Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2023, mewn perthynas â gwasanaethau dan orchwyl y Pwyllgor Craffu - Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai £1.957m oedd y gorwariant net amcangyfrifedig, a oedd yn cynnwys £700k oherwydd bod y dyfarniad cyflog gwirioneddol yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd ar ei gyfer.  

 

Roedd yr is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn rhagweld gorwariant o fwy na miliwn o bunnoedd am y flwyddyn.  Y prif amrywiannau oedd £300k oherwydd difrod storm i briffyrdd, colli incwm ar y Gwasanaethau Parcio o £277k a gorwariant o £908k ar Gludiant Ysgol.

 

Roedd yr is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yn rhagweld gorwariant o £664k o ganlyniad i bwysau o £775k achos costau cynyddol cyflwyno cam interim y strategaeth wastraff, oherwydd gorfod rhoi mesurau wrth gefn ar waith.

 

Adroddwyd wrth gyflawni'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2023/24 fel yr oeddent yn Atodiad G i'r adroddiad, rhagwelwyd cyflawni arbedion effeithlonrwydd o £1.3m yn 2023/24, a fyddai £318k yn is na'r targed.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y Gwasanaethau Gwastraff o fewn y Prif Amrywiannau - Atodiad B yr adroddiad. Gofynnwyd am eglurhad ar y sylw 'Mae Alldro yn cynnwys tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn' mewn perthynas â'r amrywiad o £571k.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod hyn o ganlyniad i newid y dull casglu gwastraff tuag at drefn o gasglu wrth ymyl y ffordd.  Ar hyn o bryd, roedd cerbydau ychwanegol yn casglu'r gwydr o ymyl y ffordd, gan arwain at gostau ychwanegol dros dro.  Er mwyn rheoli costau, roedd rhywfaint o'r costau'n cael eu talu drwy dynnu cronfeydd wrth gefn i lawr.

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch effaith gwasanaethau pe na bai'r swyddi gwag yn cael eu llenwi.  Dywedwyd er bod cynigion i arbed arian drwy beidio â llenwi swyddi gwag, ynghyd â'r rhewi presennol ar recriwtio, fod yr adroddiad yn nodi tanwariant mewn cysylltiad â swyddi gwag amrywiol gan gynnwys Rheoli S?n fel enghraifft oedd yn Ddyletswydd Statudol.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyllid llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer pob swydd oedd yn rhan o strwythur staffio'r Cyngor. Fodd bynnag, o ran rhai sy'n gadael a mamolaeth, mae natur y broses recriwtio, sy'n amrywio o ran hyd, yn creu tanwariant cyflog sydd wedyn yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad monitro'r gyllideb.  Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyflwyno'r drefn o rewi recriwtio yn adlewyrchu difrifoldeb sefyllfa'r gyllideb a bod y cam hwn wedi'i gymryd i osgoi camau fel diswyddiadau.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad D yr adroddiad - prif amrywiannau Adran/Cynlluniau. Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y sylwadau a briodolir i amrywiannau 'Llithro i flynyddoedd y dyfodol', rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd yr arian ar gyfer cyllidebau cyfalaf bob amser yn cyd-fynd â phennu'r gyllideb flynyddol, ac oherwydd hyn byddai'n aml yn llithro i'r flwyddyn ganlynol.

 

·       Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sylw 'angen refeniw a chyfraniad CSC' ar gyfer yr amrywiant 11k a briodolir i Ddiogelu'r Arfordir a nodir ar Atodiad D. Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod yr amrywiant o 11k i ariannu hyfforddiant ym maes diogelu'r arfordir, ond adroddwyd bod £268k ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon oddi wrth Lywodraeth Cymru a fyddai'n gwrthbwyso'r amcanestyniad cyllido.


 

·       Cyfeiriwyd at Fynediad i Gefn Gwlad o dan adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth Atodiad G(ii) Arbedion ar Darged.  O ran y sylw ynghylch 'rhoi'r gorau i glirio dewisol gan gontractwyr', gofynnwyd a oedd dulliau gorfodi addas yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod tirfeddianwyr yn clirio llystyfiant sy'n gordyfu?  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol y byddai hysbysiadau gorfodi yn parhau i gael eu cyflwyno i dirfeddianwyr lle bo angen, a byddai cost unrhyw waith a wnaed gan y Cyngor yn cael ei hadfer wrth y tirfeddiannwr.

 

·       O ran amcanion newid hinsawdd y Cyngor, gofynnwyd a oedd refeniw ychwanegol yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i gyrraedd targedau'r Cyngor?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod cyllid yn cael ei dderbyn i helpu i gyflwyno cerbydau trydan a gwella'r modd roedd adeiladau wedi'u hinswleiddio/gwresogi. Darparwyd cadarnhad y byddai cyllid pellach yn cael ei geisio o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni'r ymrwymiad sero net a wnaed gan y Cyngor.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr arian a briodolwyd i Lwybr Beicio Dyffryn Tywi ac amseroldeb y gwariant, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod y proffil ariannu wedi'i ymestyn a'i gymeradwyo hyd at fis Mawrth 2025.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad G(iv) yr adroddiad - Y Gwasanaethau Parcio. Dywedodd y sylw fod 'y gwasanaethau'n dangos gorwariant o £375k ar adroddiad monitro cyllideb mis Awst oherwydd gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi’.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod effaith ddifrifol o hyd ar y sector manwerthu ac incwm o feysydd parcio yn dilyn pandemig Covid, pryd trodd cynifer o bobl at siopa ar-lein gan arwain at gwymp sylweddol yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi.  Adroddwyd bod y cynnydd o 5% yn llai na'r gyfradd chwyddiant bresennol o 6.7%, a'i bod yn rhatach parcio ym meysydd parcio'r Cyngor na'r rheiny oedd mewn dwylo preifat. Yn ogystal, dywedwyd bod meysydd parcio'r Cyngor yn costio £600k y flwyddyn mewn trethi ac ardrethi annomestig, a delir i Lywodraeth Cymru.   Rhoddwyd sicrwydd bod sylw'n cael ei roi i fesurau eraill er mwyn cynyddu ymwelwyr yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD bod Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: