyfres o drafodaethau â'r ddwy lywodraeth yn ogystal â digwyddiadau ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad ac eraill ledled y rhanbarth. Nodwyd y gobaith oedd y byddai'r Fargen yn cael ei llofnodi erbyn dechrau mis Mawrth.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod y Fargen Ddinesig yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gynyddu ffyniant a chyfleoedd yn y rhanbarth. Roedd Gwerth Ychwanegol Gros y rhanbarth wedi disgyn o 90% o gyfartaledd y DU i 77% dros y tri degawd diwethaf, gyda chynhyrchiant isel, anweithgarwch economaidd uchel ac iechyd gwael ymhlith rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r rhanbarth. Heb gynigion y Fargen Ddinesig byddai cau'r bwlch hwn yn heriol iawn.

 

Amlinellwyd y trefniadau llywodraethu a nodwyd bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bartneriaeth rhwng 8 sefydliad a'r sector preifat. Gan ddefnyddio'r fframwaith statudol presennol, byddai'r awdurdodau lleol yn sefydlu Cyd-bwyllgor a fyddai'n gyfrifol yn y pen draw am becyn buddsoddi'r Fargen Ddinesig. Nodwyd mai'r unig aelodau â phleidlais fyddai'r pedwar awdurdod lleol.

 

Byddai fargen yn cael ei chyllido ar sail rhaglen 15 mlynedd. Byddai'r pedwar awdurdod lleol yn gofyn am gael benthyg yr arian gofynnol ar gyfer eu prosiectau perthnasol a byddai'r arian yn cael ei ddarparu wrth i'r prosiect ddatblygu dros gyfnod o 5 mlynedd. Byddai'r benthyciad cyfalaf (o ran yr elfen sy'n cael ei hariannu gan y Llywodraeth) yn cael ei ad-dalu wrth dderbyn yr arian gan y Llywodraeth dros y 15 mlynedd.

 

Esboniwyd bod pecyn o 11 prosiect, a oedd yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol:

-       Rhyngrwyd Cyflymu'r Economi

-       Rhyngrwyd Ynni

-       Rhyngrwyd Gwyddorau Bywyd a Llesiant

-       Rhyngrwyd Gweithgynhyrchu Clyfar

 

Byddai'r Sir yn elwa ar yr holl gynigion, fodd bynnag, byddai'r Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant a'r Fenter Sgiliau a Thalentau yn cael eu harwain yn benodol gan Sir Gaerfyrddin.

 

Dywedodd yr aelodau fod llawer o waith wedi cael ei wneud i ddatblygu'r Fargen arfaethedig a diolchwyd i'r timau a fu'n ymwneud â'r gwaith. Cydnabuwyd hefyd bwysigrwydd buddsoddiad preifat yn y Fargen.

 

Gofynnwyd pe na bai'r Fargen Ddinesig yn cael ei derbyn a fyddai rhai o'r elfennau'n parhau i gael eu datblygu, megis y fenter Llesiant yn Llanelli. Esboniwyd bod angen cyllid i ddarparu prosiectau o'r fath a byddai'n dibynnu ar y math o gyllid oedd ar gael. Byddai'r Fargen Ddinesig yn galluogi prosiectau i symud ymlaen mewn modd amserol. Nodwyd bod rhai esiamplau o'r Fargen Ddinesig yn cychwyn fel cysyniad a phrosiectau yn cael eu datblygu o'r rheiny, o ran y Fargen Ddinesig hon, roedd 11 prosiect pendant eisoes wedi'u nodi fel rhai y gellid eu sefydlu'n weddol gyflym.

 

Cyflwynwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr, i lofnodi cytundeb y Fargen Ddinesig (Penawdau'r Telerau) ar sail yr hyn a ddisgrifir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: