Agenda item

NEWIDIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR.

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod ar 17eg Mehefin, 2015 (gweler Cofnod 4) yr oedd y Cyngor wedi ystyried argymhellion y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad ac wedi penderfynu cynnwys yr argymhellion yn y cyfansoddiad newydd, gan eu cyflwyno i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.

 

Felly bu'r Cyngor yn ystyried yr adroddiad am y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor oedd yn ofynnol o ganlyniad i fabwysiadu argymhellion y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD gweithredu'r newidiadau i gyfansoddiad y Cyngor, fel yr oedd y Cyngor wedi cytuno arnynt ar 17eg Mehefin, 2015 ac fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: