Agenda item

ADOLYGIAD DILYNOL ARCHWILIO CYMRU O'R TREFNIADAU CORFFORAETHOL AR GYFER DIOGELU - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Alison Lewis, Cynrychiolydd Archwilio Cymru, ynghylch yr adolygiad dilynol o drefniadau corfforaethol y Cyngor cyfan ar gyfer diogelu.

 

Yn benodol, ceisiodd yr adolygiad nodi a oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynd i'r afael â'r 7 argymhelliad sy'n berthnasol i Gynghorau yng Nghymru a oedd wedi deillio o Adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol a gynhaliwyd yn 2015 o drefniadau diogelu corfforaethol mewn Cynghorau yng Nghymru.

 

Rhoddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru amlinelliad o'r canfyddiadau a oedd yn deillio o'r adolygiad dilynol, a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023, a ddaeth i'r casgliad nad oedd y Cyngor wedi rhoi sylw i'r holl argymhellion yn adroddiad cenedlaethol 2015 ar ddiogelu corfforaethol, a nodwyd gwendidau yn ei drefniadau goruchwyliaeth a sicrwydd diogelu corfforaethol yr oedd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn galluogi'r Cyngor i sicrhau ei hun bod risgiau yn cael eu lleihau.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y 5 argymhelliad newydd a oedd wedi codi o'r adolygiad dilynol, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Atodwyd yr ymateb sefydliadol cryno i'r adroddiad a oedd yn nodi camau arfaethedig y Cyngor i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Nodwyd bod ymateb sefydliadol manylach wedi'i ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddid yn cyfeirio at yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu yn Adroddiad Blynyddol y Cyngor, ond byddai'r ddau yn cael eu llunio fel dogfennau annibynnol.  Tynnodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol sylw at yr asesiadau cadarnhaol a ddarparwyd gan Estyn ac AGGCC o drefniadau'r Cyngor ar gyfer diogelu Plant ac Oedolion sydd mewn perygl; roedd yn bwysig cydnabod mai ffocws adroddiad Archwilio Cymru oedd Diogelu Corfforaethol.

 

Yn dilyn cais am eglurhad, rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol sicrwydd y byddai lefelau priodol o hyfforddiant diogelu yn cael eu darparu yn ôl yr angen, gyda systemau effeithiol ar waith i fonitro ac adrodd ar gydymffurfiaeth. Eglurwyd, er bod yr hyfforddiant diogelu bellach yn orfodol i aelodau etholedig a'r gr?p staff ehangach, nid oedd fframwaith cyfreithiol y gallai'r Cyngor ei ddefnyddio i orfodi llywodraethwyr ysgol (ac unigolion eraill sy'n ymgymryd â rolau gwirfoddol) i ymgymryd â'r hyfforddiant. Er y disgwylid y byddai holl lywodraethwyr ysgolion yn cydymffurfio â chais y Cyngor i ymgymryd â hyfforddiant diogelu priodol, cytunwyd bod y Gr?p Diogelu Corfforaethol yn ystyried y mater ymhellach gyda'r bwriad o sicrhau o leiaf hyfforddiant Lefel 1 i bob Llywodraethwr Ysgol.  

 

Codwyd pryderon gan y Pwyllgor mewn perthynas ag effeithiolrwydd monitro camau gofynnol a'r gwersi i'w dysgu yn hyn o beth. Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn briodol, er bod gwaith wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn yr adolygiad cenedlaethol gwreiddiol, nad oedd y Cyngor wedi cynnal nac ailsefydlu'r trefniadau hynny mewn modd amserol yn dilyn y pandemig coronafeirws. Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd bod cynnydd da iawn wedi'i wneud yn fwy diweddar gan y Cyngor. Cymerwyd camau prydlon a chadarnhaol i weithredu dulliau llywodraethu a chydymffurfio cadarn yn y Cyngor, gyda threfniadau effeithiol bellach ar waith i fonitro'r camau parhaus sy'n deillio o adolygiadau allanol.

 

O ystyried penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i dderbyn adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol ar ddiogelu corfforaethol yn hydref 2024, gwnaed cais am i asesiad o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau sy'n deillio o adolygiad Archwilio Cymru gael ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i roi adborth ar gais y Pwyllgor i'w ystyried yng nghyfarfod nesaf y Gr?p Diogelu Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

3.3.1

the report be received and the Council’s response to the recommendations be noted;

 

3.3.2

bod y Gr?p Diogelu Corfforaethol yn ystyried cais y Pwyllgor am asesiad o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau sy'n deillio o adolygiad Archwilio Cymru i'w cynnwys yn adroddiad cynnydd nesaf Archwilio Mewnol ar ddiogelu corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: