Agenda item

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2024/25 i 2026/27

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr A Vaughan Owen, Ll.M. Davies, N. Evans, R. Evans, M.D. Cranham, G. Morgan, T. Higgins, J.P. Hart, F. Walters, D. Nicholas, L.R. Bowen, C.A. Jones, D. Cundy, E. Skinner, R. Sparks, L. Roberts. M. Palfreman, B. Davies, T.A.J. Davies, P.M. Hughes, A. Davies, J. Lewis, R. James, K. Madge, E. Rees a S. wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd y cynghorwyr hynny yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch y mater hwn a'r bleidlais ddilynol).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2024 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 - 2026/27 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion o'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau byddai mabwysiadu'r cynigion yn yr adroddiad yn galluogi'r Cyngor i ddarparu cyllideb deg a chytbwys, a oedd yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r broses ymgynghori. Fodd bynnag, roedd yn teimlo bod dyletswydd arno i dynnu sylw at risgiau'r strategaeth, yn ogystal â'r ansicrwydd yn y dyfodol ynghylch codiadau cyflog a chwyddiant, y mae'n rhaid ei dderbyn fel rhan arferol o'r broses pennu'r gyllideb.

 

Nodwyd nifer o risgiau o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon a diffoddwyr tân, y risg o ran cyflawni buddsoddiadau yn y Gwasanaethau Plant, a'r risg oedd ynghlwm wrth ostyngiadau yn y gyllideb ar draws pob rhan o wasanaethau'r Cyngor.

 

 

Yn ogystal, nodwyd bod y gyllideb hon o bosibl yn un o'r rhai anoddaf yn hanes y Cyngor a mynegodd ei bryder ei fod yn gyfnod heriol iawn, pan oedd Awdurdodau Lleol yn y sefyllfa amhosibl o geisio darparu gwasanaethau rheng flaen tra'n parhau i wynebu toriadau gan y llywodraeth ganolog. Roedd dyletswydd ar bob Cynghorydd dros y misoedd nesaf i wneud achos dros bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn gyffredinol, a thros yr angen am ragor o fuddsoddiad oherwydd nid oedd yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gynaliadwy.

 

Pwysleisiwyd, wrth bennu'r gyllideb, bod gwaith yn cael ei wneud i geisio diogelu gwasanaethau rheng flaen gan gadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i isafswm ar yr un pryd, ac er bod 7.5% yn uwch na'r hyn a ddymunir, roedd yn llawer gwell na rhai Awdurdodau Lleol eraill a oedd yn wynebu codiadau oedd mewn ffigurau dwbwl yn y dreth gyngor a bod rhai yn wynebu methdalwriaeth.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu ymateb i'r arolygon. Hefyd, i'r cyd-gynghorwyr am eu hymrwymiad wrth gyfrannu at y seminarau am y gyllideb mewn modd mor gadarnhaol, er gwaethaf yr heriau enfawr sydd i ddod. Cafodd cynigion y gyllideb eu harchwilio'n fanwl hefyd gan y Pwyllgorau Craffu.

 

Yn gyffredinol, nodwyd bod y rhai a oedd yn rhan o'r broses ymgynghori yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd. Yn seiliedig ar y canlyniadau hynny, cytunodd y Cabinet i wneud nifer o addasiadau i gyllideb y flwyddyn nesaf, gyda chyfanswm gwerth o £1.95m. Roedd y rhain mewn ymateb i'r adborth gan y cyhoedd a'r Cynghorwyr a gymerodd ran yn y broses ymgynghori. Roedd y ffigwr hwn yn cynnwys darpariaeth i ohirio nifer o gynigion, gan gynnwys:

 

-   gostyngiad o £1m yng nghyllidebau ysgolion.

 

-   gohirio mwy na £400k o arbedion yng nghyllidebau priffyrdd ac amddiffyn rhag llifogydd, gan gydnabod pryder gan gynghorwyr

 

-   gohirio'r gostyngiadau arfaethedig o £100,000 yr un i wasanaethau cymorth ieuenctid a gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion, a thros £200,000 i gyllid ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus, hyd nes yr ymgynghorit ynghylch yr opsiwn o drosglwyddo asedau.

 

Amlygwyd nad oedd y swm ychwanegol bach gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i ymateb i'r ymgynghoriad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Felly, cynigiwyd defnyddio £1m o gronfa wrth gefn y Grant Cynnal Refeniw i roi amser ychwanegol i ysgolion gyflawni'r newidiadau angenrheidiol yn y ffordd orau bosibl yn ôl amgylchiadau unigol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, petai'r holl gynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu, gallai'r Cyngor ddarparu Strategaeth Gyllideb sy'n:-

·        ymateb i'rymgynghoriad;

·        sicrhau hyd y gellid fod lefelau a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal;

·        cydnabod bod pobl Sir Gaerfyrddin yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd bresennol ac sydd felly'n sicrhau bod gwasanaethau craidd yn cael eu diogelu; ac

·        yn paratoi'r Awdurdod hwn, i'r graddau mwyaf posibl, ar gyfer unrhyw ansicrwydd a allai ddigwydd yny dyfodol.

Cyfeiriwyd at ddifrifoldeb y sefyllfa yr oedd yr Awdurdod yn ei hwynebu ac at y ffaith bod y Cyngor a'r swyddogion yn ceisio gwneud y gorau dros drigolion Sir Gaerfyrddin yn ystod cyfnod heriol iawn.

Diolchodd Aelodau i'r swyddogion a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau am eu gwaith ar y gyllideb dros y misoedd diwethaf.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau mewn ymateb i gynigion y strategaeth cyllideb refeniw a chydnabuwyd yr heriau a'r anawsterau o ran pennu cyllideb eleni, gan gydbwyso hynny â'r hinsawdd ariannol bresennol gan gynnal gwasanaethau o safon i drigolion ac ymwelwyr Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD:

 

8.1.1     cymeradwyo'r Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2024/25, sy'n cynnwys y newidiadau ym mharagraff 4.1.5;

 

8.1.2     cymeradwyo Treth Gyngor Band D o £1,602.80 am 2024/25 (cynnydd o 7.5%);

 

8.1.3     cymeradwyo dileu cynigion arbedion penodol fel y nodir ym mharagraff 3.2.7;

 

8.1.4     cymeradwyo'r defnydd o £3m o gronfa wrth gefn y Grant Cynnal Refeniw, sef £2m i gefnogi costau dros dro lleoliadau preswyl a gomisiynir i blant, ac £1m i gefnogi'r gyllideb ysgolion dirprwyedig, fel yr amlinellir ym mharagraff 5.2.3;

 

8.1.5     cymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a fydd yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

 

8.1.6     rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i wneud unrhyw newid sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 27 Chwefror 2024.


 

 

Dogfennau ategol: