Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn darparu i'r Aelodau wybodaeth fanwl am ddull y Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Sir Gaerfyrddin.
Eglurodd yr adroddiad sut y byddai llifogydd yn cael eu rheoli ar draws Sir Gaerfyrddin, yn unol ag amcanion, mesurau, a pholisïau lleol a'n strategaethau corfforaethol a chenedlaethol. Roedd y strategaeth hefyd yn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndirol am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar lefel leol a chenedlaethol.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Wrth gymeradwyo'r manylion a ddarparwyd yn yr adroddiad, dywedwyd y byddai problemau llifogydd yn parhau yn anffodus pe bai'r un hen ddulliau ymyrraeth yn dal i gael eu defnyddio. Mae angen ymchwilio i ddulliau arloesol newydd a'u cyflwyno i leihau'r problemau llifogydd a wynebir o achos newid hinsawdd a chodi rhagor o adeiladau. Y teimlad oedd dylid rhoi pwysau ychwanegol ar Lywodraeth Cymru i ystyried newid defnydd tir lle roedd glawiad ar ei drymaf. Cynigiwyd felly bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor yn egluro'r pryderon am lifogydd ac yn dweud bod angen newid defnydd tir i reoli'r problemau llifogydd presennol.
· Dywedwyd y dylai'r Cabinet ystyried sicrhau bod rhagor o arian ar gael ar gyfer y maes hwn.
· Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir, mewn ymateb i ymholiad, fod y Swyddog Dyletswydd Digwyddiadau Llifogydd (FIDO) fel rhan o rota wythnosol, yn monitro'r tywydd bob dydd, yn enwedig glawiad a'r llanw. Mae pryderon yn cael eu hadrodd i'r rheolwyr sy'n gweithredu yn unol â hynny.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch glanhawyr cwlfer, eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod glanhawyr cwlfer a systemau jet ar hyn o bryd yn cael eu rhannu rhwng depos yn Sir Gaerfyrddin a'u bod yn cael eu defnyddio ar sail blaenoriaeth yn amodol ar adnoddau.
· Gofynnwyd pa mor ragweithiol oedd y tîm o ran cynnig llifddorau i'r rhai a allai fod eu hangen mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd? Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod 'ffeiriau llifogydd' yn cael eu cynnal mewn ardaloedd o angen. Awgrymwyd bod llythyrau a thaflenni yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu i aelwydydd yn esbonio beth gallent ei wneud i ddiogelu eu heiddo rhag llifogydd.
· Dywedwyd bod unrhyw falurion a gâi eu clirio o ddraeniau ar hyn o bryd yn cael eu gadael ar y palmant/ochr y ffordd yn hytrach na'u cludo i ffwrdd. Wedyn roedd yn bosibl gallai'r malurion gael eu golchi yn ôl i'r system ddraenio yn ystod y glawiad trwm nesaf. Dywedwyd bod yr arfer hwn yn wastraff amser ac adnoddau. Awgrymwyd felly bod malurion yn cael eu symud ymaith ar ôl clirio draeniau. Derbyniodd swyddogion y pwynt a godwyd a byddent yn ei ystyried.
8.1 derbyn y Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
8.2 anfon llythyr i Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor am gyllid ar gyfer llifogydd yn y dyfodol i alluogi dulliau arloesol ar gyfer ardaloedd lle mae perygl mawr o lifogydd.
Dogfennau ategol: