"A allai'r Cyngor nodi, fel nifer a chanran, faint o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, a ddynodwyd yn flaenorol yn ffyrdd 30mya, sydd wedi'u newid i 20mya; a beth yw safbwynt yr Awdurdod hwn ar gefnogi gorfodi'r polisi?"
Cofnodion:
"A allai'r Cyngor nodi, fel nifer a chanran, faint o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, a ddynodwyd yn flaenorol yn ffyrdd 30mya, sydd wedi'u newid i 20mya; a beth yw safbwynt yr Awdurdod hwn ar gefnogi gorfodi'r polisi?"
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith
Roedd cyflwyno deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, yn gorfodi awdurdodau lleol i gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar bob ffordd gyfyngedig yng Nghymru yn lle'r terfyn diofyn blaenorol o 30mya. Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio'n gyfreithiol yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel ffyrdd lle ceir system o oleuadau stryd. Mae hyn yn gyffredinol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ffyrdd yn nhrefi Sir Gaerfyrddin a'r rhan fwyaf o bentrefi. I roi'r terfyn diofyn newydd ar waith mewn aneddiadau ac ardaloedd trefol mwy, bu'n rhaid i awdurdodau lleol newid yr arwyddion terfyn cyflymder ar ffin yr ardal yn unig i gynnwys yn awtomatig yr holl ffyrdd cyfyngedig y tu mewn i'r ardal. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydnabod bod hyn yn gymhleth.
Mae nifer o ffyrdd, er enghraifft yr A484 o Lanelli drwy Gaerfyrddin ac ymlaen i Gastellnewydd Emlyn, sydd bellach â nifer o rannau â therfyn cyflymder 20mya drwy ardaloedd aneddiadau fel Heol y Sandy, Porth Tywyn, tref Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn, ond sydd â therfynau cyflymder uwch rhwng yr aneddiadau. O ganlyniad, efallai y bydd gan un ffordd lawer o ddarnau sydd wedi newid yn ddiofyn o 30mya i 20mya. I ateb y cwestiwn, mae dadansoddiad o ddata yn ein system fapio yn dangos bod 2567 o ddarnau ffyrdd â goleuadau stryd sydd wedi newid yn ddiofyn i 20mya. Fodd bynnag, dylid cydnabod hefyd bod o leiaf 300 o blith y 2567 o ddarnau ffyrdd hyn eisoes â chyfyngiadau 20mya cyn y ddeddfwriaeth, a hynny yn ardal Llanelli yn unig. Pan oedd terfynau 20mya presennol ar waith yn flaenorol yn rhinwedd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, bu'n rhaid dirymu'r Gorchmynion er mwyn i gyfyngiad y ddeddfwriaeth ehangach gael blaenoriaeth. Bu’n rhaid dirymu cyfanswm o 76 o Orchmynion Rheoleiddio Traffig lle roedd pob Gorchymyn yn cwmpasu un stryd neu grwpiau o strydoedd.
Un o brif amcanion y Cyngor Sir wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd darparu cysondeb i ddefnyddwyr ffyrdd. Mewn nifer o achosion, roedd gan ffyrdd penodol oleuadau stryd dros ran ohonynt yn unig. Roedd hyn yn digwydd fel arfer tuag at ffin yr anheddiad lle roedd datblygiad yn ymestyn y tu hwnt i derfyn y goleuadau stryd. Mewn achosion o'r fath, byddai angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i ymestyn y terfyn 20mya i ddechrau'r ardal anheddiad fel bod defnyddwyr ffyrdd yn deall yn glir eu bod yn mynd i mewn i amgylchedd trefol. Roedd 417 o ddarnau ffyrdd yn cael eu trin fel hyn drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth awdurdodau lleol yng Nghymru y gallent wneud eithriadau i'r terfyn diofyn o 20mya i gadw terfyn o 30mya mewn amgylchiadau penodol a rhoddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i awdurdodau lleol eu dilyn wrth asesu'r potensial i rai ffyrdd fod yn eithriadau. Yn Sir Gaerfyrddin, crëwyd Gorchmynion ar gyfer 278 o ddarnau ffyrdd a oedd i bob pwrpas yn cadw terfyn o 30mya, sy'n cyfateb i 7.3% o'r ffyrdd lle roedd terfyn o 30mya yn flaenorol. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chanllawiau i awdurdodau lleol ar bennu eithriadau i'r ddeddfwriaeth.
A beth yw safbwynt yr Awdurdod ar gefnogi gorfodi'r polisi?
Mae tystiolaeth dda o'r berthynas rhwng cyflymder traffig a risg ac mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd y terfynau cyflymder newydd o 20mya yn arwain at 40% yn llai o wrthdrawiadau cerbydau. Mae cydymffurfio â'r terfynau newydd yn ffactor allweddol ac felly hefyd gorfodi sy'n helpu i annog cydymffurfiaeth. Nid oes pwerau gan awdurdodau lleol i orfodi terfynau cyflymder ac yn Sir Gaerfyrddin mae'r p?er o fewn cylch gwaith Heddlu Dyfed-Powys a Phartneriaeth GanBwyll. Mae'r Cyngor Sir yn cefnogi annog gyrwyr i gadw at derfynau cyflymder sydd ar yr arwyddion drwy fentrau addysgol sy'n targedu safleoedd ysgolion a phrosiectau cymunedol yn arbennig.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd James
Yn seiliedig ar yr hyn a ddywedwyd gan y Dirprwy Weinidog, a ydych yn credu bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio ei bolisi eithrio yn gywir, ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi datgan bod angen i arwyddion fod yn glir i orfodi'r polisi felly a oes cynllun ar waith gan y Cyngor i sicrhau bod arwyddion newydd yn cael eu gosod yn lle'r holl rai sydd wedi'u difrodi os bydd unrhyw gamau gorfodi yn cael eu cymryd?
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith
Gallaf sicrhau'r aelod y byddwn yn gosod arwyddion newydd yn lle unrhyw rai sydd wedi'u difrodi fel ei bod yn glir beth yw'r terfynau cyflymder yn yr ardaloedd hynny.