Agenda item

MS TARA-JANE SUTCLIFFE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

‘Yn 2021 sicrhaodd y Cyngor £16.7m o gyllid y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi. Roedd yn ofynnol i'r holl gyllid gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2024 neu, mewn amgylchiadau eithriadol, erbyn 31 Mawrth 2025. Ymhellach i hynny, ac o ystyried yr oedi hyd yma, mae'n debyg bod gan y Cyngor senario wedi'i gynllunio rhag ofn na fydd yn bodloni'r dyddiad cau estynedig. Pa gostau a ragwelwyd fyddai gan y Cyngor pe bai'r gwaith heb ei gwblhau ar 31 Mawrth 2025, a sut y cyllidebwyd ar gyfer hyn?’

 

Cofnodion:

'Yn 2021 sicrhaodd y Cyngor £16.7m o gyllid y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi. Roedd yn ofynnol i'r holl gyllid gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2024 neu, mewn amgylchiadau eithriadol, erbyn 31 Mawrth 2025. Ymhellach i hynny, ac o ystyried yr oedi hyd yma, mae'n debyg bod gan y Cyngor senario wedi'i gynllunio rhag ofn na fydd yn bodloni'r dyddiad cau estynedig. Pa gostau a ragwelwyd fyddai gan y Cyngor pe bai'r gwaith heb ei gwblhau ar 31 Mawrth 2025, a sut y cyllidebwyd ar gyfer hyn?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet Dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Diolch i chi am eich cwestiwn.

 

Fel y gwyddoch yn barod, mae rhan o Lwybr Beicio Dyffryn Tywi eisoes ar agor, agorodd y llwybr sy'n cysylltu Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili â Bwlch Bach i Fronun, ac yn ymestyn i Felin-wen, ychydig amser yn ôl. Fel y disgwyliwn o'r llwybr gorffenedig, mae'n cynnig golygfeydd prydferth i feicwyr a cherddwyr, gan gynnwys golygfeydd o gerddi Palas yr Esgob. Mae'n darparu ffordd ddiogel heb draffig i bobl feicio a gweld y Sir.

 

Nawr, mae tair rhan i'ch cwestiwn, 'a fydd yr arian yn cael ei wario erbyn y dyddiad cau gwreiddiol?', 'a ydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gwariant?', a 'beth allai ddigwydd os na fyddwn yn cadw at ddyddiad cau diwygiedig?'.

 

Felly, i ymdrin â'r ddau gwestiwn cyntaf, a fydd yr arian yn cael ei wario erbyn y dyddiad cau gwreiddiol ac a ydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gwariant? Fel y soniais yn gynharach, mae rhywfaint o'r llwybr eisoes ar agor ac mae'r gwaith yn parhau, rydym yn gweithio ar ran mewn Nantgaredig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw'r Ymchwiliad Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) a gynhaliwyd ym mis Tachwedd wedi rhoi penderfyniad eto. Er mwyn hwyluso'r sefyllfa, rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd i bwysleisio'r angen am benderfyniad buan gan y gweinidog fel y gall y Cyngor, os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo, symud ymlaen i'r cam nesaf o gaffael Tir y Gorchymyn, gan sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl. O gofio hyn, o dan delerau'r cyllid, gwnaed cais am addasiad i brosiect ym mis Gorffennaf y llynedd, ac yn dilyn hynny rhoddwyd estyniad ffurfiol i ni gan ganiatáu i'r arian o'r gronfa Ffyniant Bro fod ar gael tan 31 Mawrth 2025. Mewn gwirionedd, estyniad o flwyddyn.

 

Felly, beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn cadw at ddyddiad cau diwygiedig? Wel, rydym yn parhau i fod yn hyderus, hyd yn oed os na all gwaith adeiladu barhau'n llawn tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, trwy dendro sawl pecyn adeiladu i gyd-redeg, byddwn yn cyflawni'r Grant Ffyniant Bro yn llawn o fewn y dyddiad cau. Fel rhan o'r dyfarniad grant, roedd gofyn i ni ddarparu arian cyfatebol ar gyfer y prosiect sy'n cyfateb i £1.864m, mae'r cyllid hwn eisoes wedi'i ymrwymo i'r prosiect.

Nid yw'r elfen hon o gyllid y Cyngor Sir yn destun cyfyngiadau amser ac felly gellir darparu ar gyfer unrhyw or-redeg y tu hwnt i 31 Mawrth 2025.

 

Mae Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn brosiect pwysig i Sir Gaerfyrddin ac i dwristiaeth ledled Gorllewin Cymru. Mae'n cynnig llawer o fanteision - mae manteision amgylcheddol drwy annog pobl i feicio neu gerdded ar gyfer teithiau lleol a phellter hwy, gan ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer teithio llesol yn ogystal â chyfrannu at dargedau lleol a chenedlaethol ar gyfer lleihau carbon ac ansawdd aer.

 

Mae manteision o ran cysylltu â safleoedd cyflogaeth, addysg, hamdden, iechyd, diwylliannol a manwerthu allweddol ar draws Dyffryn Tywi prydferth a bydd yn rhoi cyfleoedd ar gyfer datblygu busnes, twf ac arallgyfeirio amaethyddol drwy fwy o wariant ymwelwyr yn yr ardal.

 

Bydd y llwybr hefyd yn cynnig manteision sylweddol i'r sir gyda'r potensial i gynhyrchu tua £4.4 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, gan greu swyddi mewn busnesau lleol drwy nifer uwch o ymwelwyr a gwariant.

 

Fel y dywedais, mae hwn yn brosiect pwysig i ni, ac rydym yn hyderus yn ei gyflawniad a'n gallu i gwblhau'r gwaith sydd ei angen i gael mynediad at y cyllid a ddyfarnwyd i ni o fewn y dyddiad cau penodedig.

 

Cwestiwn atodol gan Mrs Tara-Jane Sutcliffe:

 

Diolch yn fawr iawn, rwy'n gwerthfawrogi eich amser ar hyn. Fodd bynnag, nid yw'n ateb fy nghwestiwn yn gyfan gwbl - a ydych chi wedi llunio cynllun wrth gefn os bydd y prosiect yn rhedeg y tu hwnt i 31 Mawrth y flwyddyn nesaf? Os felly, faint, oherwydd os yw'n brosiect gwerth £16.7 miliwn ynghyd â'r £1.8 miliwn, mae hynny'n llawer iawn o filiynau, prosiect drud iawn, a oes risg y gallai rhedeg y tu hwnt fel y byddai'r rhwymedigaethau yn fwy na'r £1.8 miliwn sydd eisoes wedi'i neilltuo?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Rwy'n credu fy mod eisoes wedi datgan ein bod yn hyderus y byddwn yn cwblhau'r prosiect a bod gennym yr arian i or-redeg.