Agenda item

CWESTIWN GAN MR DAVID JENKINS I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN-OWEN, YR AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

‘Roedd cyfarfod diweddar yng Nglan-y-fferi a drefnwyd gan aelodau lleol i ymateb i lifogydd mis Ionawr wedi nodi'r canlynol:

-   Gallai gweithredoedd gwael fod wedi cyfrannu at risg llifogydd neu fod wedi arwain at fethu cynnal asedau.

-   Bod hanes o ran diffyg gwaith peirianneg a chynnal a chadw wedi cyfrannu at y llifogydd

-   Nid oes cynlluniau clir ar waith i ymateb i lifogydd

-   Nid oes cynlluniau'n bodoli o ran ôl-ofal i'r bobl y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

-   Er gwaethaf ymwybyddiaeth hirsefydlog ynghylch risgiau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, nid oes cynllun strategol ar gyfer lliniaru risgiau cynyddol

-   Mae diffyg cydlynu rhwng asiantaethau sy'n gyfrifol am wytnwch lleol.

Felly pa gamau y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd i leddfu effaith llifogydd ar drigolion Sir Gaerfyrddin?’

 

Cofnodion:

'Roedd cyfarfod diweddar yng Nglanyfferi, a drefnwyd gan aelodau lleol i ymateb i lifogydd mis Ionawr wedi nodi'r canlynol:-

 

Gallai gweithredoedd gwael fod wedi cyfrannu at risg llifogydd neu fod wedi arwain at fethu cynnal asedau. Bod hanes o ran diffyg gwaith peirianneg a chynnal a chadw wedi cyfrannu at y llifogydd.

 

-   Nid oes cynlluniau clir ar waith i ymateb i lifogydd

-   Nid oes cynlluniau'n bodoli o ran ôl-ofal i'r bobl y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

-   Er gwaethaf ymwybyddiaeth hirsefydlog ynghylch risgiau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, nid oes cynllun strategol ar gyfer lliniaru risgiau cynyddol

-   Mae diffyg cydlynu rhwng asiantaethau sy'n gyfrifol am wytnwch lleol.

 

Felly pa gamau y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd i leddfu effaith llifogydd ar drigolion Sir Gaerfyrddin?’

 

Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen - yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:-

 

Diolch yn fawr iawn Mr Jenkins am eich cwestiwn pwysig iawn ac amserol. Cyn ateb, hoffwn, ar ran yr Awdurdod, gydymdeimlo â holl drigolion y Sir sydd wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros y misoedd diwethaf oherwydd llifogydd a thywydd garw a hefyd diolch i'r cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd i oresgyn sefyllfaoedd heriol. Hoffwn ddiolch hefyd i swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin a oedd wedi helpu yn ystod y cyfnod hwnnw. Gan gynnwys y Cynghorydd Carys Jones yn Llansteffan am ei gwaith diflino yn ystod y llifogydd a hefyd i'r Cynghorwyr Crish Davies a Lewis Davies sydd wedi trefnu cyfarfod yng Nglanyfferi i drafod y sefyllfa yno. Yn wir, mae nifer yn ddiolchgar iawn am eich arweinyddiaeth ac am drefnu sgyrsiau yn y Gymuned. Nid oeddwn yn bresennol yn y cyfarfod yng Nglanyfferi i glywed y sylwadau, ond gallaf gyfeirio at rai o'r pwyntiau rydych wedi'u nodi fel rhan o'r ateb.

 

Fel yr wyf wedi dweud ar sawl achlysur yma yn y siambr, mae dynoliaeth ar bwynt tyngedfennol yn ei hanes, mae tystiolaeth gynyddol o bob cwr o'r byd yn awgrymu ein bod ar yr unfed awr ar ddeg yn y frwydr yn erbyn dirywiad o ran yr hinsawdd a natur, a bydd y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud neu'n methu â'u gwneud yn cael effaith nawr ac ar genedlaethau'r dyfodol. Dyna pam mae'n fraint bod yn rhan o'r Cyngor hwn sydd wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid datgan dau argyfwng ac wedi mynnu bod y weinyddiaeth hon yn rhoi'r hinsawdd a natur wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.

 

Nid yw'r Dirywiad o ran yr Hinsawdd yn rhywbeth sy'n digwydd i bobl eraill mewn rhyw wlad bell, yma yng Nghymru rydym yn gweld enghreifftiau uniongyrchol o dywydd eithafol, yn enwedig llifogydd, wrth i gymunedau wynebu newidiadau yn lefel y môr a phatrymau tywydd afreolaidd a seilwaith sy'n heneiddio na chafodd ei gynllunio i ddelio â'r hyn yr ydym bellach yn ei brofi. Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i liniaru effeithiau gwaethaf Dirywiad o ran yr Hinsawdd, a dyna pam rwy'n falch o'n cynlluniau datgarboneiddio ar draws holl adrannau'r Cyngor hwn, ond bellach mae angen dechrau addasu ein cymunedau i'r newid yn yr hinsawdd sy'n anochel ac sy'nrhuthro tuag atom.

 

Mae llifogydd yn fater cymhleth sy'n golygu bod angen i randdeiliaid ar bob lefel gymryd rhan ragweithiol mewn paratoadau, ymateb ac adferiad. Mae'r mathau o lifogydd yn amrywio ac yn gymhleth gan gynnwys llifogydd afonol, glaw, llanw a llawer mwy o amrywiadau. Ar draws Sir Gaerfyrddin mae tua 12,000 o gyfeiriadau mewn perygl o ryw fath o lifogydd.

 

Yn strategol, mae Llywodraeth Cymru yn gosod y cyfeiriad, amcanion ac yn blaenoriaethu cyllid cyfalaf a refeniw mewn ymateb i berygl llifogydd, tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am oruchwylio a chyfathrebu o ran perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae'n rheoli llifogydd o'r holl brif afonydd, cronfeydd d?r a'r môr ac yn rheoli risg o ran ei waith i ddiogelu'r arfordir fel awdurdod rheoli risg erydu arfordirol.

 

Fel Awdurdod Lleol, ni yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol sy'n rheoli llifogydd o gyrsiau d?r cyffredin, d?r wyneb, d?r daear, gwaith i ddiogelu'r arfordir ac hefyd yn gyfrifol am ddraenio priffyrdd fel yr Awdurdod Priffyrdd. Yna, mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r gefnffordd drwy systemau draenio'r priffyrdd ar y gefnffordd genedlaethol.. Mae D?r Cymru yn gyfrifol am reoli llifogydd o'i systemau d?r a'i systemau carthffosiaeth. Mae llu o bartneriaid sydd â thir a seilwaith allweddol mewn gwahanol rannau o'r wlad. O ran y rhanddeiliaid hyn, nid oes unrhyw ddyletswyddau statudol arnynt. Mewn gwirionedd, Cyngor Sir Caerfyrddin yw Cadeirydd Gr?p Rheoli Perygl Llifogydd Gorllewin Cymru.

 

Mae gwybodaeth amserol a chywir yn elfen hanfodol o ran rheoli'r ymateb gweithredol i'r tywydd sy'n datblygu. Mae'r tywydd yn y DU yn destun set dynamig a chymhleth iawn o newidion, a datblygir rhagolygon i ddarparu'r ddealltwriaeth orau bosibl o dywydd tebygol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod mai rhagolygon yn unig yw'r rhain a gall y tywydd gwirioneddol fod yn wahanol i'r hyn a ddisgwylir.

 

Mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n agos gyda nifer o asiantaethau i rannu gwybodaeth a chydlynu ymatebion.


 

Fel arfer, bydd yr Awdurdod yn cael rhybudd o dywydd garw ymlaen llaw drwy:

 

·       Y Ganolfan Darogan Llifogydd Genedlaethol.

·       Ymgynghorydd Argyfyngau Sifil y Swyddfa Dywydd.

·       Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

·       Rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd (Rhybuddion Melyn/Oren/Coch)

·       Safleoedd monitro tywydd ar ochr y ffordd a systemau rhybuddio o fewn Sir Gaerfyrddin a'r ardal gyfagos.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu gwybodaeth i'n hasiantaethau partner a'n rhagolygwyr tywydd o gyfres o orsafoedd tywydd sydd wedi'u lleoli'n strategol o amgylch y Sir i ddarparu'r gynrychiolaeth orau bosibl o dywydd lleol. Ar hyn o bryd mae 13 o orsafoedd tywydd pwrpasol o'r fath sy'n darparu ystod eang o ddata tywydd drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gwybodaeth am dymheredd wyneb y ffordd, tymheredd yr aer, lleithder, gwynt a data glawiad ynghyd â delweddau camera amser real cyfredol.

 

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddisgwyliadau pellach o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil ar gyfer parodrwydd ac ymateb i argyfyngau fel llifogydd. Rydym yn bartneriaid allweddol ar Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys, sy'n cynnwys partneriaid golau glas fel Heddlu Dyfed Powys, Hywel Dda, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Gwasanaeth Ambiwlans, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cwmnïau Dosbarthu P?er ac eraill. Mae'r Fforwm hwn yn hanfodol ar gyfer ymateb i argyfyngau sylweddol a sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu cydlynu'n briodol i baratoi, lliniaru ac ymateb i'r hyn a allai fod yn sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd. Er nad yw'n Wasanaeth golau glas, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bartner hanfodol ar y lefel hon ac yn darparu arbenigedd gwerthfawr ac mae'n gyfrifol am lu o gynlluniau a gweithdrefnau wedi'u hymarfer yn dda ar gyfer pob math o senario.

 

Un ohonynt yw gweithio gyda bron i 50 o adeiladau cymunedol a fyddai'n dod yn ganolfannau gorffwys mewn argyfwng pe bai galw am hynny. Mae gan bob un gynlluniau a gweithdrefnau rheoli mewn argyfwng dynodedig a staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda i gydlynu.

 

Mae gan Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gofrestr Risg ddynodedig gyda dolenni defnyddiol a thempledi ar gyfer deall y risg sy'n wynebu aelwyd, busnes neu gymuned a chyfleoedd i greu eich cynllun pwrpasol eich hun.

 

Yn ddiweddar rydym wedi cymeradwyo ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol sy'n gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn y sir. Mae'r ddogfen hon wedi cael ei chraffu'n drylwyr gan gydweithwyr o bob rhan o'r siambr ar y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd a bydd yn destun ymgynghori dros yr wythnosau nesaf. Rwy'n hapus i rannu'r dolenni gyda chi yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gweithio o fewn y 7 dalgylch basn afon a nodwyd yn y strategaeth i ddatblygu cynlluniau gweithredu llifogydd lleol ar y cyd.

Wythnos i heddiw, bydd pob aelod o'r siambr hon yn cael cynnig seminar hyfforddi ar Reoli Perygl Llifogydd Lleol ac rwy'n hyderus y bydd aelodau'n ymgysylltu â'r gwaith i'w galluogi i ddod yn hyrwyddwyr lleol o ran datblygu'r cynlluniau lefel cymunedol ar y cyd â'r holl randdeiliaid. O ystyried y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus, mae cynlluniau gweithredu llifogydd a arweinir gan y gymuned yn grymuso trigolion lleol i ddod yn gyfranogwyr gweithredol wrth liniaru peryglon llifogydd, hybu gwytnwch, a diogelu eu cymunedau rhag effeithiau llifogydd.

 

Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi dealltwriaeth i chi o'r gwaith sy'n gysylltiedig â pheryglon llifogydd ac yn rhoi hyder i chi fod llu o gynlluniau a gweithdrefnau ar waith o ran paratoi, ymateb i ddigwyddiadau llifogydd neu senarios tywydd eithafol eraill.

 

Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na ellir gwneud mwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid eraill, lobïo am gyllid priodol a phwysleisio pwysigrwydd addasu ein cymunedau, lliniaru risgiau ac wrth gwrs cefnogi cymunedau sy'n wynebu'r risg uchaf i fynd ati i gymryd rhan mewn llunio cynlluniau ar y cyd i feithrin gwytnwch a'r gallu i adfer.

 

Cwestiwn atodol gan Mr David Jenkins:

 

Ydych chi'n meddwl bod Fforwm Lleol Cymru Gydnerth mor ddefnyddiol â beic i bysgodyn yn y digwyddiadau diweddar yng Nglanyfferi? Oherwydd nid oedd llawer o dystiolaeth, ond rwy'n croesawu'r syniad o bwyllgorau a arweinir gan y gymuned sy'n bwyllgorau lleol a all wneud rhywbeth. A hoffwn gael gwybod faint o adnoddau sy'n debygol o gael eu rhoi tuag at ddatblygu'r adnoddau cymunedol hynny, a fydd, gobeithio, yn ddefnyddiol mewn digwyddiadau yn y dyfodol, y mae llawer ohonynt wedi'u rhagweld.

 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen - yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:-

 

Diolch i chi am eich cwestiwn. Fel y dywedais, mae cymdeithas yn wynebu heriau enfawr o ran yr argyfwng hinsawdd a hefyd pwysau ariannol wrth i Lywodraeth San Steffan wneud cawlach o ran gofalu am gyllid ond mae'n rhaid i ni gymryd camau yma yng Nghymru i ddiogelu ein cymunedau a'u cynnwys yn y ffordd yr ydym yn trefnu cynlluniau perthnasol.

 

Mae gan gymunedau wybodaeth fanwl am ddaearyddiaeth, dyfrffyrdd a phatrymau llifogydd hanesyddol eu hardal. Mae'r wybodaeth hon yn werthfawr ar gyfer deall peryglon llifogydd a llunio strategaethau lliniaru effeithiol. Ac oherwydd bod gwendidau ac anghenion llifogydd pob cymuned yn unigryw, mae cynlluniau a arweinir gan y gymuned yn caniatáu datblygu atebion wedi'u teilwra sy'n mynd i'r afael â heriau a blaenoriaethau lleol penodol.

 

Rydym ni fel awdurdod llifogydd lleol arweiniol bellach yn cynnal ymchwiliad i'r llifogydd dros gyfnod y Nadolig, sy'n amser delfrydol i drafod y posibilrwydd o gynnwys y gymuned a'r ffordd orau o gefnogi hynny. Pan fydd yr ymchwiliad hwn yn dod i ben, bydd y canfyddiadau'n cael eu rhannu gyda'r holl randdeiliaid.

 

Neithiwr, cafodd digwyddiad llifogydd cymunedol ei gynnal yng Nghydweli ac roedd nifer o'r sefydliadau a oedd yn bresennol yn cadarnhau parodrwydd cryf i gydweithio.

 

Fel yr ydych wedi gweld heddiw, mae'r Awdurdod hwn, fel cymaint o rai eraill, yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd iawn, ond rydym yn ffodus iawn o gael staff ymroddedig a chydwybodol sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n preswylwyr.

 

Fel y soniais, mae ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn nodi ein hymrwymiad i ddatblygu cynlluniau llifogydd lleol ar y cyd a fydd yn dechrau dros y misoedd nesaf. Byddai'n wych cael cynghorwyr lleol fel rhan o'r digwyddiadau hyn, yn cefnogi'r sgyrsiau ac yn nodi'r rolau unigryw y gall cymunedau eu chwarae i helpu i lywio'r gallu i wrthsefyll llifogydd ac argyfyngau eraill.

 

Rydym yn chwilio'n gyson am gyfleoedd ariannu i dyfu'r tîm a bydd hyn yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond rydym newydd ymrwymo i ragor o gapasiti trwy swyddog addasu arfordirol a fydd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned. Wrth i'n rhaglen gwaith cyfalaf dyfu, byddwn yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned a gwytnwch cymunedol yn y cynlluniau. Yn amlwg, wrth symud ymlaen ni fydd heriau rheoli llifogydd yn gallu canolbwyntio ar seilwaith caled yn unig, ond bydd angen edrych ar atebion seiliedig ar natur ac yn aml mewn gwahanol rannau o'r dalgylch. Gobeithiwn y gall y rhain fod yn enghreifftiau o arfer da a'u bod yn dangos cyfleodd i ddangos sut y gallwn gyflawni nifer o fanteision i gymunedau sydd mewn perygl, iechyd, twristiaeth, hinsawdd a natur.

 

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae Sir Gaerfyrddin, drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, wedi helpu i ariannu dros 8 miliwn o brosiectau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae'n amlwg bod cymunedau a sefydliadau fel eich un chi, Caerfyrddin Gyda'n Gilydd, yn cydnabod yr angen i liniaru ac addasu i'r dirywiad o ran yr hinsawdd. Efallai y bydd eich siop Sero yng Nghaerfyrddin yn lleoliad ardderchog ar gyfer ffair lifogydd o ryw fath lle gallai ymwelwyr weld enghreifftiau o ymyriadau posibl ar lefel aelwydydd.

 

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phrosiect Green 24 Coleg Sir Gâr sy'n ceisio uwchsgilio cymdeithas o ran y sgiliau sydd eu hangen mewn dyfodol gwahanol iawn. Un o nodau'r prosiect yw ailddatblygu ac addasu adeilad presennol ar orlifdir yng Ngelli Aur i ddangos sut y gellir addasu'r stoc adeiladau presennol ar gyfer byd lle mae llifogydd yn digwydd yn amlach.

 

Byddwn wrth fy modd yn siarad ag unrhyw gr?p a hoffai ymgysylltu â ni ynghylch addasu a chydnerthu cymunedol.

 

Mae angen i ni gofio nad yw'r daith tuag at cydnerthedd a chynaliadwyedd yn un yr ydym yn ymgymryd â hi ar ein pen ein hunain. Mae'n ymdrech ar y cyd, wedi'i blethu â llinynnau cydweithredu, arloesi ac ysbryd cymunedol. Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi ymrwymo i arwain yr ymgyrch, ond trwy gryfder ein gweithredoedd a'n llais unedig y byddwn yn creu dyfodol lle mae ein cymunedau yn ffynnu yng nghanol heriau'r dirywiad o ran yr hinsawdd. Felly, gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn groesawu'r cyfle i ddiogelu ein planed, grymuso ein pobl, ac adeiladu gwaddol o wytnwch ar gyfer cenedlaethau i ddod.