Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2024/25 - 2028/29

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am raglen gyfalaf bum mlynedd 2024/25 hyd at 2028/29. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai'r gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 oedd £86.930m, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £50.374m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £36.556m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Byddai'r rhaglen gyfalaf newydd yn cael ei hariannu'n llawn dros y pum mlynedd, ond cynigiwyd tanymrwymo peth o'r cyllid oedd ar gael i roi hyblygrwydd ar draws y rhaglen i dalu am unrhyw gostau ychwanegol. Roedd strategaeth gyfalaf yr Awdurdod, sy'n ofynnol gan y Côd Darbodaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, wedi'i diweddaru ac mae'n nodi'r cyd-destun hirdymor y gwneir penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi ynddo. Rhoddodd ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo a'r effaith ar gyflawni canlyniadau blaenoriaethol. Roedd y strategaeth gyfalaf yn cwmpasu gwariant ar Gronfa'r Cyngor a chyfalaf HRA a chafodd ei chynnwys fel Atodiad C i'r adroddiad.

 

Dywedwyd y byddai £193m yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen newydd dros y pum mlynedd nesaf, £61m ohono ar gyfer yr ymrwymiad parhaus i wella adeiladau ysgolion, £12m tuag at Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i helpu i drawsnewid ansawdd bywyd llawer o bobl yn eu cartrefi eu hunain, £34m ar gyfer prosiectau adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £16m i gwblhau'r prosiect Pentre Awel a gefnogir gan y Fargen Ddinesig a oedd yn cynnwys canolfan hamdden newydd i Lanelli, £43m i wella seilwaith priffyrdd economaidd lleol a seilwaith ailgylchu a £21m ar gyfer caledwedd a seilwaith TG digidol critigol.

 

Cydnabuwyd, er gwaethaf anawsterau'r amgylchedd economaidd presennol, fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig wedi ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol dros y pum mlynedd nesaf. Ei nod oedd manteisio ar y cyfleoedd cyllido a'r cyllid gan ffynonellau allanol posibl. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol, yn unol â gweledigaeth gorfforaethol y Cyngor, yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd trigolion Sir Gâr ac ymwelwyr, gan ddiogelu ein hadnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Yn ogystal, nodwyd y llwyddwyd i gael £15.5m o gyllid Ffyniant Bro ar gyfer Canol Tref Llanelli a fyddai'n cael cyllid cyfatebol trwy fuddsoddiad o £2.5m o adnoddau ac y byddai gwaith yn dechrau gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar brosiect hyfyw.


 

Tynnwyd sylw at feysydd eraill:-

 

-   Cafodd dros £20m o gyllid ei gynnwys yn y rhaglen ar gyfer cerbydau newydd yn lle'r rhai sy'n heneiddio ac sy'n creu mwy o lygredd.

 

-   Mae £14m tuag at gerbydau newydd ar gyfer cyflwyno'r cynllun didoli ac ailgylchu o d? i d?.

 

-   Er mwyn gwella seilwaith ailgylchu, cynigiwyd sicrhau bod cyfleuster benthyca o £10m ar gael i CWM Environmental i ddatblygu a gwella'r ddarpariaeth ailgylchu yn Nantycaws.

 

-   Bydd angen £4.2m dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer datblygu a gwella seilwaith digidol ac felly cynigwyd i'w gynnwys yn y rhaglen.

 

-   Parhaodd y gefnogaeth i Barth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli. Nod y prosiect unigryw hwn oedd creu cannoedd o swyddi a thrawsnewid tirwedd ac economi de Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a rhanbarth ehangach Gorllewin Cymru.

 

-   Cafodd £1.4m ei gynnwys ar gyfer ailddatblygu Oriel Myrddin. Byddai hyn yn golygu mai cyfanswm y pecyn buddsoddi ar y prosiect pwysig hwn yw £3.5m.

 

-   Roedd y cynllun yn cynnwys rhaglen fuddsoddi dreigl gwerth dros £45m mewn amrywiaeth o wasanaethau. Fodd bynnag, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ei bod yn siomedig nodi nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cyllid grant Cynnal a Chadw Priffyrdd yn y setliad Llywodraeth Leol, felly dyrannwyd £2m o adnoddau'r Cyngor er mwyn gwella amodau'r ffyrdd.

 

Tynnwyd sylw'r Cyngor at un newid. Fel rhan o'r setliad dros dro a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, roedd cyllid cyfalaf yn wreiddiol yn mynd i gael ei leihau £19,000 o'i gymharu â Chyllid 2023-24. Fodd bynnag, yn dilyn y setliad terfynol a gafwyd ar 28 Chwefror 2024, cyhoeddwyd Atodiad A wedi'i ddiweddaru, a oedd yn dangos bod cyllid cyfalaf a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn mynd i barhau ar £11,989,000 ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd hyn yn golygu y byddai £19,000 yn ychwanegol o gyllideb heb ei dyrannu yn cael ei derbyn yn flynyddol am y pum mlynedd nesaf.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau mewn ymateb i gynigion y rhaglen gyfalaf a mynegwyd eu gwerthfawrogiad o ran y prosiectau parhaus gan nodi eu pryderon mewn perthynas â'r heriau a wynebir yn y dyfodol oherwydd yr hinsawdd ariannol bresennol a phryderon ynghylch cyllidebau yn y dyfodol.


 

PENDERFYNWYD:

8.2.1     Bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r cyllid, fel y'i nodwyd yn Atodiad A, gyda 2024/25 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2025/26 – 2028/29 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

 

8.2.2     Bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid cyngor sir neu allanol disgwyliedig.

 

8.2.3     Bod y Strategaeth Gyfalaf yn Atodiad C yn cael ei chymeradwyo;

 

8.2.4     Bod y Cabinet/Cyngor Sir yn dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i wneud unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 27 Chwefror 2024.

 

 

Dogfennau ategol: