Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oeddent wedi gofyn amdano yn dilyn pryderon ynghylch y sefyllfa bresennol yn y Gwasanaethau Plant.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno cefndir a chyd-destun y sefyllfa gyllidebol.
Nodwyd bod y Gwasanaethau Plant, yn chwarter cyntaf 2023-2024, wedi rhoi gwybod am orwariant amcanol o £5.3 miliwn mewn perthynas â chyllideb gyffredinol o £23 miliwn. O ganlyniad, comisiynwyd ac arweiniwyd adolygiad gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal dadansoddiad mewn perthynas â'r elfennau sy'n ysgogi'r galw a chanolbwyntio ar feysydd lle bu gorwariant sylweddol.
Nododd y Pwyllgor fod Cynllun Trawsnewid wedi'i lunio o'r dadansoddiad hwnnw a oedd yn ceisio rheoli'r galw yn y dyfodol a sicrhau cyllideb gytbwys.
Sir Gaerfyrddin oedd â'r gyfradd isaf o Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru fel arfer, ac roedd ganddi hefyd niferoedd isel o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Cyflawnwyd hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar yn ogystal â mabwysiadu dulliau arloesol o ddiogelu yn gynnar.
Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y bu cynnydd sylweddol yn nifer y cyfarfodydd strategaeth ac ymchwiliadau Adran 47. Mynegwyd pryder unwaith eto am y diffyg gweithwyr cymdeithasol oedd ar gael a dywedwyd bod rhaglen hyfforddeion ar waith yn yr Awdurdod a fyddai'n arwain at 10 gweithiwr cymdeithasol ychwanegol. Pryder arall a fynegwyd oedd yr angen am fwy o gapasiti a model llety newydd er mwyn lleihau'r gorwariant mewn perthynas â chyllid y Swyddfa Gartref ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, yn dilyn y buddsoddiad sylweddol yn y maes gwasanaeth, ei bod yn hanfodol bod canlyniadau'n cael eu cyflawni ac y byddai'r rhain yn cael eu monitro'n ofalus. Byddai diweddariadau cynnydd rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor Craffu.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
· Gofynnwyd i swyddogion a oedd cais am gyllid ychwanegol wedi ei wneud i'r Swyddfa Gartref. Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y Swyddfa Gartref wedi cael ei herio ynghylch cyllid, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac y byddent yn parhau i wneud hynny. Byddai manylion y cyllid presennol yn cael eu dosbarthu i'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
· Mewn ymateb i bryder ynghylch cost gofal y tu allan i'r sir i blant, dywedwyd bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud mewn tai sy'n eiddo i'r awdurdod a'r gwasanaeth maethu.
· Nodwyd bod y cyllid am gyfnod o ddwy flynedd. Cadarnhaodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd ei bod yn rhaglen 2 flynedd ac y byddai angen trawsnewid y gwasanaeth maethu yn llwyr.
· Mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd ynghylch taliadau i weithwyr maeth, gofynnwyd a oedd y lwfans yn cael ei bennu gan yr Awdurdod neu gan gorff arall. Cadarnhaodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y gyfradd yn cael ei gosod gan yr Awdurdod er bod y gyfradd isaf yn cael ei gosod gan Lywodraeth Cymru. Tynnwyd sylw at yr angen am fframwaith talu tryloyw a dywedwyd bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan ymgynghori'n barhaus â gofalwyr maeth. Byddai'n rhaid i'r fframwaith ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol plant.
· Gan gyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn anghyfreithlon i Awdurdodau Lleol yng Nghymru leoli plant mewn cartrefi gofal preswyl preifat ar ôl 2026, gofynnwyd a fyddai gan Sir Gaerfyrddin ddigon o ddarpariaeth yn barod. Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y byddai angen i Sir Gaerfyrddin, o ganlyniad i hyn, ddatblygu opsiynau lleol a bod yr amrywiaeth o wasanaethau preswyl a ddarperir eisoes yn tyfu a bod disgwyl y byddai'r Awdurdod yn barod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: