Agenda item

CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2024/25

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr C.A. Davies, H.A.L. Evans, L.D. Evans a P.M. Hughes y cyfarfod cyn i'r Cabinet ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi manylion am gynllun rhyddhad ardrethi sydd ar gael i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25. 

 

Yn 2017/18 cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ar gyfer busnesau cymwys a pharhaodd y cynllun ar gyfer 2018/19, a phob blwyddyn ers hynny. Fodd bynnag, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid oedd cynllun 2019-20 yn gyfyngedig i safleoedd y stryd fawr ond roedd yn cynnwys pob eiddo yng Nghymru a oedd yn bodloni'r meini prawf manwerthu ehangach.

 

Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i gynyddu’r gostyngiad i 100%. Roedd y cynllun hwn hefyd yn berthnasol yn 2021/22 ac yn ogystal â’r sector manwerthu cafodd ei ymestyn i gynnwys y sectorau hamdden a lletygarwch e.e. siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai ledled Cymru.

 

Roedd y cynllun ar gyfer 2022/23, yn wahanol i'r ddwy flynedd flaenorol, yn darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig gostyngiad o 50% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer 2022/23, ac roedd y cynllun ar gyfer 2023/24 yn cynnig gostyngiad o 75% ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'n ddiweddar y bydd yn darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys yn 2024-25. Fodd bynnag, ar gyfer 2024/25 bydd y cynllun yn darparu gostyngiad o 40% ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'i feddiannu. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag, bydd y rhyddhad yn destun cap o ran y cyfanswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r mathau o fusnes y mae'n eu hystyried yn briodol ar gyfer y rhyddhad hwn a'r rhai nad ydynt yn briodol. Roedd y rhestr anghyflawn o fathau o fusnes wedi’i hatodi i’r adroddiad yn Atodiad A.

 

Gan mai mesur dros dro yw'r rhyddhad hwn, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond yn hytrach bydd yn caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn cyffredinol sydd ar gael o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cyllid) 1988. Fodd bynnag, gan ei fod yn b?er disgresiwn, mae angen i'r Awdurdod Lleol fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol. Caiff y cynllun ei ariannu'n llawn ac felly heb unrhyw gost i'r awdurdod ar yr amod bod y rhyddhad yn cael ei roi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1      bod Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024/25 yn cael ei fabwysiadu ar gyfer 2024/25;

7.2      bod rhyddhad yn cael ei roi, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

7.3      bod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn penderfynu ynghylch unrhyw geisiadau nad ydynt o fewn cwmpas penodol y canllawiau neu y bydd angen rhoi ystyriaeth benodol iddynt.       

 

 

Dogfennau ategol: