Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 3 - 2023/24 (01/04/23-31/12/23) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad a oedd yn darparu'r cynnydd ar ddiwedd Chwarter 3 2023/24.  Fel rhan o'u rôl i graffu ar berfformiad, ystyriodd yr Aelodau y cynnydd ar y camau gweithredu sy'n berthnasol i'r Pwyllgor hwn a oedd yn gysylltiedig â'r camau gweithredu a'r mesurau sy'n gysylltiedig â Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 ac amcanion llesiant.

 

Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Gwasanaethau Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y meysydd yn eu portffolio.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr adran g?ynion ar dudalen 2 yr adroddiad.  Dywedwyd gan fod y ffigurau oddi ar y targed a oedd rhywbeth y gellid ei wneud i wella'r rhain?  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod nifer o g?ynion yn gymhleth yn eu natur, yn aml yn cymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt a fyddai wedyn yn mynd y tu hwnt i'r targed 14 diwrnod.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau bod yr achwynydd yn cael gwybod bob amser am linell amser y g?yn.

 

·       Cyfeiriwyd at gam gweithredu 16559 - Gweithredu System Rheoli Priffyrdd wedi'i diweddaru i ddarparu polisi archwilio ac atgyweirio seiliedig ar risg.  Gofynnwyd a oedd y rhaglen atgyweirio wedi gwella ers gweithredu'r system?  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod y system rheoli priffyrdd bresennol wedi'i diweddaru i weithredu'r dull seiliedig ar risg ar gyfer archwilio ac atgyweirio yn unol â'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sy'n nodi'r blaenoriaethau ar gyfer atgyweiriadau ar y rhwydwaith ffyrdd. 

 

Mynegwyd pryder fod y targed o 90 diwrnod i atgyweirio diffyg ar y ffordd yn sgil cwyn yn rhy hir a bod angen adolygu hyn gan fod y ffyrdd gwledig yn arbennig yn dioddef.  Codwyd sylw ychwanegol i gefnogi y gallai llawer ddigwydd mewn 90 diwrnod a oedd yn ymestyn y risg o atebolrwydd i'r Awdurdod gynyddu hawliadau yswiriant posibl.

 

·       Cyfeiriwyd at nifer y cwynion cam 1 a ddyfynnir ar dudalen 2 yr adroddiad.  Mynegwyd siom yngl?n â'r ffigurau a ddyfynnir - allan o 253 o g?ynion dim ond 161 yr ymdriniwyd â nhw yn unol â'r amserlen.  Yn ogystal, o ran cwynion cam 2 – oddi ar y targed, dywedwyd nad oedd y datganiad a ddarparwyd yn weithred adferol - 'nid yw'n bosibl i uwch-swyddogion gwblhau'r ymchwiliad’.  Teimlwyd bod hyn yn ffordd arall o ddweud nad oedd digon o adnoddau i reoli'r sefyllfa.  Cytunodd y Rheolwr Gwella Busnes nad oedd y data mewn perthynas â chwynion cam 1 yn ddelfrydol, wrth gydnabod bod y galw ar amser swyddogion yn achosi problem yr oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.  Fel y nodwyd yn gynharach, roedd cwynion cam 2 yn fwy cymhleth gan gymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt, ond trafodwyd hyn gyda'r achwynydd.

 

·       Yn ogystal â chydnabod dirywiad parhaus ffyrdd diddosbarth, tynnwyd sylw at 3 chwarter yr adroddiadau a oedd ar y targed a chafodd canmoliaeth ei chyfleu i'r tîm ar y cyflawniad hwn.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch yr arwyddion 20mya, dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn talu am yr holl gostau o ran y difrod i'r arwyddion 20mya.

 

·       Awgrymwyd y dylid llunio gweithgor trawsbleidiol i ystyried ac adolygu'r terfynau cyflymder o 20mya yn Sir Gaerfyrddin.  Teimlwyd y gellid newid llawer o ardaloedd.  Mewn ymateb i'r awgrym dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn aros am ganllawiau newydd i'w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac ar ôl derbyn y gallai fod yn amser cyfleus i'r Pwyllgor Craffu ystyried ymhellach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2023/24.

 

 

Dogfennau ategol: