Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/04244 |
8 t? fforddiadwy newydd ar dir ger 91 Maes yr Haf, Pwll, Llanelli, SA15 4AU |
|
(NODER: Datganodd y Cynghorydd T. Davies fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.)
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau gan yr aelodau lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod: Ni chaniatawyd cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:-
· Yr heriau topograffig; · Yr effaith niweidiol y byddai'r datblygiad yn ei chael ar drigolion a busnesau lleol; · Colli ardal gymunedol werthfawr yn sgil y datblygiad; · Cynyddu'r pwysau traffig ar yr A484 a gwaethygu problemau parcio; · Diffyg ymgynghori â phreswylwyr lleol.
Ymatebodd y swyddogion i'r materion a godwyd. |
PL/05853 |
Siop gyfleustra i'r gymdogaeth, gan gynnwys cyfleuster cludfwyd poeth gyrru trwodd ar dir gyferbyn â Ffos Las, Culla Road, Trimsaran, SA17 4HD. |
3.2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais canlynol er mwyn i'r ymgeisydd allu darparu rhagor o wybodaeth i ymdrin â'r materion sydd heb eu datrys:-
PL/00895
|
Preswylfa menter wledig â sied amaethyddol gysylltiedig ar dir yn Derwen Fawr, Crug-y-bar, Llanwrda |
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
· Roedd y datblygiad yn gymedrol ac yn gydnaws â'r dirwedd; · Roedd y cais yn cefnogi anghenion lleol; · Byddai'r datblygiad yn lleihau teithio i'r safle ac yn gwella diogelwch priffyrdd; · Yn ddiweddar, roedd yr ymgeisydd wedi sicrhau tenantiaeth tir arall.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd. |
3.3 PENDERFYNWYD, a hynny ar gais yr aelod lleol, ohirio ystyried y cais canlynol i alluogi rhagor o drafod rhwng swyddogion a'r ymgeisydd.
PL/06643 |
Cais am estyniad deulawr ar yr ochr a newidiadau i'r byngalo presennol, ynghyd ag estyniad i'r cwrtil domestig, Golygfa, Cydweli, SA17 5AR. |
3.4 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ymweld â'r safle os ceir caniatâd gan y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn dilyn asesiad risg.
PL/05187 |
Codi preswylfeydd newydd, mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith cysylltiedig arall ar dir Cefncaeau, Llanelli. |
|
(NODER: Datganodd y Cynghorydd T. Davies fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch)
Oherwydd ymrwymiad arall, ni allai'r aelod lleol fod yn bresennol yn y cyfarfod ac yn ei habsenoldeb, darllenodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu ddatganiad ysgrifenedig yn gofyn am ymweliad safle er mwyn ystyried y pwyntiau canlynol:
· Yr effaith niweidiol ar y Ganolfan Adar y Gwlyptir leol; · Colli safle ar gyfer adar, madfallod d?r a llygod pengrwn; · Cyflwyno llygryddion posibl i gyrff d?r; · Materion traffig a phriffyrdd; · Mwy o lifogydd.
Ymatebodd y swyddogion i'r pwyntiau a godwyd. |
3.5 PENDERFYNWYD gwrthod y cais canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/06296
|
Storfa bren a llawr caled cysylltiedig (ailgyflwyno Cais Cynllunio PL/05564) ar dir gyferbyn â Gilfach Wen, a elwid gynt yn Penroc, Caio, Llanwrda, SA19 8UH |
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
· Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law gan ymgyngoreion; · Roedd maint y datblygiad yn briodol i wasanaethu anghenion domestig yr ymgeiswyr o ran sychu boncyffion; · Coed ynn heintiedig oedd y coed a dorrwyd;
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd. |
3.6 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar gwblhau A106 ac amodau, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i'w wrthod, oherwydd barnwyd bod y cais yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:-
PL/04027
|
Preswylfa 3/4 ystafell wely Anghenion Lleol ar wahân, gyda 3 lle parcio, ffordd fewnol, gwella'r mynediad presennol i'r cae a gwaith safle cysylltiedig. Byddai'r cynigion hyn yn gofyn am newid defnydd o dir amaethyddol i breswylfa C3 ar dir gyferbyn â Sparrows Nest, Hendy-gwyn ar Daf SA34 0LG |
Dogfennau ategol: