Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw Corfforaethol 2024/25 i 2026/27 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y setliad dros dro a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023, a oedd y dyddiad hwyraf a roddwyd erioed.
Atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2024 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Amlygodd yr adroddiad nad oedd cyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer codiadau pensiwn Athrawon na Diffoddwyr Tân, gan nad oedd wedi cael ei weithio drwy Lywodraeth Cymru a San Steffan. Er y tybir na fydd hyn yn cael effaith ar ein sefyllfa ariannu, ystyriwyd bod hyn yn risg sylweddol hyd nes iddo gael ei gadarnhau'n ffurfiol, gyda gwerth o oddeutu £4 miliwn.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i unioni'r diffyg cynhenid yn y gyllideb o ganlyniad i naill ai'r codiad yn nhâl Athrawon (a bennwyd gan Lywodraeth cymru) na dyfarniad cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol 2023 (a bennwyd gan fargeinio cenedlaethol ynghylch tâl) ac mai dyma'r setliad mwyaf heriol ers datganoli.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y disgwylir i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 27 Chwefror 2024, ynghyd â chyllideb Llywodraeth Cymru, sef y diwrnod cyn i'r cyngor llawn gyfarfod i gytuno ar y gyllideb derfynol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i Graffu Corfforaethol a Pherfformiad:-
Atodiad A – Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2024/25 i 2026/27
Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol
Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol
Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol
Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam y dewiswyd y senario amgen gan yr Awdurdod ar gyfer y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adnoddau mai dyma'r opsiwn mwyaf realistig o'r ddau opsiwn a gynigir, oherwydd ansicrwydd etholiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd â Phrif Weinidog newydd yng Nghymru.
· Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi bod yn rhagweithiol wrth hysbysu perchnogion eiddo o'r cynnydd mewn premiymau i ail gartrefi a thai gwag. Cymeradwywyd y cynnydd hwn gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2023 a chynaliadwy adolygiad o'r polisi yn ystod 2024. Bydd y Cabinet yn ystyried cynnydd pellach posibl mewn premiymau. Bydd yr incwm a dderbynnir yn cael ei gynnwys yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, gydag adroddiad i'r Cabinet ystyried sylfaen y dreth yn ystod tymor yr hydref.
· Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y benthyciad i'r Scarlets wedi aeddfedu ac mae cyfarfod rhwng pleidiau wedi ei drefnu yn ystod mis Chwefror i weithio i gyrraedd canlyniad derbyniol.
· Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod rhagolygon y gyllideb addysg yn cael eu monitro drwy gydol y flwyddyn ac oherwydd pwysau gwariant newydd, dyrannwyd swm dangosol o £15.4 miliwn ar draws adrannau, fel y nodwyd yn atodiad B yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r maes lle mae'r pwysau mwyaf arwyddocaol oedd yn y gwasanaethau plant.
· Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynnydd o 4% ar gyfer cyflogau staff yn dybiaeth realistig, o ystyried bod cyfradd chwyddiant yn gostwng.
· Nodwyd gan y Pwyllgor, oherwydd diffyg gwybodaeth a ddarparwyd gan ysgolion ynghylch cronfeydd wrth gefn unigol, na ellid rhagdybio rhagolygon y dyfodol.
· Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion Marchnata a'r Cyfryngau yn ystyried darparu adborth ymgynghori ynghylch y gyllideb i'r cyhoedd.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cynnydd yn ffioedd Llesiant Delta, cadarnhaodd swyddogion fod Cytundeb Lefel Gwasanaeth bellach yn berthnasol i fwy o sefydliadau ac awdurdodau eraill gan gynnwys Sir Gaerfyrddin. Bu cynnydd yn nifer y staff, gan godi o 40 i 100, a newidiadau i dechnoleg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
4.1 dderbyn yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 i 2026/27
4.2 bod y Crynhoad Taliadau a nodir yn Atodiad C yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: