Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27

Cofnodion:

[Sylwer: Bu i'r Cynghorydd S. Godfrey-Coles ddatgan budd personol yn yr eitem hon. Arhosodd yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth a'r pleidleisio.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 i 2026/27, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu rhagolwg i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/2025, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027, yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Pwyllgor, wrth gyflwyno'r adroddiad, fod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.3% (£11.0m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £349.441m ar gyfer 2024/25. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Lle a Seilwaith;

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Dywedwyd bod yr adroddiad hwn yn dangos sefyllfa ddigynsail ac yn amlygu difrifoldeb y sefyllfa lle'r oedd yn mynd yn fwyfwy anodd dod o hyd i feysydd i wneud arbedion ynddynt heb effeithio ar wasanaethau.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol mai dyma'r tro cyntaf yn ei yrfa iddo adrodd cyllideb ddrafft anghytbwys.

 

  • Mynegwyd pryderon go ddifrifol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cynnal a Chadw Priffyrdd, lle nodwyd arbediad effeithlonrwydd o £100,000 drwy leihau gwaith gosod wyneb ffyrdd. Roedd y Pwyllgor wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryderon ynghylch y diffyg cyllid i gynnal ffyrdd Sir Gaerfyrddin, ac roedd y cynnig yn aberth ychwanegol o ran cynnal y rhwydwaith ffyrdd.

 

  • Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â'r cynnig i roi'r gorau i sgubo mecanyddol yn rheolaidd ar ffyrdd gwledig, a dim ond gwneud hynny ar sail adweithiol, dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod draenio yn allweddol o ran datrys llawer o faterion

 

  • Codwyd nifer o bryderon ynghylch y cynigion i wneud arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas â'r meysydd canlynol:-

·       Gosod wyneb ffyrdd

·       Gwneud gwaith sgubo mecanyddol ar ffyrdd gwledig ar sail adweithiol yn hytrach nag yn rheolaidd

·       Cyflwr ffyrdd yn dirywio

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith mai pwrpas gosod wyneb ar ffyrdd oedd ymyrryd mewn modd amserol i ymestyn oes strwythur y ffordd.  Cydnabuwyd, yn anffodus, nad oedd cyfyngiadau presennol y gyllideb yn caniatáu rheoli asedau yn y tymor hir.  Ar hyn o bryd, o fewn y gyllideb gyfyngedig, roedd rhaglen o osod wyneb ffyrdd ar waith a oedd yn cael ei blaenoriaethu yn ôl eu cyflwr a beth oedd y gyllideb yn ei ganiatáu.  O ran y drefn arolygu yngl?n â thyllau yn y ffordd, mewn egwyddor y peth diogelaf fyddai arolygu, cofnodi ac atgyweirio tyllau'n briodol.  Yn ogystal, pwysleisiwyd er bod draenio yn allweddol wrth ddatrys llawer o broblemau, byddai difrod yn cael ei reoli trwy systemau arolygu arferol a dulliau adrodd a byddai'r dull atgyweirio yn seiliedig ar ddifrifoldeb y difrod ac yn cael ei flaenoriaethu yn unol â hynny.

 

Pe bai'r Pwyllgor yn cefnogi'r arbedion effeithlonrwydd hyn, mynegwyd pryder y byddai'n niweidiol i ddefnyddwyr ffyrdd ac y gallai Aelodau fod yn atebol am hynny o bosibl. Gan ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fyddai hynny'n y pen draw.  Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, hysbyswyd Aelodau'r Pwyllgor y byddai'r Aelod Cabinet dros Adnoddau yn cynnig codi'r £600k presennol a neilltuwyd i gynnal a chadw'r priffyrdd i £2m, ar gyfer rhoi sylw i'r ffyrdd oedd yn y cyflwr mwyaf difrifol.

 

·       Cyfeiriwyd at godi am barcio ym meysydd parcio y sir a oedd yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd.  Mynegwyd pryderon y gallai cyflwyno taliadau mewn meysydd parcio oedd am ddim gael effaith niweidiol ar fusnesau lleol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwaith fod adolygiad ar y gweill a fyddai'n ystyried meysydd parcio am ddim ac effaith cyflwyno taliadau parcio ar yr ardal gyfagos.  Byddai adroddiad terfynol yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor Craffu maes o law. Dywedwyd bod y taliadau ym meysydd parcio Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhatach na'r rhai mewn Awdurdodau cyfagos.

 

Cynigiwyd bod y Cabinet, fel rhan o'r ymgynghoriad, yn ystyried bod y cynnig  taliadau parcio yn cael ei adolygu yn seiliedig ar y rhesymau dros ddarpariaeth parcio am ddim mewn ardaloedd unigol. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

·       Cyfeiriwyd at y cynnig na fyddai dysgwyr 16 i 18 oed sy'n mynychu'r ysgol neu'r coleg bellach yn cael cludiant am ddim, a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid iddynt wneud eu trefniadau eu hunain.  Mynegwyd pryder cryf y byddai'r cynnig hwn yn cael effaith niweidiol ar allu'r gr?p oedran i fynychu'r coleg, gan effeithio o bosibl ar eu cyfleoedd bywyd.  Eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol mai'r bwriad oedd cyflwyno'r cynnig hwn yn 2025/26, ac yn y cyfamser byddai ymarfer cwmpasu llawn yn cael ei gynnal a gellid cyflwyno adroddiad ar ôl ei gwblhau.

 

Felly, cynigiwyd bod y Cabinet yn ailystyried yr arbediad effeithlonrwydd arfaethedig i gael gwared ar y ddarpariaeth cludiant am ddim i ddysgwyr 16 i 18 oed sy'n mynychu'r ysgol neu'r coleg.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1

 

6.2

derbyn Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2024/25 i 2026/27;

 

derbyn y cynigion ar gyfer cyflawni arbedion effeithlonrwydd fel y nodwyd yn Atodiad A(i) ar yr amod bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad gan ganolbwyntio ar y canlynol:-

·       Cynyddu'r cyllid sydd ar gael i gynnal a chadw priffyrdd;

·       Ailystyried ac adolygu cyflwyno taliadau meysydd parcio yn seiliedig ar y rhesymeg dros ddarparu lle parcio am ddim mewn ardaloedd unigol;

·       Ailystyried y cynnig i roi'r gorau i gludiant i'r ysgol/coleg am ddim i bobl ifanc 16 i 18 oed;

 

6.3

 

bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Lle a Seilwaith, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: