Cofnodion:
[SYLWER:
1. Roedd y Cynghorwyr J.M Charles, D.M. Cundy, A. Davies, B. Davies, C.A. Davies, T. Davies, T.A.J. Davies, A. Evans, D.C. Evans, N. Evans, R.E. Evans, S. Godfrey-Coles, J. Hart, T. Higgins, P.M. Hughes, R. James, A.C. Jones, H. Jones, A. Leyshon, M.J.A. Lewis, K. Madge, M. Palfreman, W.E. Skinner, E. Rees, B.A.L. Roberts, a F. Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cynghorwyr hynny y cyfarfod;
2. Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a swyddogion a oedd yn hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.
3. Gan fod yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad ar ei ran.
4. Gan fod Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd B.A.L. Roberts, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, cadeiriodd yr Is-gadeirydd y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried.
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, ar ran yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, yr adroddiad a amlinellai fod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y Gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddent yn Brif Swyddogion.
Dywedwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi cyfrannu at lunio'r Datganiad Polisi Tâl a bod ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir y diwrnod hwnnw. Dywedwyd bod y Panel, yn ei gyfarfod y flwyddyn flaenorol, wedi gofyn bod yr opsiynau yn cael eu cyflwyno ar gyfer adolygu model cyflogau presennol y Cyd-gyngor Cenedlaethol a dileu'r gorgyffwrdd rhwng graddau, yn enwedig ar waelod y raddfa gyflog. Yn unol â'r cais hwnnw, roedd papur ar wahân (a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn rhoi manylion dau gynnig ar gyfer dileu'r gorgyffwrdd rhwng Graddau A i D ac A i E ynghyd â chostau. Roedd y Panel Tâl, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024, wedi ystyried y ddau opsiwn, yng nghyswllt yr hinsawdd ariannol heriol, a chytunodd i gyflwyno cynnig 1 (h.y. dileu'r gorgyffwrdd rhwng Graddau A i D, gan gynnwys y graddau hynny) ym mis Ebrill 2025, os bydd yn ariannol hyfyw gwneud hynny. Byddai'r argymhelliad hwnnw yn cael ei drafod yn Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd yr Undebau Llafur ym mis Ebrill 2024.
Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, yn ogystal â'r ymrwymiad a roddwyd eisoes mewn perthynas â chyfraddaucyflog byw y Living Wage Foundation, fod yr Awdurdod hefyd yn bwriadu adolygu ei gyflog prentisiaeth i adlewyrchu'r gyfradd ar gyfer y swydd. Pe bai hynny'n cael ei fabwysiadu, byddai'n helpu i fynd i'r afael ag ymrwymiad y Cyngor i gefnogi ei aelodau staff sy'n cael y cyflogau isaf a byddai rhai prentisiaid yn derbyn hyd at £6k ychwanegol y flwyddyn. Wrth wneud hynny, byddai hefyd yn helpu i wella recriwtio a denu mwy o ymgeiswyr i ymuno â'r Cyngor fel prentis i gefnogi Datganiad Gweledigaeth y Cabinet, ynghyd â marchnata'r Cyngor fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion a chanolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o'r ardaloedd gwledig.
Yn olaf, roedd y Panel hefyd wedi cymeradwyo dileu'r lwfans cyflog ychwanegol o 10% ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth y Cydgyngor Trafod Telerau sy'n cyflawni rolau statudol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl am 2024/25 yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
[Yn dilyn y bleidlais, cafodd yr aelodau a oedd wedi datgan buddiant ac a oedd wedi gadael y cyfarfod eu haildderbyn i'r cyfarfod ynghyd â'r swyddogion, a chymerodd y Cynghorydd B.A.L. Roberts yr awenau fel Cadeirydd].
Dogfennau ategol: